Tudalen 1 o 2

"ou' yn lle "w"

PostioPostiwyd: Llun 21 Mai 2012 2:53 pm
gan tommybach
Rwy'n credu bydd yr iaith yn edrych yn bertach os newidion ni'r "w" i "ou"...

Cwrw = Courou
Twrw = Tourou
Crwbanod = Croubanod
Ofnadw= Ovnadou
Brwnt = Brount
Enw - Enou
Wetws = Wetous
Cwm Mawr = Coum Mawr
Coed y Fedw = Coed y Vedou
Trwm = Troum
Cwmbwrla = Coumbourla
Betws Bledrws = Betous Bledrous

Mae'n gwneud i'r iaith edrych yn debycach i Ffrangeg, iaith rywiol iawn :winc:

Re: "ou' yn lle "w"

PostioPostiwyd: Llun 21 Mai 2012 3:11 pm
gan Rhobert Ap Wmffre
Mae'n edrych fel Llydaweg, dwi'n credu.

Re: "ou' yn lle "w"

PostioPostiwyd: Llun 21 Mai 2012 3:19 pm
gan tommybach
Pwynt teg, Rhobert ap Oumfre :winc:

Re: "ou' yn lle "w"

PostioPostiwyd: Sul 27 Mai 2012 9:39 pm
gan Seonaidh/Sioni
Rhy syml - mae'r iaith yn fwy cyffrous na hynny. Beth ydy lluosog "cwrw", gyda llaw? "Ofnadw" - tipyn tafodieithol efallai: "ofnadwy" yw'r gair swyddogol (?ovnadoui).

Newid sillafu - beth am y ffordd Aeleg, pethau fel "da dtad", "da mham", "omhnadaoi", "trum",...

Amser profi dysgu iaith newydd. Ac i ddechrau byddi di wastad yn meddwl yn nhermau iaith arall ac efallai'n credu basai'r iaith newydd yn haws onibai... Wel, paid. Pan fyddi di'n meddwl yn y Gymraeg, heb chwilio termau eraill neu gyfieithiad bob yn ail, efallai yna - ac nid o'r blaen - fyddi di'n barod am feddwl am "welliannau" ar yr iaith.

Re: "ou' yn lle "w"

PostioPostiwyd: Llun 28 Mai 2012 9:04 pm
gan ap Dafydd
Beth am y sefyllfa ar y foment lle bod ni'n defnyddio "ou" mewn cyd-destyn tafodiaeth? Er enghraifft "dou" yn lle "dau"?

gwyn eich byd

Ffred

Re: "ou' yn lle "w"

PostioPostiwyd: Maw 29 Mai 2012 12:48 pm
gan Gorwel Roberts
Beth am dreiglo yn Saesneg?

The gat (yn lle the cat)

I saw a dog - gwelais gi - I saw a ddog

ac yn y blaen

Re: "ou' yn lle "w"

PostioPostiwyd: Mer 30 Mai 2012 1:49 pm
gan Chickenfoot
Yay, Geraint Ouyn Jones fuaswn i o dan y drefn newydd.

Re: "ou' yn lle "w"

PostioPostiwyd: Gwe 01 Meh 2012 8:09 pm
gan Geraint
Sut sa chi'n sillafu wel wwwww jiw jiw?

ouel ouououououou jiou jiou???

O ddifri, na - mae isho cadw cymraeg yn ffonetig - di ou ddim yn swnio fel w! Mae W yn neud o edrych yn gymraeg. Oes iaith arall yn defnyddio w fel da ni yn, allan o ddiddordeb?

Mae ein defnydd o w yn wahanol. Ac yn wefreiddiol. W am byth.

W.

Re: "ou' yn lle "w"

PostioPostiwyd: Gwe 01 Meh 2012 8:32 pm
gan Josgin
Flynyddoedd maith yn ol, pan yn dysgu yn un o ysgolion Ynys Mon , clywais stori wir am ddisgybl a oedd yn cael ei ddysgu i dreiglo. Gan ei fod yn ddisgybl ail iaith, roedd yn arferiad iddynt drosi llawer i'r Saesneg er mwyn cyfleu ystyr. Wrth gael ei ddysgu i dreiglo, penderfynodd y creadur gyfieuthu hefyd.
Canlyniad : Fy Neep ( Fy nafad ) Fy Mhall ( Fy mhel) Fy Nhouse , Fy Nhather , ayb ......
Mae'n siwr fod yr hogyn wedi cael A* yn TGAU am iddo sillafu 'Fy' wedyn yn iawn .

Re: "ou' yn lle "w"

PostioPostiwyd: Sad 02 Meh 2012 8:11 am
gan Seonaidh/Sioni
Wel mae anhawster ynglyn ag W fel llafariad ac W nad yw yn llafariad: beth am gymryd y ffordd Lydaweg yma hefyd - ñv? E.e. glaw - glañv...