cydweithio

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 24 Meh 2003 10:29 am

falle soniai wrth catrin ac emailio ti os ti ishe. mae hi siwr o fod rhy brysur i ddod i maes e y dyddie yma... (rhy brysur i maes e? nefyr in ewrop!)


Cafodd Catrin broblem anffodus yda maes-e fisoedd yn ol. Fy mai i oedd en wreiddiol so sain beio hi rhag peidio defnyddio maes-e.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Aran » Maw 24 Meh 2003 6:29 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Duwcs ia, aelod o'r Blaid, CYIG a Chymuned! Trebl yn wir, Aran! :D


wps... ia... o'n i 'di anghofio am y Blaid Bach... :ofn:

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae gen i'n rhesymau dros beidio ymuno gyda'r un ar y foment. Yn y gorffenol roeddwn i'n arfer gweld Cymuned yn hunan-gyfiawnhaus (sydd dal yn wir i raddau), ond rhaid i mi gyfaddef fy mod i'n cynhesu'n feunyddiol at y mudiad. Er hynny, 'muno ar ôl dod nôl o brifysgol wna i ('sdim pwynt achub y gymuned Gymraeg yng Nghaerdydd!) ac efalla i ddaw i draw i dre i'r Noson 'ma!


mae 'na rhai hunangyfiawn i'u cael ym mhobman, 'toes? ond ymaelodi a gweithredu ydy'r pethe pwysig, a gadael y cyfiawn-gwn i'w gilydd... :winc:

bydda i'n siwr i roi gwybod yn fan'ma am y peth yn y Dre... mae'n wir bod 'na cangen yng Nghaerdydd, ond mae'n amlwg bod dy galon di'n perthyn i'r Gogledd o hyd...!

Rhys Llwyd a ddywedodd:Cawn byw efo'n gilydd, mewn ty ar y mynydd?


mae dy syniad di am rali ar y cyd yn y Steddfod yn un dda iawn, a gobeithio y geith cefnogaeth y Cymdeithas...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 24 Meh 2003 7:29 pm

... wel man edrych yn anhebygol. Cos bod e rhy hwyr. Ma trefniade y Gymdeithas am yr wythnos wedi eu gwneud ar cyfan wedi mynd ir wasg. Rhywbryd yn y dyfodol falle.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Aran » Maw 24 Meh 2003 8:50 pm

bechod. da iawn i chdi am drio, ond dw i'n meddwl bo chdi 'di cael bach o esgus wan yn fan'na oherwydd diffyg ewyllys i gydweithredu. dal ati, a gobeithio y wnei di wahaniaeth yn y pendraw.

pob hwyl...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 24 Meh 2003 9:00 pm

Wi'n gwbwl argyhoeddedig y gellid cydweithio ar raliau weithiau. Gew ni weld be ddigwyddith yn y dyfodol dife!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 24 Meh 2003 9:04 pm

Dim esgus. . Mae'r mwyafrif helaeth o aelodau'r Gymdeithas am weld cydweithio. Mae Rhys yn iawn i ddweud fod Digwyddiadau y Gymdeithas wedi eu trefnu yn barod, ond peidiwch becso, ma modd gwneud rhai newidiadau. Yr unig bethe sydd RHAID cadw at ydy digwyddiadau lle i ni wedi bwcio pabell y cymdeithasau ayb.

Mae dal siawns itha da y bydd Rali ar y cyd yn y Steddfod, cawn weld. Fi'n siwr fod rhaid i Senedd y Gymdeithas a Pwyllgor gwaith Cymuned drafod hyn gyntaf.

Dwi'n gwbod fod e'n well stori meddwl fod gwrthdaro ond dos dim llawer chi'n gwbod. Jyst cwpwl o bobl bengryf ar y ddau ochr yn pwdi, a ma hyn yn marw mas!

