Tudalen 51 o 53

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

PostioPostiwyd: Maw 13 Mai 2008 8:49 pm
gan Seonaidh/Sioni
Wel! Doeddwn i ddim yn sylweddoli y medrai eirth ddarllen! Hyd yn oed y rhai anabl.

Cyfiaethu Gwarthus y DSA

PostioPostiwyd: Maw 08 Gor 2008 8:55 pm
gan osian
Reit, SCYMraeg go iawn. Dim doniolwch o gwbl.

Oni'n g'neud fy mhrawf theori car dydd gwenar, yn Gymraeg. Oedd y prawf ei hun yn iawn ar y cyfan, heblaw am amball i ddiffyg treiglad, ond oedd y llythyr gesh i yn cadarnahu yr apwyntiad yn WARTHUS.
Rhai darna' yn hollol gywir, rhai yn annealladwy, dyma enghraifft:

"Y mae yn angen gyfreithiol I gyflwyno eich trwydded ar tystiolaeth ffotograffig. Os na gyrchwch yr eitemau hyn gyda chi, neu a oes ydych yn hwyr yn cyrraedd am eich apwyntiad, ni allwch eistedd eich prawf a gollwch eich ffi."

Mae 'na un darn oni'n fethu ddallt, ac nath beri dryswch i mi ynglyn a be oni fod i fynd efo fi i'r prawf. Darn arall ddim wedi cael ei gyfiaethu o gwbl! Dim jysd amharch 'di hyn; trin yn israddol, "ffwcio cyfiaethu hwn yn iawn, diom otsh amdanyn nhw"

dwi ar ganol sgwennu llythyr i'r DSA yn esbonio yn garedig bod hyn ddim digon da. Cymraeg ei iaith wrth reswm, dwi awydd ei gyfiaethu yn wallus i Saesneg jysd am hwyl, ond beryg na mond hwnnw geith i ddarllan wedyn, a ddalltan nhw mohono fo, fysa yn eironig iawn.

oes 'na rywun arall 'di cael profiad tebyg wrth fwcio prawf gyrru?

ON - oni'm yn shwr os ddylwn i gychwyn edefyn newydd i hyn, croeso i rywun ei hollti.

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

PostioPostiwyd: Mer 09 Gor 2008 8:31 am
gan Dylan
nes i wneud y prawf theori rhyw chwe blynedd yn ôl ac roedd y Gymraeg yn erchyll. Ym Mangor oedd hyn. Roedd y boi oedd yn goruwchwylio yn cydymdeimlo a dw i'n siwr iddo sôn ei fod o'n gweithio ar fersiwn gwell ei hun. Sgwn i sut hwyl gafodd o! Unrhyw un yn gwybod?

rhyfeddol mod i 'di cael marciau llawn, dweud gwir. 8)

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

PostioPostiwyd: Mer 09 Gor 2008 10:52 am
gan Hogyn o Rachub
Fi 'fyd, ond pum mlynedd yn ôl, cofiwch. Roedd rhai o'r cwestiynau mor annealladwy fel bod y boi wedi rhoi help llaw i mi. O leiaf fod y prawf ei hun wedi gwella, am wn i - petai pobl yn aflwyddiannus oherwydd yr iaith wallus byddai hynny'n sefyllfa gwbl annerbyniol (nid pob tystysgrif wallus yn dderbyniol yn y lleiaf!)

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

PostioPostiwyd: Mer 09 Gor 2008 1:03 pm
gan osian
Dylan a ddywedodd:nes i wneud y prawf theori rhyw chwe blynedd yn ôl ac roedd y Gymraeg yn erchyll. Ym Mangor oedd hyn. Roedd y boi oedd yn goruwchwylio yn cydymdeimlo a dw i'n siwr iddo sôn ei fod o'n gweithio ar fersiwn gwell ei hun. Sgwn i sut hwyl gafodd o! Unrhyw un yn gwybod?

rhyfeddol mod i 'di cael marciau llawn, dweud gwir. 8)

Boi clen iawn! na'th o son am hyn, nesh i ddangos y llythyr iddo fo ac oddo'n deud i fod o wedi cyfiaethu'r paragraff Saesneg iddyn nhw, ond bod o jysd heb gael ei newid ar y llythyr. oedd y prawf ei hun yn olew, amball dreiglad a camsillafu, ond ar y cyfan ma'n iawn. Dwi'n cymryd fod y prawf arfar bod mor wallus a'r llythyr gesh i :ofn: , allai ond cydymdeimlo..

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2008 10:38 pm
gan tachwedd5

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

PostioPostiwyd: Iau 23 Hyd 2008 11:27 am
gan nicdafis
tachwedd5 a ddywedodd:http://img234.imageshack.us/my.php?image=rrrpi3.jpg

Ydyw hon yn gywir? llwyRo (heb yr R?)


Nadi, wir.

Ble mae hwn?



[golygwyd am sillafu]

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

PostioPostiwyd: Iau 23 Hyd 2008 4:27 pm
gan adamjones416
Swni ddim yn llwythro na:L

Mae siop newydd Home Bargains wedi agor yn Rhydaman nifer o'r arwyddion yn dweud
Nwvddau yn lle nwyddau , Ond mae rhai yn dweud Nwyddau ond rhai arall yn dweud Nwvddau sai'n diall hyn o gwbwl odyn nhw'n dwp ne rwbeth?

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

PostioPostiwyd: Iau 23 Hyd 2008 4:49 pm
gan ger4llt
Dros y ffor' i Lys Ynadon Caernarfon:

"Temporary Entrance to the Castle

Mynedfa i'r Castell Dros Dro"

'Di nhw ar fin chwalu Castell C'narfon a gosod castell pre-fab wrth 'i ymyl dros dro neu wbath?

Re: Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

PostioPostiwyd: Iau 23 Hyd 2008 11:04 pm
gan tachwedd5
Mae LlwythRo yn Ffordd Belle Vue yn Abertawe, ty allan i'r hen fanc Natwest.