nicdafis a ddywedodd:Pa mor effeithiol yw sbamo cwmni fel Orange? Dw i'n cael dros 500 darn o sbam y dydd, a dwi'n gweld rhyw 3 neu 4 neges sy ddim yn cael eu ffiltro gan fy rhaglen ebost. Debyg y bydd rhywun yn adran IT yr îfyl Oren yn gallu ffiltro eu sbam drostyn nhw.
Dw i ddim yn dweud na ddylet ti wneud, jyst na fydd hyn yn wastraffu llawer o adnoddau Orange, os taw hynny yw'r bwriad.
Pa mo'r effeithiol fydd eBrotest? Wel, mae'n dibynnu os ydy Orange o ddifri am ei ymfforostiadau:
Orange a ddywedodd:When it comes to the social, ethical and environmental impacts of our business, we don’t want to dress things up or hide from the things we should improve upon. We think that understanding our strengths and weaknesses and being open about them helps us to be a better, more dynamic business.
ond yna ei hagwydd nhw ydy:
There is no obligation on Orange or any company operating in Wales to provide bilingual services
Rhan o'r ymgyrch ydy'r eBrotest. Yn barod mae saith o aelodau'r Gymdeithas wedi bod draw am ymweliad i Bencadlys Oren yn Mryste er mwyn ei
addurno. Fe fydd y Gymdeithas hefyd yn dringo mastiau Oren yn y misoedd nesaf a bydd unigolion yn gwrthod talu ei biliau ffon. Ma angen targedu ei billboards yn ogystal. Mae angen ei bwrw nhw o bob cyfeiriad. Wrthgwrs Deddf Iaith Newydd da ni angen ond drwy ymgyrchu yn erbyn Orange rydym ni'n tanseilio an-effeithrwydd y Deddf bresenol.