Tudalen 1 o 1

Gogwatch

PostioPostiwyd: Iau 21 Meh 2012 5:26 pm
gan L'etranger
Dwi 'di bod yn ymwybodol o'r wefan http://www.gogwatch.com/ am ychydig o amser nawr, a'i defnyddwyr twp a di-Gymraeg.(y rhan fwyaf.) Ond beth yw'r consensws: - Ydy e'n well i'w hanwybyddu, neu i chwalu eu dadleuon un-wrth-un (sydd yn hwyl... :lol:)

Ddim yn sicr os oes unrhywun dal ar ol yma ar maes-e, ond be s'gennai i golli? :gwyrdd:

Re: Gogwatch

PostioPostiwyd: Gwe 22 Meh 2012 6:22 am
gan ceribethlem
Chwala nhw

Re: Gogwatch

PostioPostiwyd: Sul 24 Meh 2012 11:05 am
gan Josgin
Nefi, am beth diflas i'w ddarllen " The Empire strikes back" , go iawn. Dwi'n poeni, mae'n rhaid i mi gyfaddef , fod nifer o gwynion y cyfeillion yn ddilys ( o'u safbwynt hwy ) , felly mae'n anodd dadlau yn eu herbyn. Pan yn brolio addysg Gymraeg , tueddwn i feddwl am lwyddiant digamsyniol y De , lle mae disgyblion yn mynychu ysgolion addysg Gymraeg o wirfodd eu rhieni. Mae yn cyswllt rhwng addysg Gymreag yn y cynradd/uwchradd yn amlwg. Yn anffodus, mae nifer o'r cwynion i'w gweld yn deillio o du rhieni sydd wedi mewnfudo i'r Gorllewin , lle bo addysg Gymraeg yn orfodol. Mae synnwyr yn dweud bod nifer fawr ohonynt am fethu. Gallaf ddweud i sicrwydd fod addysg Gymraeg yn anaddas i ganran sylweddol o ddisgyblion sydd a'u rhieni yn eu herbyn. Rhagdybiaeth hunan-gyflawnedig , gan mai rhain yw'r union bobl sydd yn swnian eu bod yn cael cam. Gan fod cynifer o fewnfudwyr belllach mewn cymunedau oedd yn uniaith pan ysgrifennwyd y polisiau iaith ,
nid yw'r disgyblion bellach yn cael eu cymhathu fel y buasent ar un pryd. Mae eu sefyllfa fel Seithennyn yn cwyno fod Cantre'r Gwaelod yn rhy damp iddo.

Re: Gogwatch

PostioPostiwyd: Sul 24 Meh 2012 2:35 pm
gan Chickenfoot
Mi fasa'n hwyl i chwalu'r pobl yma, mae'n siwr, ond dw i'n yn rhy siwr os fuaset ti'n newid eu meddyliau gan bod eu safbwyntiau'n ingrained erbyn hyn. Ond eto, sdim byd yn fwy o hwyl na gwylltio pobol fel hyn.

Re: Gogwatch

PostioPostiwyd: Sul 01 Gor 2012 1:25 pm
gan Jon Sais
Neu beth am ddechrau safle dychanol megis 'Gogwatch-watch'?
:winc:

Chickenfoot a ddywedodd:Mi fasa'n hwyl i chwalu'r pobl yma, mae'n siwr, ond dw i'n yn rhy siwr os fuaset ti'n newid eu meddyliau gan bod eu safbwyntiau'n ingrained erbyn hyn. Ond eto, sdim byd yn fwy o hwyl na gwylltio pobol fel hyn.