Mihangel Macintosh a ddywedodd:sanddef rhyferys a ddywedodd:Mae dewis iaith ffoniau symudol Sbaen yn cynnwys yr Alisieg, y Fasgeg a'r Gataloneg yn ogystal â'r ieithoedd arferol (Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg etc).
Oes dewis iaith gan ffon symudol Prydeinig sy'n cynnwys y Gymraeg? Beth ydy'r pwynt cael gwasanaeth Gymraeg gan gwmni os nad oes dewis y Gymraeg gan y ffoniau y maent yn eu gwerthu?
Mae Nokia (Cwmni o'r Ffindir) wedi dweud na fydde nhw byth yn cynnwys y Gymraeg fel optisiwn iaith ar ei ffonau symudol.
Wrth gwrs petase Cymru'n wlad rhydd annibynnol base hyn yn sdori wahanol.
Mae ddiddorol i weld taw dimond 4.7 Miliwn o bobl sy'n siarad Ffineg a fod gan y Ffindir nifer o ieithoedd lleiafrifol ei hyn.
Dydy gwledydd Sbaen yn annibynnol chwaith. Dw'i byth wedi cael ffon Nokia, ond mae Alcatel o leiaf yn cynnig opsiwn iaith sy'n cynnwys ieithoedd lleiafrifol Sbaen. Dwi'n credu ei fod yn beth arferol fan na ar sawl lefel, er nad oes gan Sbaen cymaint o arian fel y DU.