Tudalen 2 o 53

PostioPostiwyd: Maw 30 Maw 2004 12:59 pm
gan Ray Diota
Archfarchnadoedd:

Wines and Spirits - Gwinoedd ac Ysbrydion

Frozen Fish - Pysgod Drewllyd (ma raid bo rhywun yn chware jôc fan hyn)

PostioPostiwyd: Mer 31 Maw 2004 6:10 pm
gan Dr Gwion Larsen
cyfieuthiad o Lon Cambell i'r saesneg yw Lon Campbell. Mae un arall yn PC world ym Mangor "diolch un farw am siopa yma"

PostioPostiwyd: Iau 01 Ebr 2004 9:17 am
gan fisyngyrruadre
Camgymeriad sbelen ydi hon, yn hytrach 'na cyfieithiad drwg fel petai, ond wnes i sbio 'Myneoiad Waith' ar arwydd ffordd ger Queensferry ddoe. Dwywaith.

PostioPostiwyd: Iau 01 Ebr 2004 1:38 pm
gan benni hyll
'coffi mal ffres' am 'freshly ground coffee' ym mhob un Wetherspoons!

PostioPostiwyd: Iau 01 Ebr 2004 2:25 pm
gan Lowri Fflur
Wetherspoons Caernarfon- Tafarn y Porth- gwarthus.

PostioPostiwyd: Iau 01 Ebr 2004 2:30 pm
gan S.W.
Dwim yn meddwl ei fod yne bellach ond roedd ainsburys yn Wrecsam gyda

Disabled Parking
Parcio i'r Analluog

Dwim yn gwbod be fyddai parcio i'r analluog ond os doedd o ddim mor gywilyddus byddai'n ddoniol!

PostioPostiwyd: Iau 01 Ebr 2004 3:31 pm
gan Mr Gasyth
Wetherspoons Caernarfon- Tafarn y Porth- gwarthus.


Pam, be dio fod?

Dwim yn gwbod be fyddai parcio i'r analluog ond os doedd o ddim mor gywilyddus byddai'n ddoniol!


Chwarae teg iddyn nhw am roi lle arbennig i yrrwyr benywaidd dduda i :winc:

PostioPostiwyd: Sad 03 Ebr 2004 3:42 pm
gan Rhys
Aled a ddywedodd:
Dwim yn gwbod be fyddai parcio i'r analluog ond os doedd o ddim mor gywilyddus byddai'n ddoniol!


Chwarae teg iddyn nhw am roi lle arbennig i yrrwyr benywaidd dduda i :winc:


:lol:

PostioPostiwyd: Llun 05 Ebr 2004 12:42 pm
gan Barbarella
benni hyll a ddywedodd:'coffi mal ffres' am 'freshly ground coffee' ym mhob un Wetherspoons!

Be sy'n bod efo hwnna? Gwneud synnwyr i mi!

PostioPostiwyd: Llun 05 Ebr 2004 2:12 pm
gan Jeni Wine
Mewn caffi yn Gnafron:

Dibwys Ffrwythau : Fruit Trifle

:lol: :rolio: