norman: o'r hyn dwi'n ddeall, mae O2 (sydd yn rhan o BT, oedd yn gwmni preifat, etc etc) yn cynnig biliau ffôn dwyieithog os ydych chi'n cysylltu â nhw i ofyn. mae hynny'n well na dim mae'n debyg (ond dim llawer).
yn hunan fyswn i ddim yn annog pobl i symud i O2 beth bynnag - yn un peth am y bydde hynny'n gwneud iddyn nhw feddwl eu bod nhw'n gwneud digon ac yn gwneud i Orange a'r lleill feddwl mai'r cyfan sy raid iddyn nhw wneud ydy cynnig bil dwyieithog i'r rhai sy'n mynnu un.
Orange sydd wedi gwneud addewid (ar y cyd â bwrdd yr iaith!) i ddarparu gwasanaeth cymraeg, felly mae eu targedu nhw yn syniad da. mae'r pwysau yn cynyddu arnyn nhw'n araf bach, ac mae'n mynd i gynyddu mwy, felly y gobaith ydy y byddan nhw'n gwneud rhywbeth o leia, cyn bo hir. wedyn, bydd hi'n rhesymol disgwyl i'r cwmnïau eraill wneud yr un peth (ac yn haws eu bygwth!).
syniad gwych mihangel macintosh! fe gaiff celloedd cymdeithas yr iaith glywed am hyn (h.y. os nad y'n nhw ar maes e yn barod!), felly gobeithio y bydd tipyn o drafferth...