gan osian » Maw 08 Gor 2008 8:55 pm
Reit, SCYMraeg go iawn. Dim doniolwch o gwbl.
Oni'n g'neud fy mhrawf theori car dydd gwenar, yn Gymraeg. Oedd y prawf ei hun yn iawn ar y cyfan, heblaw am amball i ddiffyg treiglad, ond oedd y llythyr gesh i yn cadarnahu yr apwyntiad yn WARTHUS.
Rhai darna' yn hollol gywir, rhai yn annealladwy, dyma enghraifft:
"Y mae yn angen gyfreithiol I gyflwyno eich trwydded ar tystiolaeth ffotograffig. Os na gyrchwch yr eitemau hyn gyda chi, neu a oes ydych yn hwyr yn cyrraedd am eich apwyntiad, ni allwch eistedd eich prawf a gollwch eich ffi."
Mae 'na un darn oni'n fethu ddallt, ac nath beri dryswch i mi ynglyn a be oni fod i fynd efo fi i'r prawf. Darn arall ddim wedi cael ei gyfiaethu o gwbl! Dim jysd amharch 'di hyn; trin yn israddol, "ffwcio cyfiaethu hwn yn iawn, diom otsh amdanyn nhw"
dwi ar ganol sgwennu llythyr i'r DSA yn esbonio yn garedig bod hyn ddim digon da. Cymraeg ei iaith wrth reswm, dwi awydd ei gyfiaethu yn wallus i Saesneg jysd am hwyl, ond beryg na mond hwnnw geith i ddarllan wedyn, a ddalltan nhw mohono fo, fysa yn eironig iawn.
oes 'na rywun arall 'di cael profiad tebyg wrth fwcio prawf gyrru?
ON - oni'm yn shwr os ddylwn i gychwyn edefyn newydd i hyn, croeso i rywun ei hollti.
"I'm hugely confused Ted!"