Tudalen 1 o 53
Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)
Postiwyd:
Mer 17 Maw 2004 10:16 pm
gan Hedd Gwynfor
Tynnwch luniau o gyfieithu doniol a'u postio yma!
Postiwyd:
Iau 18 Maw 2004 9:43 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Ymddiheuraf nad oes llun ond yng Nghanolfan Hamdden Heolddu, y Bargod, fe weles i 'Viewing Gallery: Oriel Wylo'. Ddim yn gwbod os dylwn i chwerthin neu lefen... (boom boom!)
Postiwyd:
Iau 18 Maw 2004 10:41 am
gan fela mae
Postiwyd:
Iau 18 Maw 2004 8:26 pm
gan Dylan
mewn gorsaf heddlu yn Abertawe: "Ring for assistance - Modrwywch am gymorth"
hmm. heh? hmm.
Postiwyd:
Maw 23 Maw 2004 3:53 pm
gan LMS
Tu allan i Safeways Bangor mae yna 'Cash Machine' sy'n dwyn yr enw 'Periant Arian' yn y Gymraeg! Gwarthus!
Postiwyd:
Maw 23 Maw 2004 3:56 pm
gan mam y mwnci
Mi oedd bwyty yng Nghaernarfon yn gwerthu 'cig oen a saws bathdy'!! - Ac ar y bwydleni yn yr Anglsey mi oedd yn deud 'Breichiau Mon'
Postiwyd:
Maw 23 Maw 2004 4:07 pm
gan Meic P
oddiar gwefan Dewi Gwyn
Postiwyd:
Maw 23 Maw 2004 4:13 pm
gan Panom Yeerum
Dwi'n cofio gweld poster yng Nghaerdydd, Asian Ball, Pêl Asiaidd.
Postiwyd:
Mer 24 Maw 2004 7:11 pm
gan Hogyn o Rachub
Mae "Emergency Exit Only / Allanfa Dân Unig" yn Wetherspoonsys bob amser yn codi gwên
Postiwyd:
Maw 30 Maw 2004 12:25 pm
gan Barbarella
Mae crysau y bownsars yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn dweud "SECURITY - SICRWYDD".
Dwi'n meddwl mai "Sicrwydd o gael crasfa" oedden nhw'n feddwl, o be weles i.