gan Josgin » Sul 24 Meh 2012 11:05 am
Nefi, am beth diflas i'w ddarllen " The Empire strikes back" , go iawn. Dwi'n poeni, mae'n rhaid i mi gyfaddef , fod nifer o gwynion y cyfeillion yn ddilys ( o'u safbwynt hwy ) , felly mae'n anodd dadlau yn eu herbyn. Pan yn brolio addysg Gymraeg , tueddwn i feddwl am lwyddiant digamsyniol y De , lle mae disgyblion yn mynychu ysgolion addysg Gymraeg o wirfodd eu rhieni. Mae yn cyswllt rhwng addysg Gymreag yn y cynradd/uwchradd yn amlwg. Yn anffodus, mae nifer o'r cwynion i'w gweld yn deillio o du rhieni sydd wedi mewnfudo i'r Gorllewin , lle bo addysg Gymraeg yn orfodol. Mae synnwyr yn dweud bod nifer fawr ohonynt am fethu. Gallaf ddweud i sicrwydd fod addysg Gymraeg yn anaddas i ganran sylweddol o ddisgyblion sydd a'u rhieni yn eu herbyn. Rhagdybiaeth hunan-gyflawnedig , gan mai rhain yw'r union bobl sydd yn swnian eu bod yn cael cam. Gan fod cynifer o fewnfudwyr belllach mewn cymunedau oedd yn uniaith pan ysgrifennwyd y polisiau iaith ,
nid yw'r disgyblion bellach yn cael eu cymhathu fel y buasent ar un pryd. Mae eu sefyllfa fel Seithennyn yn cwyno fod Cantre'r Gwaelod yn rhy damp iddo.