Al a ddywedodd:ffyc, ma Oren yn warthus a gyda agwedd cachu tuag at y iaith, oes modd dechrau ymgyrchu eto?
cytuno Al, mae angen ymgyrchu yn erbyn cwmnïau unigol. ar hyn o bryd, fodd bynnag, dwi'n gwbod bod Cymdeithas yr Iaith yn rhoi ei egni (ar ochr statws yr iaith) mewn i alw am Ddeddf Iaith Newydd.
gan fod Bwrdd yr Iaith yn cael ei ddiddymu yn fuan, dyma'r cyfle i gael Deddf Iaith. un ai mae hyn yn mynd i ddigwydd yn y misoedd nesaf, neu dyw e ddim.
petai e'n digwydd, efallai y byddai rhaid i bobl fel Vodafone ac Orange roi mwy o ystyriaeth i'r Gymraeg beth bynnag, yn ol y gyfraith. felly rheswm da i bawb wneud ymdrech enfawr nawr! beth am sgwennu at eich aelod cynulliad, a'r aelodau rhanbarthol, yn gofyn beth maen nhw'n ei wneud i sicrhau deddf iaith newydd? hyd yn oed petai deg ohonom yn gwneud hynny, gallai wneud gwahaniaeth. mae Plaid Cymru a'r Lib Dems i fod yn gefnogol o Ddeddf Iaith. gallwch chi drio'r lleill hefyd. byddan nhw'n dechre nol cyn bo hir ar ol haf hir -- deffrwch nhw o'u trwmgwsg!
os na ddaw Deddf Iaith Newydd, byddwn ni wedi colli'r cyfle. os felly, bydd angen ymgyrchu caled yn erbyn llawer o gwmnïau mawr, achos mae'n sicr na chawn ni ddeddf iaith am o leiaf 10 mlynedd arall os na chawn ni un yn 2006.
yr unig beth sy'n perswadio sefydliadau a chwmnïau i barchu'r gymraeg yw lobïo parhaus/protestio gwyllt neu ddeddf gwlad.