Tudalen 9 o 10

PostioPostiwyd: Gwe 26 Awst 2005 10:01 pm
gan Al
ffyc, ma Oren yn warthus a gyda agwedd cachu tuag at y iaith, oes modd dechrau ymgyrchu eto?

Falle yn erbyn gweddill y cwmniau hefyd e.e. Vodafone..

PostioPostiwyd: Llun 29 Awst 2005 10:35 pm
gan Dafydd Hywel
Mae T-Mobile yn un da. Cwmni or Almaen yw hwn. Mae ganddynt swyddfa ateb ffôn yn Merthyr.

Dw i am sgrifenny atynt.

PostioPostiwyd: Llun 29 Awst 2005 10:39 pm
gan Al
Dafydd Hywel a ddywedodd:Mae T-Mobile yn un da. Cwmni or Almaen yw hwn. Mae ganddynt swyddfa ateb ffôn yn Merthyr.

Dw i am sgrifenny atynt.


http://www.t-mobile.co.uk/Dispatcher?me ... tact_us_cc :crechwen:

PostioPostiwyd: Llun 29 Awst 2005 11:53 pm
gan gronw
Al a ddywedodd:ffyc, ma Oren yn warthus a gyda agwedd cachu tuag at y iaith, oes modd dechrau ymgyrchu eto?

cytuno Al, mae angen ymgyrchu yn erbyn cwmnïau unigol. ar hyn o bryd, fodd bynnag, dwi'n gwbod bod Cymdeithas yr Iaith yn rhoi ei egni (ar ochr statws yr iaith) mewn i alw am Ddeddf Iaith Newydd.

gan fod Bwrdd yr Iaith yn cael ei ddiddymu yn fuan, dyma'r cyfle i gael Deddf Iaith. un ai mae hyn yn mynd i ddigwydd yn y misoedd nesaf, neu dyw e ddim.


petai e'n digwydd, efallai y byddai rhaid i bobl fel Vodafone ac Orange roi mwy o ystyriaeth i'r Gymraeg beth bynnag, yn ol y gyfraith. felly rheswm da i bawb wneud ymdrech enfawr nawr! beth am sgwennu at eich aelod cynulliad, a'r aelodau rhanbarthol, yn gofyn beth maen nhw'n ei wneud i sicrhau deddf iaith newydd? hyd yn oed petai deg ohonom yn gwneud hynny, gallai wneud gwahaniaeth. mae Plaid Cymru a'r Lib Dems i fod yn gefnogol o Ddeddf Iaith. gallwch chi drio'r lleill hefyd. byddan nhw'n dechre nol cyn bo hir ar ol haf hir -- deffrwch nhw o'u trwmgwsg!

os na ddaw Deddf Iaith Newydd, byddwn ni wedi colli'r cyfle. os felly, bydd angen ymgyrchu caled yn erbyn llawer o gwmnïau mawr, achos mae'n sicr na chawn ni ddeddf iaith am o leiaf 10 mlynedd arall os na chawn ni un yn 2006.

yr unig beth sy'n perswadio sefydliadau a chwmnïau i barchu'r gymraeg yw lobïo parhaus/protestio gwyllt neu ddeddf gwlad.

PostioPostiwyd: Maw 30 Awst 2005 2:31 pm
gan sanddef
Mae dewis iaith ffoniau symudol Sbaen yn cynnwys yr Alisieg, y Fasgeg a'r Gataloneg yn ogystal â'r ieithoedd arferol (Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg etc).
Oes dewis iaith gan ffon symudol Prydeinig sy'n cynnwys y Gymraeg? Beth ydy'r pwynt cael gwasanaeth Gymraeg gan gwmni os nad oes dewis y Gymraeg gan y ffoniau y maent yn eu gwerthu?

PostioPostiwyd: Maw 30 Awst 2005 5:43 pm
gan Al
sanddef rhyferys a ddywedodd:Mae dewis iaith ffoniau symudol Sbaen yn cynnwys yr Alisieg, y Fasgeg a'r Gataloneg yn ogystal â'r ieithoedd arferol (Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg etc).
Oes dewis iaith gan ffon symudol Prydeinig sy'n cynnwys y Gymraeg? Beth ydy'r pwynt cael gwasanaeth Gymraeg gan gwmni os nad oes dewis y Gymraeg gan y ffoniau y maent yn eu gwerthu?


Rhaid cofio mae mond rhoi y hawl signal neu be bynnag mae cwmnioedd fel Oren, Vodafone ayyb. Prynnu 'handsets' oddiar cwmnioedd electronic mae y cwmnioedd ffonau symudol ma. Felly does dim dewis/pwer i nhw newid hyna. Gwell dechrau gyda'r gwasanaeth eniwe.

Ta waeth, pwy ddylwn ni ymgyrchu, mae pob cwmni y ryn peth, sef uniaith saesneg. Falle ddylia pawb ymgyrchu yn erbyn cwmni ma enhw yn defnyddio?

Dwin meddwl mae ymgyrchu yn y 'mass' mwy effeithiol na rhyw 'one off' ar un cwmni. Os fydd pawb yn neud o y ryn dydd i pob cwmni sydd yn cynnig gwasanaeth ffon symudol, mwy thebygol gall neud newyddion :crechwen:

PostioPostiwyd: Maw 30 Awst 2005 6:40 pm
gan Dr Gwion Larsen
Al a ddywedodd:Prynnu 'handsets' oddiar cwmnioedd electronic mae y cwmnioedd ffonau symudol ma.

Na os ma nhw yn gwrthod ei prynnu ar y sail nad oes dim o'r Gymraeg ar y ffonau mae pethau am newid. Os mae Orange yn prynnu gymaint o ffonau gan y cwmniau megis nokia gallen nhw newid pethau i fel ma' nhw eisiau

PostioPostiwyd: Mer 31 Awst 2005 5:04 pm
gan Hen Rech Flin
Ateb i e-lythyr Cymraeg a danfonwyd i gwmni Orange

customer.services@orange.co.uk a ddywedodd:
Thank you for your mail.

We would like to help you, but we're sorry but we can't respond to you in the language you have written. If you can write to us in English, we'll be happy to help you with your enquiry.

Kind regards

Sheena
Orange Customer Services

PostioPostiwyd: Mer 31 Awst 2005 5:11 pm
gan Dylan
haha, "in the language you have written" wir :D

PostioPostiwyd: Iau 01 Medi 2005 8:51 am
gan Mihangel Macintosh
sanddef rhyferys a ddywedodd:Mae dewis iaith ffoniau symudol Sbaen yn cynnwys yr Alisieg, y Fasgeg a'r Gataloneg yn ogystal â'r ieithoedd arferol (Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg etc).
Oes dewis iaith gan ffon symudol Prydeinig sy'n cynnwys y Gymraeg? Beth ydy'r pwynt cael gwasanaeth Gymraeg gan gwmni os nad oes dewis y Gymraeg gan y ffoniau y maent yn eu gwerthu?


Mae Nokia (Cwmni o'r Ffindir) wedi dweud na fydde nhw byth yn cynnwys y Gymraeg fel optisiwn iaith ar ei ffonau symudol.

Wrth gwrs petase Cymru'n wlad rhydd annibynnol base hyn yn sdori wahanol.

Mae ddiddorol i weld taw dimond 4.7 Miliwn o bobl sy'n siarad Ffineg a fod gan y Ffindir nifer o ieithoedd lleiafrifol ei hyn.