Tudalen 1 o 4

Llyfr Ffôn BT

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2004 7:28 pm
gan Al Jeek
Rhywun di cael hwn eto? Mae'n warth a deud y lleia. Dim y ffaith ei fod wedi troi'n rhyw biws golau pansiaidd sy'n fy neud i'n flin, ond sut mae'r cymraeg yn cael ei ddefnyddio arni.
Mae'r Cymraeg yna, ac i'w weld yn ramadegol gywir (yn wahanol i fy ysgrifen i, sori :wps: ) ond mae'n edrych fel hyn:

The Phone Book Y Llyfr Ffôn

North West Wales Y Gogledd Orllewin

Ac felly ymlaen ar y dudalen ffrynt. Mae'r Cymraeg yn llai o faint na'r Saesneg pob tro. Mae'n edrych i fi fel eu bod wedi anghofio am y Gymraeg, yna wedi cofio amdano ar y funud ola a wedi gwasgu'r Gymraeg i ble bynnag oedd on ffitio.

:drwg:

(sori os ma rhywun di trafod hyn o'r blaen)

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2004 7:40 pm
gan Dr Gwion Larsen
Do. Mae o'n warthus yn arbennig gan mai slogan diweddaraf BT yw 'defnyddiwch eich Cymraeg' os swn in gwbo syt i roi llun i mewn byddwn yn sganio'r blaen a'i roi ar y fforwm!

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2004 7:59 pm
gan Blewgast
GRRRRRRRRRR :drwg: :!:

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2004 8:25 pm
gan Al Jeek
I bobl sydd heb ei weld, dyma clawr y llyfr ffôn newydd.

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2004 9:38 pm
gan gronw
Mae hyn yn rhan o ryw feddylfryd newydd sydd i'w weld mewn llefydd eraill hefyd. Dim byd i neud ag 'anghofio' (ond dwi'n cymryd mai jocian oedd al jeek); yn hytrach, maen nhw am arddel dwyieithrwydd i ddigon graddau fel ein bod ni'n teimlo na allwn ni gwyno, gan wneud yn siwr ar yr un pryd mai Saesneg ydy'r unig iaith weladwy mewn gwirionedd.

Mae Tesco newydd ddechre gwneud yr un peth (mae hyn wedi'i ddweud o'r blaen dwi'n credu): Cefndir glas tywyll; ysgrifen Saesneg enfawr yn wyn, wedyn y Gymraeg yn fach fach oddi tano mewn glas. Heb fynd reit at yr arwydd fyddech chi ddim hyd yn oed yn gwybod ei fod yn ddwyieithog.

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2004 10:41 pm
gan Dr Gwion Larsen
Protest neu peintio ei blychau telephon dwin credu yw'r ateb os nad oes eglurhad boddhaol! :lol:

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2004 11:24 pm
gan SbecsPeledrX
Iesu mawr yn crio ma hwna YN warth - don i heb sylwi pa mor ddramatig oedd o nes gweld y clawr (diolch Al). Nai ffeindio cyfeiriad ebost BT fory fel y gallwn i gyd cwyno. Dydan nhw heb hyd yn oed rhoi y rhif ymholiadau llyfr ffon Cymraeg yn ganol y sgwennu Cymraeg!

Tesco's yn mydn ar fy nhits ers oes. A mae nhw'n cael clod gan Bwrdd yr Iaith a ballu o hyd - er rhaid cyfadde ma nhw'n well nac unrhyw arch farchnad arall. Ffyc ma angen Deddf Iaith call.

PostioPostiwyd: Maw 13 Ion 2004 9:28 am
gan Dr Gwion Larsen
Ma'r wefan hyd yn oed yn saesneg!

PostioPostiwyd: Maw 13 Ion 2004 11:28 am
gan Ifan Saer
Newydd fod yn ffonio BT yn cwyno am glawr y llyfr ffon newydd, a sut mae'r Gymraeg yn ymddangos yn israddol.

Barod i roi hel i rwyn, ond mi ges i sioc ar fy nhin wrth gael Cymraes yn ateb, a hynny mewn Cymraeg perffaith. Hi'n dweud fod BT wedi derbyn llwyth o gwynion ynghylch hyn yn barod.

Felly ffoniwch! A cwyno!

0800 800 288 i gael drwodd at y ddynas Gymraeg glên (os da chi'n lwcus).

PostioPostiwyd: Maw 13 Ion 2004 11:31 am
gan SbecsPeledrX
Diolch Ifan - wedi ei wneud. A ti'n iawn - Unai ges i'r un ddynas neu mae eu holl staff yn hynod glen :D