Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

Postiogan ger4llt » Iau 27 Maw 2008 10:47 pm

Ar wefan sustrans, yr elusen drafnidiaeth gynaladwy:

Noder: Byddwch yn oflas wrth groesi ffordd ddeuol yr A55 dros y penrhyn rhwng Penmaenmawr a Llanfairfechan.


Mmmm...o! flas da ar y ffordd 'ma does! :?

linc
cym anadl ddofn o'r golygfaeydd gwboi :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

Postiogan Cymru Fydd » Maw 15 Ebr 2008 6:48 pm

Stori ail, os nad pumed llaw ydi hon. 'St David's Walk' yng Nghaerdydd yn cael ei gyfieithu i 'Taith Gerdded Dewi Sant'.
Swn i'n licio gwbo sut mae'r Saeson yma yn mynd ati i gyfieithu. O be dwi di weld, ma nhw unai yn gofyn i Mr. Bruce Griffiths (yn llythrennol) neu maen nhw yn mynd at Saeson eraill sy'n meddwl 'i bod nhw yn deall Cymraeg, ond sydd gan gymaint o grap ar yr iaith mewn gwirionedd ag Abu Hamza. Mae ne wir brinder o gyfieithwyr Cymraeg.
Syniad - fel a wnaethpwyd yn y nofel 'Brithyll', - mae isio i gyfieithwyr gam-gyfieithu yn fwriadol.
Enghraifft:
"Bread and Provisions" mewn archfarchnad.
Oni fyddai'n hwyl rhoi "Ewch adre y ff**** coloneiddwyr arno?"
"Maes-e yw'r lle am seiat!"
Cymru Fydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Maw 05 Chw 2008 9:43 pm

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

Postiogan Seonaidh/Sioni » Maw 15 Ebr 2008 8:33 pm

"Taith gerdded"? Be nesa - "Main Road" yn "Marchogaethodd Prif"? "Gosod Dinas" am "City Place"? "Pren Wedi Dod" am "Wood Avenue"?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

Postiogan hafwen » Mer 16 Ebr 2008 12:09 am

Yn siop sgidie Brantano's ym Merthyr roedd 'Diolch'ch achos y'n siopa am Brantano's' ychydig o flynyddoedd yn ol, ddim yn siwr os ma fe dal na, ond pwy yn y byd bydde'n cyfieithu 'Thanks for shopping in Brantano's' fel'na?!
hafwen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Maw 15 Ebr 2008 9:36 pm

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

Postiogan sian » Mer 16 Ebr 2008 6:53 am

hafwen a ddywedodd:Yn siop sgidie Brantano's ym Merthyr roedd 'Diolch'ch achos y'n siopa am Brantano's' ychydig o flynyddoedd yn ol, ddim yn siwr os ma fe dal na, ond pwy yn y byd bydde'n cyfieithu 'Thanks for shopping in Brantano's' fel'na?!


Peiriant cyfieithu - fel gyda lot o'r enghreifftiau uchod
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Scymraeg

Postiogan Azariah » Mer 16 Ebr 2008 8:51 pm

Ychydig frawddegau o'r "CERDYN PLEIDLEISIO SWYDDOGOL DRWY'R POST" a ddaeth i'r ty yn ddiweddar:

"Heb eich llofnod a'ch dyddiad geni, pleidlais ei chyfrif."

"Rhaid i'r Swyddog Calyniadau y bleidlais bost erbyn 10 p.m. ar 1 Mai, 2008."
Azariah
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Maw 07 Chw 2006 7:13 pm

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

Postiogan ger4llt » Sad 19 Ebr 2008 3:15 pm

"Chroesawa at `r Gwyllt Cymru Heria."

Dyma'r teitl ar y dudalen yma, ac yn fwy o jôc na hynny, dyma 'di'r unig Gymraeg ar yr holl dudalen (sy'n eitha hir 'ma'n rhaid deud!)

Ydi o'n saff i roi bai ar InterTran eto dwch? :x Ydi rywun wedi cyfrannu ryw adborth i'r safle i ddeud nad ydy'r "cyfieithydd" yn werth i neb? :?
cym anadl ddofn o'r golygfaeydd gwboi :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 19 Ebr 2008 7:01 pm

ger4llt a ddywedodd:"Chroesawa at `r Gwyllt Cymru Heria."


Ron i heb gredu hyn. Es i yno - ac mae'n wir! Rhaid iddo fod rhywbeth o beiriant cyfieithu - dydy o ddim yn gwneud synnwyr fel arall. Ond "Chroesawa"? Ai gorchymyn negyddol sy yma? Yn y Saesneg, efallai byddai hyn yn rhoi rhywbeth fel "Do not welcome towards t'Wild Wales - it attacks!" Pwy sy'n mynd i ddweud wrthyn nhw? Fàilte gu Dùlan na Cuimrigh Allaidh? Fàilte gu Dùlan Allaidh na Cuimrigh?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

Postiogan sian » Sad 19 Ebr 2008 10:24 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:
ger4llt a ddywedodd:"Chroesawa at `r Gwyllt Cymru Heria."


... Ond "Chroesawa"? Ai gorchymyn negyddol sy yma?


Mae'r peiriannau cyfieithu'n aml yn cyfieithu enw neu ferfenw fel gorchymyn - Welcome + Challenge fan hyn.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

Postiogan joni » Iau 24 Ebr 2008 11:05 am

Delwedd
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron