Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan nicdafis » Iau 10 Ion 2008 9:32 pm

Linc?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan ger4llt » Iau 10 Ion 2008 10:11 pm

Arwydd wrth yr ysgol heddiw:

"Rheolaeth 4 Fffordd
Arhoswch yma nes bydd y
golav'n troi" :?

Does bosib nad oes gwirwyr ar gael yn yr adran drafnidiaeth?
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

Postiogan Llywelyn Foel » Llun 25 Chw 2008 10:59 pm

Twmffat coler wen mewn swyddfa CBAC yng Nghaerdydd rai blynyddoedd yn ol yn ceisio bathu gair Cymraeg am 'beipen fwg'.

Cyhoeddwyd y gair 'allbwff' !!!

Wnaeth y gair ddim para'n hir ar y papurau arholiad, diolch byth. Fedra i ddim clwad hogia Pesda'n ei ddefnyddio ar nos Sadwrn.
'Nemo sine vitio est'
(Heb ei fai, heb ei eni)
Rhithffurf defnyddiwr
Llywelyn Foel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 25
Ymunwyd: Sad 24 Tach 2007 10:53 pm
Lleoliad: Llanrwst

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

Postiogan Gai Toms » Mer 05 Maw 2008 4:22 pm

Mewn caffi yn Gnafron: Dibwys Ffrwythau : Fruit Trifle


WPH! ('Werthin? Piso'n hunan!) Class! Enw da i fand! Da ni angen band arall fel Neu Unrhyw Declyn Arall neu Y Dyniadod Hirfelyn!!

Ymddiheuraf os ydi rhywun wedi postio rhein ond:

Mae'n gyfieithad cywir ond gallai ddim dychmygu person yn gofyn amdano, wel... mi wnes i ar y pryd er mwyn y chwerth, roedd y ddynes yn edrych yn hurt arnai. Ar y ffordd i Miri Madog, chydig o flynyddoedd yn ol. 200? yn Allports Porthmadog (siop jips):

Southern Fried Chicken Legs - Coesau Cyw Iar Freuedig Yn Y Dull Deheuol!

Ydi hwn wedi ei bostio mewn? Gan Robin Llywelyn!

"Ym Mon unwaith ymwelais ag arddangosfa o greiriau Tywysogion Cymru. Mewn un
gist arddangos roedd sel fawr goch yn dwyn y pennawd
Llywelyn's Official Seal
Ac yn Gymraeg, be arall ond:
Morlo Swyddogol Llywelyn."


o'r wefan - https://listserv.heanet.ie/cgi-bin/wa?A ... =0&P=17058
Gai Toms
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Maw 14 Awst 2007 3:29 pm
Lleoliad: Dibynnu lle ydw i...

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

Postiogan sian » Mer 05 Maw 2008 4:35 pm

Gai Toms a ddywedodd:Ydi hwn wedi ei bostio mewn? Gan Robin Llywelyn!

"Ym Mon unwaith ymwelais ag arddangosfa o greiriau Tywysogion Cymru. Mewn un
gist arddangos roedd sel fawr goch yn dwyn y pennawd
Llywelyn's Official Seal
Ac yn Gymraeg, be arall ond:
Morlo Swyddogol Llywelyn."



Ges i lythyr un tro oddi wrth benfriend yn Sbaen yn dweud "I collect seals" - o'n i ddim yn deall lle'r oedd e'n eu rhoi nhw i gyd - yn enwedig gan ei fod yn byw ynghanol dinas.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 07 Maw 2008 10:18 pm

Gwaedlyd uffern! Hwn adeiladfa ydy drwg am eich iechyd! Chwarddedig? Fi yn agos tagedig! Fedra i ddim coelio - oni bai am y ffotos ayb - i'r fath dwpdra fodoli. Mae'n hollol afresymol. Dychmygwch sgwennu rhywbeth yn Gymraeg - ac yna ei gyfieithu'n llythrennol, efallai efo chamgymeriadau sillafu gwallgo, i'r Saesneg. Dwnim, efallai "Ffordd Allan - Method of Churchyard", "Dim smygu - Something smug", "Croeso i Fôn - He may cross for Core" ac ati.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

Postiogan mabon-gwent » Gwe 21 Maw 2008 8:29 pm

Mae lot o arwyddion yn Y Fenni a'r ardal wedi cael eu camsillafu, wi'n dysgwr ac wi wedi eu sylwi nhw, trieni i'r cymry mamiaith.

Rhai esiamplau:

Cyichfan
Swydffa Post (i fwyta ar eich tost)
Llandewi Rydarch (fy mhentref - Llanddewi Rhydderch)
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

Postiogan Y Pesimist » Sad 22 Maw 2008 12:39 pm

Cyfieithu Llythrennol yn y Coleg
Hot Cross Buns = Buns Croes Poeth
Rant Yr Wythnos
Fformarli nown as 'Ffrind llan_clan'
Rhithffurf defnyddiwr
Y Pesimist
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 143
Ymunwyd: Gwe 03 Awst 2007 11:29 am
Lleoliad: Y Blaned Besimistaidd

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

Postiogan Jakous » Sad 22 Maw 2008 5:32 pm

Ma adran Gymraeg gwefan cyngor Barri 'Under Construction' ar y funud.

Ma' nhw'n amlwg yn darllen Maes- E felly tydi. :P
"If senses fail, then thoughts prevail."
Rhithffurf defnyddiwr
Jakous
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 315
Ymunwyd: Maw 20 Medi 2005 9:26 pm
Lleoliad: Y Byd

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 23 Maw 2008 10:38 pm

O, tisk tisk. Rhaid i rywun helpu nhw "under construction": beth am awgrymu "wedi'w chladdu o dan ryw adeilad"?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai