Tudalen 3 o 10

PostioPostiwyd: Mer 26 Mai 2004 1:25 pm
gan gronw
norman: o'r hyn dwi'n ddeall, mae O2 (sydd yn rhan o BT, oedd yn gwmni preifat, etc etc) yn cynnig biliau ffôn dwyieithog os ydych chi'n cysylltu â nhw i ofyn. mae hynny'n well na dim mae'n debyg (ond dim llawer).

yn hunan fyswn i ddim yn annog pobl i symud i O2 beth bynnag - yn un peth am y bydde hynny'n gwneud iddyn nhw feddwl eu bod nhw'n gwneud digon ac yn gwneud i Orange a'r lleill feddwl mai'r cyfan sy raid iddyn nhw wneud ydy cynnig bil dwyieithog i'r rhai sy'n mynnu un.

Orange sydd wedi gwneud addewid (ar y cyd â bwrdd yr iaith!) i ddarparu gwasanaeth cymraeg, felly mae eu targedu nhw yn syniad da. mae'r pwysau yn cynyddu arnyn nhw'n araf bach, ac mae'n mynd i gynyddu mwy, felly y gobaith ydy y byddan nhw'n gwneud rhywbeth o leia, cyn bo hir. wedyn, bydd hi'n rhesymol disgwyl i'r cwmnïau eraill wneud yr un peth (ac yn haws eu bygwth!).

syniad gwych mihangel macintosh! fe gaiff celloedd cymdeithas yr iaith glywed am hyn (h.y. os nad y'n nhw ar maes e yn barod!), felly gobeithio y bydd tipyn o drafferth...

PostioPostiwyd: Mer 26 Mai 2004 1:33 pm
gan gronw
ateb orange i mihangel macintosh a gwahanglwyf a ddywedodd:At the present time we are unable to deal with account specific email enquiries...

If you have a lost, stolen, damaged or faulty phone, please call Orange...

For any other enquiry you will receive a response shortly.

mae hyn yn golygu y dylen nhw ateb yn llawnach cyn bo hir, achos nid "account-specific enquiry" yw eich sylwade chi. os na chawn ni ateb gwell na hynna, gallwn ni ddweud eu bod nhw'n 'peidio ateb ymholiade ynghylch y broblem' = ammunition yn eu herbyn nhw mewn datganiad i'r wasg neu rywbeth yn y dyfodol... :D

PostioPostiwyd: Mer 26 Mai 2004 1:37 pm
gan Meic P
Nes i e-bostio neithiwr i weld be sa'n digwydd.
Ges i yr un ymateb a Gwahanglwyf a MM i ddechrau on cyrhaeddodd hwn bore 'ma.

Oren a ddywedodd:Dear Meic

Thank you for your mail.

I can confirm that as a company whose mission includes a commitment to being
first for customer service, Orange is constantly reviewing the options available
to its customers.

We are also committed to helping people communicate, whatever language they
speak.

There is no obligation on Orange or any company operating in Wales to provide
bilingual services.

However, Orange has implemented a review of its signage and other in-store
materials with the intention of providing information in both Welsh and English.
Our shops in Wales have already begun to display signage in Welsh.

"Orange is an equal opportunities employer and several of our retail staff are
Welsh speakers."

I trust this information is of assistance.

Kind regards

Sharron
Orange Customer Services

PostioPostiwyd: Mer 26 Mai 2004 1:38 pm
gan Mihangel Macintosh
Mae Dafydd yn swyddfa'r Gymdeithas yn ymwybodol o'r ymgyrch.

Mae'n warthus i feddwl fod Oren heb wneud braidd dim byd i gynnig gwasanaethau Cymraeg mewn pedair mlynedd - prawf a an-effeithiolrwydd Bwrd yr Iaith.

PostioPostiwyd: Mer 26 Mai 2004 5:03 pm
gan Mihangel Macintosh
eBrotest yn erbyn cwmni Orange ar ddydd Gwener 28 o Fai.

Mae Orange yn engraifft o gwmni preifat sydd yn gwrthod cydnabod y Gymraeg. Rhan o ymgyrch ledeinach yn erbyn y cwmni fydd yr eBrotest. Arestiwyd saith o aelodau'r Gymdeithas ar ol iddynt baentio negeseuon ym Mencadlys Oren ym Mryste fis diwethaf. Mae angen ei targedu nhw o bob cyfeiriad.

Fel awgrym, gallwch gynnwys hwn yn eich negesuon:

Mynwn wasanaethau yn y Gymraeg gan Orange.Rydych yn anwybyddu angenion Cymru drwy beidio â darparu biliau, gohebiaith, gofal cwsmeriaid a llenyddiaeth yn ein hiaith.

You are neglecting the needs of our nation by not providing billing, correspondence, customer care and literature in our native tongue


Anfonwch gymaint o e-byst a sy’n bosib i customer.services@orange.co.uk rhwng 12 a 5 dydd Gwener.

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 12:14 pm
gan Mihangel Macintosh
Sut mae'r brotest yn mynd? faint o feswyr sy'n cymryd rhan?

Wedi anfon hannercant o ebyst atyn nhw'n barod.

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 12:32 pm
gan Rhys
Wedi anfon ambell un, ond mae fy ngyfrifiadur yn araf. Son am Bwrdd yr Iaith, ffoniais y Bwrdd y bore 'ma a gofynodd y ferch a atebodd y ffôn "Pwy sy'n côlio?" :o Roedd rhaid i mi drio fy ngore glas i beidio chwerthin

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 12:52 pm
gan Cwlcymro
Oni bron a deud fod nhw yn 'Welshing out on their promise' tan i fi sylwi fod hwnnw'n hiliol yn erbyn fi'n hun!!

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 12:53 pm
gan Jeni Wine
Di anfon tua 40 hyd yn hyn...

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 1:01 pm
gan Cwlcymro
Wedi gyrru rhyw dri deg yn barod. Dio'm yn cymeryd 5 munud i yrru dega. Teipwch eich neges yn Hotmail, cliciwch 'Send' sgrin nesa cliciwch 'Back', newid yr enw yn y Subject, wedyn 'Send' eto, ac eto, ac eto!!