Tudalen 7 o 10

PostioPostiwyd: Mer 16 Meh 2004 10:40 am
gan Mihangel Macintosh
Wedi ffonio siop Orange ym Mhontypridd... ges i'r shit arferol am drio siarad yn Gymraeg da nhw. Ta beth yn ol y person nath ateb y ffon yna, sdim "pre-pay forms" yn Gymraeg gyda nhw o gwbwl.

Wedi cael rhifau ffon pob siop Orange yng Nghymru ac am ffonio nhw i gynnal arolwg fach er mwyn darganfod:

1) Os oes yna rhywun yn siarad Cymraeg ar gael
2) Os oes ffurflenni talu-i-fynd (pre pay) yn y Gymraeg ar gael

Na'i bostio'r canlyniadau fan hyn.

PostioPostiwyd: Mer 16 Meh 2004 11:28 am
gan Rhys
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Rhys, fase fe'n gret i gael posteri wedi gwneud o rhein.

Rhai maint A3 mewn du a gwyn y gellid ei pastio ar ei siopau mewn protestiadau ac i'w rhoi ar un unrhyw filbroad gyda hysbysebion Orange.


Synaid da fyddai addasu bilboards gyda hysbysebion Orange fel mae'r
Billboard Liberation Front (a thrigolion Sblott) yn ei wneud. Os ydi eich addasiad chi yn un bachog, mae'n gallu bod yn effeithiol dros ben. Be am i bawb edrych allan am hysbyseb Orange ar bilboard neu mewn safle bws ar eu ffordd i gwaith / ysgol /siopa a nodi'r lleoliad fan hyn. Mae cefndir du i'w hysbysebion felly byddai paent gwyn yn sefyll allan yn dda.

PostioPostiwyd: Mer 16 Meh 2004 11:40 am
gan Mihangel Macintosh
Dwi yn cadw fy llygaid mas ond heb weld unrhyw un yn ddiweddar.

Fase paint oren yn well na phaint gwyn!

Oeddganddyn nhw hysbyseb ar fillboard ar y ffordd i barc Ninian cwpwl o fisoedd yn ol yn dweud mewn geiriau mawr TRY. Nes i feddwl ychwanegu
HAVING A BILINGUAL POLICY oddi tan fe, ond odd e wedi cael ei newid erbyn i fi allu neud.

PostioPostiwyd: Mer 16 Meh 2004 1:37 pm
gan Panom Yeerum
beth am greu templates ar gyfer yr ymgyrch? buasai yn arbed amser - ei ddal dros yr hysbyseb, paentio drosto a hei presto ymlaen i'r nesaf! jyst y dafod a deddf iaith newydd a rhyw ddatganiad yn y saesneg

PostioPostiwyd: Mer 16 Meh 2004 4:47 pm
gan Mihangel Macintosh
Syniad da, se ni'n gallu rhoi nhw ar y wefan i'w islwytho.

Rhywun wedi gweld unrhyw bil-boards Orange yn ddiweddar?

PostioPostiwyd: Iau 17 Meh 2004 9:43 am
gan Rhys
Sylawis ar un neithiwr pan yn sdagro adre o'r Bwch. Ar ochr wal bwyty Indiaidd, drws nesa i Peter Mulcahy, yn Treganna. Nid bilboard ydi o, ond poster mewn cist goleuedig (fel chi'n gael mewn arhosfa bws)

PostioPostiwyd: Sad 26 Meh 2004 12:50 pm
gan Rhys Llwyd
er gwybodaeth...

Mae Orange wedi gollwng cyhuddiadau yn erbyn y rhai gafodd eu harestio ym Mrystau.

PostioPostiwyd: Llun 28 Meh 2004 12:05 pm
gan gronw
Rhys Llwyd a ddywedodd:Mae Orange wedi gollwng cyhuddiadau yn erbyn y rhai gafodd eu harestio ym Mrystau.

am y rheswm syml bo nhw ddim ishe ffys.

felly mae'n amser codi ychydig o stwr unwaith eto...

os oes unrhyw un ar y maes yn awyddus i weithredu yn erbyn Oren yn y dyfodol agos (ddim o reidrwydd i gael eich arestio), dywedwch nawr!

PostioPostiwyd: Mer 07 Gor 2004 4:47 pm
gan Llefenni
Be 'di'r dîl efo cwmnioedd Mobeils erill? Cynnig unrhwbeth?

PostioPostiwyd: Mer 07 Gor 2004 6:47 pm
gan Hedd Gwynfor
Llefenni a ddywedodd:Be 'di'r dîl efo cwmnioedd Mobeils erill? Cynnig unrhwbeth?


Na bugger all. Ond mae fel arfer yn well targedu un cwmni ar y tro. Mae llawer gwell siawns llwyddo wedyn!