gan Idris » Llun 12 Mai 2003 11:10 am
[quote="Ramirez"]
ma CyI ella'n ymddangos yn ddiog, ond ma nw lot mwy realistig na Cymuned.
quote]
Ddaru Cymuned gyflwyno syniadau call i'r Cynulliad ar sut i helpu'r iaith, e.e. awdurdod datblygu busnesau i'r Fro Gymraeg, mwy o bres i'r Cynllun Helpu Pobol Leol I Brynu Tai.
Ma' gwleidyddion yn cymryd sylw o Cymuned, sydd efo hygrededd ymysg pobol gyffredin ar lawr gwlad.
Heb fod isho ymosod yn bersonol na chyffredinoli, mae Cymdeithas Yr Iaith efo delwedd fel mudiad i fyfyrwyr dosbarth canol greu argraff ffafriol, wedyn derbyn swydd dda o fewn bywyd cyhoeddus Cymru.
Dydi Cymdeithas ddim wedi adlewyrchu pryderon y Cymry Cymraeg yn y cadarnleoedd, felly mae Cymuned wedi ffurfio.
Oes gan y Gymdeithas gelloedd tu allan i Fangor ac Aber? Mae Cymuned wrthi'n ddiwyd yn trio sefydlu canghennau lleol (e.e.Pontypridd nos Wener)
Cymuned ydi'r realists, yn gweithio ar lawr gwlad ac yng nghoridorau grym (anffodus o wan) Y Cynulliad.
Roddodd Seimon Glyn ddyfodol yr iaith yn ol ar frig ar yr agenda wleidyddol, a daeth Gwilym Euros i'w ddilyn fel ogla drwg. Ddyla Ffati Lwmp ddim cael siarad yn gyhoeddus am dyfu barf gafr, heb son am ddyfodol cymunedau.
Biti na fydda'r ddau yn cydweithio, ond fel dywed SbecsiX ma' Cymuned wedi dangos fwy o awydd i gefnogi CymIaith na fel arall.
Odd Angharad Tomos yn anffodus yn papur, yn holi 'Lle ma'r bois Cymuned yma wedi bod cyhyd tra'n bod ni'n carchar dros yr iaith?'
Ddyla neb amau hygrededd a gwaith arteithiol pobol fel Angie dros yr iaith, ond Cymuned sydd efo'r tan yn eu boliau a'r syniadau yn eu pennau i neud gwahaniaeth go-iawn.