Tudalen 2 o 10

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 7:21 pm
gan Mihangel Macintosh
Panom Yeerum a ddywedodd:a fuasai yn syniad gwell gwneud hyn dydd gwener efallai, a dros y penwythnos. Rhoi digon o rybudd i bawb, a pan y byddent yn mynd i'r gwaith dydd llun, bydd mwy ganddynt i ddileu! Teimlo ydwi nad yw fory yn ddigon o rybudd i anog cefnogaeth.


Iawn. eBrotest "Orange - Ble Mae'r Gymraeg?" rhwng 12 a 5 ar ddydd Gwener.

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 7:32 pm
gan nicdafis
Busnes Orange yw gwerthu gwasanaeth ffon - unwaith maen nhw'n gweld nag wyt ti yn y farchnad honna, pam dylen nhw wastraffu adnoddau arnat ti? Beth sy gyda nhw i'w golli, eu henw da? ;-)

Cod: Dewis popeth
If <message_body> contains "welsh"
Move to Trash
Mark as read


Dw i ddim yn dweud y dylen nhw wneud hyn, ond gallen nhw, yn hawdd.

Swn i mewn busnes, a wnaeth rhyw grwp dechrau sbamo fi fel hyn, dyna'n union beth fyddwn i'n wneud.

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 7:33 pm
gan Mihangel Macintosh
nicdafis a ddywedodd:Pa mor effeithiol yw sbamo cwmni fel Orange? Dw i'n cael dros 500 darn o sbam y dydd, a dwi'n gweld rhyw 3 neu 4 neges sy ddim yn cael eu ffiltro gan fy rhaglen ebost. Debyg y bydd rhywun yn adran IT yr îfyl Oren yn gallu ffiltro eu sbam drostyn nhw.

Dw i ddim yn dweud na ddylet ti wneud, jyst na fydd hyn yn wastraffu llawer o adnoddau Orange, os taw hynny yw'r bwriad.


Pa mo'r effeithiol fydd eBrotest? Wel, mae'n dibynnu os ydy Orange o ddifri am ei ymfforostiadau:

Orange a ddywedodd:When it comes to the social, ethical and environmental impacts of our business, we don’t want to dress things up or hide from the things we should improve upon. We think that understanding our strengths and weaknesses and being open about them helps us to be a better, more dynamic business.


ond yna ei hagwydd nhw ydy:

There is no obligation on Orange or any company operating in Wales to provide bilingual services


Rhan o'r ymgyrch ydy'r eBrotest. Yn barod mae saith o aelodau'r Gymdeithas wedi bod draw am ymweliad i Bencadlys Oren yn Mryste er mwyn ei addurno. Fe fydd y Gymdeithas hefyd yn dringo mastiau Oren yn y misoedd nesaf a bydd unigolion yn gwrthod talu ei biliau ffon. Ma angen targedu ei billboards yn ogystal. Mae angen ei bwrw nhw o bob cyfeiriad. Wrthgwrs Deddf Iaith Newydd da ni angen ond drwy ymgyrchu yn erbyn Orange rydym ni'n tanseilio an-effeithrwydd y Deddf bresenol.

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 7:36 pm
gan Mihangel Macintosh
nicdafis a ddywedodd:Swn i mewn busnes, a wnaeth rhyw grwp dechrau sbamo fi fel hyn, dyna'n union beth fyddwn i'n wneud.


Dibynnu pa mor hyderus ydyn nhw nad ydy'n nhw mynd i gollu cwsmeriaid?

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 7:46 pm
gan Panom Yeerum
i fynd o gwmpas hyn, beth am yn syml dweud "you are neglecting the needs of our nation by not providing a service in our native tongue"?

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 7:51 pm
gan Mihangel Macintosh
Licio hwnna. Syth i'r pwynt.

A neud e'n ddwyiethog wrthgwrs.

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 8:20 pm
gan Norman
Damia, ma genai 6mis arall o gontract i fynd efo'r diawliad, a fina meddwl na oren oedd y dyfodol am fod. Pwy or poblach ffons lon ma sydd a polisi cymraeg ta ?

Ydio werth rhoi gwybod i'r Operation Beca 'ma dwch ?

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 8:45 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
nicdafis a ddywedodd:Busnes Orange yw gwerthu gwasanaeth ffon - unwaith maen nhw'n gweld nag wyt ti yn y farchnad honna, pam dylen nhw wastraffu adnoddau arnat ti? Beth sy gyda nhw i'w golli, eu henw da? ;-)

Cod: Dewis popeth
If <message_body> contains "welsh"
Move to Trash
Mark as read


Dw i ddim yn dweud y dylen nhw wneud hyn, ond gallen nhw, yn hawdd.

Swn i mewn busnes, a wnaeth rhyw grwp dechrau sbamo fi fel hyn, dyna'n union beth fyddwn i'n wneud.


Ond na allen i eirio pethau'n wahanol. E.e. my mother tongue, the language of Gwalia, ac ati?

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 9:16 pm
gan Panom Yeerum
Gweler fy neges i uchod Gwahanglwyf!

PostioPostiwyd: Mer 26 Mai 2004 10:49 am
gan Jeni Wine
Norman a ddywedodd:Damia, ma genai 6mis arall o gontract i fynd efo'r diawliad, a fina meddwl na oren oedd y dyfodol am fod. Pwy or poblach ffons lon ma sydd a polisi cymraeg ta ?


Dwi ddim yn meddwl fod gan run cwmni ffon ar y lon wasanaeth Cymraeg. Gwarth.