Tudalen 5 o 10

PostioPostiwyd: Gwe 28 Mai 2004 2:41 pm
gan Cwlcymro
I Jeni Wine a ddywedodd:Kind regards

Michael
Orange Customer Services


I Fi a ddywedodd:Kind regards

Michele
Orange Customer Services


Argol, dio hwn/hon methu penderfynnu os na hogyn ta hogan ydio!

PostioPostiwyd: Sul 30 Mai 2004 11:24 am
gan Barbarella
Wedi cael neges yn ôl o'r diwedd. Dyma be ges i:
Orange a ddywedodd:Thank you for your mail.

I am unable to assist you with your request, as Orange do not offer the service which you require.

I am unable to comment further on this matter.

Kind regards

Su
Orange Customer Service

:rolio:

PostioPostiwyd: Sul 30 Mai 2004 12:24 pm
gan Cwlcymro
Wedi cael UGIAN e-bost ddoe, cymysgfa o Michele, Marian a Sharron

Dear Sir/Madam

Thank you for your email.

As a company whose mission includes a commitment to being first for customer
service,
Orange is constantly reviewing the options available to its customers.

We are also committed to helping people communicate, whatever language they
speak.

There is no obligation on Orange or any company operating in Wales to provide
bilingual services.

However, Orange has implemented a review of its signage and other in-store
materials
with the intention of providing information in both Welsh and English. Our
shops in Wales
have already begun to display signage in Welsh.

Orange is an equal opportunities employer and several of our retail staff are
Welsh speakers.

Kind regards

Marian
Orange Customer Service

PostioPostiwyd: Gwe 11 Meh 2004 11:17 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Fy ymateb diweddaraf:

Thank you for your mail concerning Welsh language services

I am sorry that you are not happy with the language service provided by Orange.

May I respectfully suggest that the majority of people that speak Welsh also speak English as a first language.

Orange within the UK does not provide language services to any group.

Our customers who may be visually or aurally challenged have very specific
requirements which Orange is pleased to address.

I trust the above information fully answers your query.


ARGH! :drwg:

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 3:29 pm
gan Mihangel Macintosh
Dwi wedi ysgrifennu at Orange i ddatgan fy mod i'n gwrthod talu fy mil ffon nes ei bod nhw yn darparu gwasanaethau cwsmeriaid, gohebiaith, biliau ffon, llenyddiaeth ac arwyddion yn ei siopau yn Gymraeg. Fe wna'i bostio unrhyw ymatebion fan hyn.


llythyr i Orange a ddywedodd:Amanda Doyle
Vice President
Legal Orange UK
St James Court
Great Park Road
Almondsbury Park
Bradley Stoke
Bristol BS32 4QJ
Lloegr / England

27.05.04

Rhif cyfrif: 13347881
Fy nghyfeirnod: 07855 776792-01


Annwyl Amanda Doyle

Ysgrifennaf atoch er mwyn gofyn i Orange ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg i siaradwyr Cymraeg.

Fel cwsmer rwyf wedi fy siomi’n aruthrol gan eich amharodrwydd i ddarparu’r dewis o filiau, gohebiaeth a gofal cwsmeriad yn y Gymraeg. Yn ogystal gofynnaf i’ch cwmni i ddarparu arwyddion a llenyddiaeth ddwyieithog cyflawn yn eich siopau yng Nghymru.

Byddaf yn gwrthod talu fy mil ffon symudol nes bydd Orange yn cydnabod fy mamiaith ac yn darparu gwasanaethau cwsmeriaid yn y Gymraeg. Fel aelod o Gymdeithas yr Iaith rwy’n barod i gael fy erlyn yn y llysoedd er mwyn tanlinellu diffyg parch eich cwmni tuag at fy iaith.

Edrychaf ymlaen i glywed eich sylwadau.

Yn gywir,

Steffan Cravos

cc

Orange Payment Processing
Orange, UK Corporate Headquarters
Meirion Prys Jones, Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Elenor Williams, Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Alun Pugh, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhodri Williams, OFFCOM Cymru
Dafydd Lewis Morgan, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Rhys Llwyd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 3:33 pm
gan Mihangel Macintosh
Orange a ddywedodd:May I respectfully suggest that the majority of people that speak Welsh also speak English as a first language.


Gwahanglwyf, dyma oedd union ymateb AOL pan wnes i ymgyrchu am wasanaeth Cymraeg ganddyn nhw rhyw dair mlynedd yn ol. Agwedd gachu.

llythyru

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 3:46 pm
gan Carlos Tevez
Bois---well sgwennu llythyr i top boi orange...ond nid ebost..ond llythyr go iawn...postio fo mewn amlen binc neu oren..rhoi chydig bach o berfume ynddo..wedyn eith y llythyr yn syth ir boi ..ac ddim ei agor gan y ysgrifenyddes ac ir bin...oherwydd bydd hi yn meddwl mai llythyr gan mistress fydd e..! Hefyd dwedwch bod y llythyr wediw gopio at eich aelod seneddol ,AC ayb..! mae o wedi gweithio i fi yn y gorffenol..pan dwi isio ateb cyflym.

VIVE LA FRANCE !

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 3:50 pm
gan Mihangel Macintosh
Carlos, llythyr nes i anfon, nid e-bost a dwi wedi nodi arno fe ei fod yn mynd i Aled Pugh, Gweinidog Diwylliant, chwaeraeon a ieithodd, Cynulliad cenedlaethol Cymru.

Ges i lythyr nol gan Amanada o Orange dros y penwythnos ond dwi wedi ei adel e adref - na'i bostio fe fan hyn yn fuan.

llythyr

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 3:53 pm
gan Carlos Tevez
dwi gwybod bod lot o fobl ddim yn gwybod llawer am gwenidogion y Cyn...ond ALAN Pugh nid ALED !!

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 3:57 pm
gan Mihangel Macintosh
Ie, Aled! Sori, penwythnos mawr!

Carlos, be am i ti ysgrifennu atyn nhw i ofyn am wasanaeth Cymraeg? mae gen i dempled Cymraeg a Saesneg os ti angen defnyddio hwna?