POB LWC I'R DDAU FUDIAD YN Y STEDDFOD GYDA'I GWEITHGARWCH WEDEN I! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Osian Rhys » Maw 24 Meh 2003 11:05 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dwi'n gwbod fod e'n well stori meddwl fod gwrthdaro ond dos dim llawer chi'n gwbod. Jyst cwpwl o bobl bengryf ar y ddau ochr yn pwdi, a ma hyn yn marw mas!

POB LWC I'R DDAU FUDIAD YN Y STEDDFOD GYDA'I GWEITHGARWCH WEDEN I! :D


clywch clywch :)
Rhithffurf defnyddiwr
Osian Rhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 142
Ymunwyd: Mer 04 Meh 2003 10:31 pm
Lleoliad: Pontypridd ac Aberystwyth

Brad y Brifysgol

Postiogan Catrin Dafydd » Mer 25 Meh 2003 12:14 pm

Diddorol darllen be ma pawb yn feddwl. Wy`n ffyddiog y bydd blwyddyn nesa yn gynhyrchiol, ma`n bwysig ein bod ni`n rhoi pwysau cynyddol ar y brifysgol ac yn cyd-weithio fel mudiadau. Ma gan Cymdeithas eu bys yn y botes yn barod, beth felly am cymuned? Ac UMCA wrth gwrs.

Yn dilyn trafodeth hir nithwr da Osh wy di bod yn meddwl fwy fwy am y modd rydym ni`n mynd i gyflwyno`r ddadl a`r brostest drsachefn. Meinir - ma croeso mawr i ti gysylltu a mi yma. Tyd draw i`r swyddfa am baned unrhyw bryd a rhif y swyddfa yw 01970 621 739.

Yn fy marn i , ma angen cael gweledigaeth bendant er mwyn medru dangos fod y myfyrwyr wedi ystyried yn ddwys y camau sydd i`w cymeryd. Ma` cyd-weihtio a Bangor a Chaerdydd hefyd yn elfennol bwysig. Beth ych chi'n feddwl? Cynllunio gofalus dros yr haf yw'r ffordd ymlaen i fi a gwenud yn siwr ein bod ni`n tynnu sylw myfyrwyr y gynta pan ddown nw yn ol. Yn sicr, ma na griw da yma eleni.

Efallai y dylai rhai ohonom ni gwrdd am baned yn yr wythnosau nesaf i gael rhoi ein syniadau ar bapur. Beth ych chi'n feddwl? Gallwn ni hyd yn oed ddatblygu syniadau personol am goleg ffederal a fyddai`n addas ar gyfer ein Myfyrwyr.

Ta beth, wy wedi mwydro nawr. Oes gan unrhyw un syniad sut allai gael gafael ar erthygl ar y we ynghylch `globaleiddio ac effaith archfarchnadoedd ar gymunedau?`.

Ar ben hyn, ydych chi`n adnabod rhywun fyddai eisiau chwarae`r delyn yn y seremoni raddio - UMCA ac ydych chi`n nabod rhywun sy`n gallu whare`r bongos. Ambell beth hap ar y diwedd, gwn. :lol:
Catrin Dafydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Llun 30 Rhag 2002 5:13 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Brad y Brifysgol

Postiogan Cardi Bach » Mer 25 Meh 2003 12:25 pm

Catrin Dafydd a ddywedodd:Oes gan unrhyw un syniad sut allai gael gafael ar erthygl ar y we ynghylch `globaleiddio ac effaith archfarchnadoedd ar gymunedau?`.



Tria gwefan y New Internationalist - ma tipyn o bethau wedi bod yn ddiweddar - neu ma stwff da fi yn rhwle.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 25 Meh 2003 4:09 pm

Ta beth, wy wedi mwydro nawr. Oes gan unrhyw un syniad sut allai gael gafael ar erthygl ar y we ynghylch `globaleiddio ac effaith archfarchnadoedd ar gymunedau?`.


Cysyllta da Cymorth Cristnogol.

Cofia weitho fi pryd mar cynllwynio yn digwydd, ma fe mynd i effeithio fi fwy na ti erbyn hyn.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron