Tudalen 50 o 53

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

PostioPostiwyd: Iau 24 Ebr 2008 4:16 pm
gan Rhys
Gobeithio byddi di'n cadw dy bastwn yn dy drowsus eleni joni, clywais bod lot o gwynioon wedi bod llynedd :ffeit:

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

PostioPostiwyd: Iau 24 Ebr 2008 6:03 pm
gan Ari Brenin Cymru
Omg, on i am bostio'r un clwb Aber, ma hwnnan warthus!

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

PostioPostiwyd: Iau 24 Ebr 2008 8:38 pm
gan Seonaidh/Sioni
Pam maen nhw wedi treiglo "cinio" yn ol rheolau'r Aeleg? Rhaid fod rhywun yn cymryd y piss - "Blwyddiad Bastynu Chinio". Mae'n f'atgoffa am "Bleiddiaid". Fydd yno lawer flaidd a phastwn sy eisiau cinio?

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ebr 2008 8:07 am
gan joni
Ma fe wedi'i newid erbyn hyn...
Delwedd

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ebr 2008 8:19 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
South Wales Corporate Banking Centre - De Cymru Corfforaethol Bancio Canol

Ar adeilad Banc y Co-op yng nghanol Caerdydd.

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ebr 2008 8:24 am
gan Rhys
Mae Cyngor Caerffili wedi cael adeilad newydd sbon danllyd yn Tredomen, a dyma e-bost dderbynais gan un o'r swyddogion :ofn:

Mae ein pencadlys newydd yn mynd i gael system cardiau ac nid arian parod ar gyfer y bwyty staff ac fe fydd y system yn un gyda'r holl ddewisiadau sgrin yn ddwyieithog. Rhoddodd y cwmni y rhestr o'r geirfa i ni ddoe, more falch o'r ffaith eu bod wedi gallu darparu gwasanaeth dwyieithog i ni o'r cychwyn. Chwarae teg iddyn nhw am yr ymdrech, mae nhw wedi bod yn gefnogol iawn.


Ond.......


Add funds to card - Adia chronfeydd at Chriba
Card balance - Chriba chlorianna
coins or notes - bathau ai nodau
PIN NOT created, please create PIN - Bin MO chyfle, blesio chrea bin
Sorry Card Number not active - 'n chwith Chriba Rhifa ydy mo'n esgud
out of service - 'ch argoel chlorianna ydy

Does dim un gair allan o bron i gant o gyfarwyddiadau yn gywir - a'm ffefryn allan o'r cwbl lot yw'r frawddeg anhygoel ....

To end your current session please remove your card or enter fingerprint - At darfod'ch cerrynt eisteddfod blesio dynnu'ch chriba ai chofnoda bodia argraffa


Ffantastig !!!!

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ebr 2008 3:28 pm
gan Dylan
hahaha, eisteddfod :ofn:

ma'n ddifyr wrth edrych yn fanylach bod modd o fath weld o ble'n union mae nhw wedi cael pob gair. Ond ma hwnna'n gwbl ryfeddol. Siwr gen i bod rhai pobl wirioneddol o dan yr argraff bod cyfieithwyr ar-lein yn ddibynadwy; fedra i goelio bod pwy bynnag sy'n gyfrifol yn hollol ddidwyll ac yn eitha balch o'u hymdrechion, chwarae teg. Bechod, ond och!

dw i'n licio post yr Hen Rech am ddiffygion y cyfieithwyr ar-lein

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ebr 2008 4:39 pm
gan Hedd Gwynfor
Wedi cael hwn i'r swyddfa. :ofn:

Delwedd

'NA CARBON GOFYNEDIG'?

A reit ar y gwaelod (amhosib gweld o'r llun 1af - felly wedi ei chwythu lan yn fwy a newid y lliw fel bod modd ei weld) mae'r canlynol!

Delwedd

Offer Swyddfa Cambrian, Aberystwyth sydd wedi cynhyrchu'r llyfryn druan...

Rhywun arall wedi bod yn defnyddio InterTran Chi'n hoffi'r neges :winc:

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ebr 2008 5:47 pm
gan Dylan
wel mae hwnna'n gywir o leia :P

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

PostioPostiwyd: Maw 13 Mai 2008 8:21 pm
gan Dylan
euthum i sw Bae Colwyn ddoe a gweld yr arwydd yma ddaru beri i mi giglo

Delwedd

mae'r Saesneg bach yn amwys hefyd mae'n wir, ond ta waeth. Di o'n cyfri? Licio'r ddelwedd o arth betrus yn straffaglu'n ofalus lawr grisia cyn cachu pans a thrio ffindio ffordd amgen