Tudalen 1 o 10

Ymgyrch Orange

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 3:08 pm
gan Mihangel Macintosh
Delwedd

Dwi wedi dechrau e-bostio cwmni Orange ynglyn a'i diffyg gwasanaethau Cymraeg. Gallwch anfon neges atyn nhw fan hyn

Dim ond awgrym, ond rhywbeth fel hyn allwch chi gynnwys yn eich neges:

Why doesn't Orange provide customers in Wales with a Welsh language service? Why can't you provide Welsh language billing like British Telecom does?

Postiwch unrhyw ymatebion gan Orange fan hyn. Does dim rhaid i chi fod yn gwsmer Orange, a mwy o bobl neiff rhoi pwysau arnyn nhw, gore gyd.

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 4:02 pm
gan Cwlcymro
Clicio'r linc a dwi yn cael

Thank you for completing the form.
Your details will be processed shortly.

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 4:05 pm
gan Mihangel Macintosh
wps! er... iawn ewch i fan hyn 'te: http://www.orange.co.uk/about/contact
yna cliciwch ar to "make suggestions to Orange about the network and services"

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 4:23 pm
gan Mihangel Macintosh
[wedi newid y ddolen i gysylltu a Orange]

Gyda llaw, diddorol oedd gweld hwn: http://www.orange.co.uk/about/community

a hwn:

At Orange we believe in being honest and straightforward. When it comes to the social, ethical and environmental impacts of our business, we don’t want to dress things up or hide from the things we should improve upon. We think that understanding our strengths and weaknesses and being open about them helps us to be a better, more dynamic business.


Gellir islwyth ei adroddiad ar "gyfrifoldebau cymunedol" o fan hyn

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 4:27 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Dear Sir/Madam

Thank you for your email received today.

At the present time we are unable to deal with account specific email enquiries
therefore please ring one of the numbers below as no email response will be
sent.

If you have a lost, stolen, damaged or faulty phone, please call Orange
Customer Services on 150 (07973 100150) for pay monthly or 451 (07973 100451)
for pay as you go immediately as these cannot be dealt with via email.

For any other enquiry you will receive a response shortly.

Kind regards

Orange Customer Services



GRRRRRR! :x

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 4:47 pm
gan Mihangel Macintosh
Ymateb (crap) cyflym gan Oren! Heb glywed yn ol 'to, ond os gai'r ffob off ti di cael GDG na'i jyst spamio'r bastads drwy'r nos.

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 5:02 pm
gan Mihangel Macintosh
Do, dwi wedi cael yr un peth!

Be am i bawb sbamio customer.services@orange.co.uk yfori rhwng deuddeg a dau o'r gloch gan fynni gwasanaeth Cymraeg?

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 6:19 pm
gan Panom Yeerum
a fuasai yn syniad gwell gwneud hyn dydd gwener efallai, a dros y penwythnos. Rhoi digon o rybudd i bawb, a pan y byddent yn mynd i'r gwaith dydd llun, bydd mwy ganddynt i ddileu! Teimlo ydwi nad yw fory yn ddigon o rybudd i anog cefnogaeth.

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 6:39 pm
gan nicdafis
Pa mor effeithiol yw sbamo cwmni fel Orange? Dw i'n cael dros 500 darn o sbam y dydd, a dwi'n gweld rhyw 3 neu 4 neges sy ddim yn cael eu ffiltro gan fy rhaglen ebost. Debyg y bydd rhywun yn adran IT yr îfyl Oren yn gallu ffiltro eu sbam drostyn nhw.

Dw i ddim yn dweud na ddylet ti wneud, jyst na fydd hyn yn wastraffu llawer o adnoddau Orange, os taw hynny yw'r bwriad.

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 7:08 pm
gan Panom Yeerum
ond os mae llawer o e-bost yn dod gan gwahanol gyfeiriadau - dan rhyw deitl e.e. To the attention of the manager Yna sut buasai rhain yn cael eu dileu yn syth heb ddarllen? onid pwrpas customer.services@orange.co.uk yw derbyn a darllen yr e-bost gan y cyhoedd?