Stori ail, os nad pumed llaw ydi hon. 'St David's Walk' yng Nghaerdydd yn cael ei gyfieithu i 'Taith Gerdded Dewi Sant'.
Swn i'n licio gwbo sut mae'r Saeson yma yn mynd ati i gyfieithu. O be dwi di weld, ma nhw unai yn gofyn i Mr. Bruce Griffiths (yn llythrennol) neu maen nhw yn mynd at Saeson eraill sy'n meddwl 'i bod nhw yn deall Cymraeg, ond sydd gan gymaint o grap ar yr iaith mewn gwirionedd ag Abu Hamza. Mae ne wir brinder o gyfieithwyr Cymraeg.
Syniad - fel a wnaethpwyd yn y nofel 'Brithyll', - mae isio i gyfieithwyr gam-gyfieithu yn fwriadol.
Enghraifft:
"Bread and Provisions" mewn archfarchnad.
Oni fyddai'n hwyl rhoi "Ewch adre y ff**** coloneiddwyr arno?"