Hogyn o Rachub a ddywedodd:Duwcs ia, aelod o'r Blaid, CYIG a Chymuned! Trebl yn wir, Aran!
wps... ia... o'n i 'di anghofio am y Blaid Bach...
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae gen i'n rhesymau dros beidio ymuno gyda'r un ar y foment. Yn y gorffenol roeddwn i'n arfer gweld Cymuned yn hunan-gyfiawnhaus (sydd dal yn wir i raddau), ond rhaid i mi gyfaddef fy mod i'n cynhesu'n feunyddiol at y mudiad. Er hynny, 'muno ar ôl dod nôl o brifysgol wna i ('sdim pwynt achub y gymuned Gymraeg yng Nghaerdydd!) ac efalla i ddaw i draw i dre i'r Noson 'ma!
mae 'na rhai hunangyfiawn i'u cael ym mhobman, 'toes? ond ymaelodi a gweithredu ydy'r pethe pwysig, a gadael y cyfiawn-gwn i'w gilydd...
bydda i'n siwr i roi gwybod yn fan'ma am y peth yn y Dre... mae'n wir bod 'na cangen yng Nghaerdydd, ond mae'n amlwg bod dy galon di'n perthyn i'r Gogledd o hyd...!
Rhys Llwyd a ddywedodd:Cawn byw efo'n gilydd, mewn ty ar y mynydd?
mae dy syniad di am rali ar y cyd yn y Steddfod yn un dda iawn, a gobeithio y geith cefnogaeth y Cymdeithas...