cydweithio

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Aran » Sad 14 Meh 2003 4:22 pm

Chris Castle a ddywedodd:(Mae pawb sy'n byw yn Nghymru yn Gymro gyda llaw).


?!!

tria di ddeud hynny wrth fy ffrindiau o iwerddon, lloegr a'r alban, wnawn nhw chwerthin am dy ben di...

ac mae pawb sy'n byw yn lloegr yn saeson, felly? paid â ddeud hynny wrth 'mrawd...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Chris Castle » Sul 15 Meh 2003 10:03 am

mae pawb sy'n byw yn lloegr yn saeson, felly? paid â ddeud hynny wrth 'mrawd...


Mae dy frawd yn Sais os nad oedd en jyst yn ymweld. Pam dych chi'n credu nad ydy e'n Cymro hefyd.?

Dwi ddim yn "Genedlaetholwr". Felly dwi'n gallu gweld bod gan pobl fwy nag un hunaniaeth. Soniais o flaen am "Welsh pakistani Moslems" sydd yn ffrindiau 'da fi.

Dwi'n Sais a Gwyddel yn ogystal a bod yn Gymro - mater o dras ydy'r tri. Mater o Drigo ydy'r un olaf hefyd.

Diffyg dychymyg - Prif diffyg Cenedlaetholwyr

Fel dywed y Cân

"You don't have to be Ir-ish to be I-I-Irish!"
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Cwlcymro » Sul 15 Meh 2003 5:09 pm

Mae'n raid i fi gytuno fo Aran. Os fyswn i'n symyd i fyw i Sbaen neu'r Eidal, Cymro fyswn i o hyd.
Dwi ddim yn dadla nad ydio'n bosib i berson symyd i wlad arall a troi'n Sbaenwr etc. Mae yno lawer o fewnfudwyr i Gymru sy'n gweld ei hunain fel Cymry, ond mae yno lawer sydd ddim.
Dyw'r ffaith eich bod yn byw mewn gwlad ddim yn angenrheidiol yn golygu eich bod yn galw eich hyn yn berson o'r wlad hwnnw. Cymro fydda i dim ots pa wlad y byddaf yn byw ynddi.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Chris Castle » Llun 16 Meh 2003 9:19 am

Os fyswn i'n symyd i fyw i Sbaen neu'r Eidal, Cymro fyswn i o hyd. Dwi ddim yn dadla nad ydio'n bosib i berson symyd i wlad arall a troi'n Sbaenwr etc. Mae yno lawer o fewnfudwyr i Gymru sy'n gweld ei hunain fel Cymry, ond mae yno lawer sydd ddim.
Dyw'r ffaith eich bod yn byw mewn gwlad ddim yn angenrheidiol yn golygu eich bod yn galw eich hyn yn berson o'r wlad hwnnw. Cymro fydda i dim ots pa wlad y byddaf yn byw ynddi.


DEVIL'S ADVOCATE Ydw i yma :crechwen:
Dwi'n meddwl eich bod chi'n gweld pethau'n rhy syml - FELLY:

Oes Hawl i'r Sbaenwyr dweud pryd a pham mae gennoch choi'r hawl i fod yn Sbaenwr os ti'n byw yna yn barhaol? Oes rhaid derbyn "Prawf cenedlaetholdeb" fel y mae Enoch Powell, Norman Tebbitt, Gwilym ab Ioan, a Simon Glyn yn awgrymmu (mae sliding scale o ragfarn yma - Glyn ydy'r un llai rhagfarnllyd, dwi'n beirniadu ei rethreg fwy nag ei syniadau)

Os mae'n iawn aros yn Sais a mae pob Cymro yn gallu'r Saesneg. Pam ddylai'r Sais sy'n byw yng Nghymru dysgu Cymraeg? Mater o Hunaniaeth y Cymro ydy Siarad Cymraeg. Mater o gyfathrebu yw Saesneg.

Dwi'n gweld bod "Siarad Cymraeg yw bod yn Cymro cyflawn". Ond sut i ddweud hyn heb y Di-gymraeg yn clywed "Dim ond siaradwyr Cymraeg sydd yn Cymry go-iawn". - mater o Cymunedau dehongli a Semantics yw e.

Dwi'n ail bostio hyn fel "Hunaniaeth" - sdim byd i wneud a CYIG y.e. Cymuned.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 16 Meh 2003 11:43 am

Dwi'n cytuno efo'r llinell Rhys Llwydaidd fod Cymreictod yn ffordd o feddwl. Mae Cymreictod yn y galon ac nid ym mhurdeb y gwaed.

Ac rydw i'n cytuno efo Aran a Cwlcymro - mi fuaswn innai'n Gymro llebynnag y trigiwn

OND

Faswn i BYTH yn byw yn rhywle arall! Does dim byd yn fy ngwylltio i yn fwy na chlywed un o Gymry Llundain neu Awstralia neu America yn cwyno am ormes y Sais a marwolaeth yr iaith a hwythau'n byw cannoedd o filltiroedd i ffwrdd! Petasai gannddyn nhw wirioneddol ots dwi'n siwr y buasen nhw'n dod nôl a gwneud rhywbeth amdani yn lle achwyn o bell.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Aran » Maw 17 Meh 2003 4:42 pm

Chris Castle a ddywedodd:Mae dy frawd yn Sais os nad oedd en jyst yn ymweld. Pam dych chi'n credu nad ydy e'n Cymro hefyd?

Dwi ddim yn "Genedlaetholwr". Felly dwi'n gallu gweld bod gan pobl fwy nag un hunaniaeth. Soniais o flaen am "Welsh pakistani Moslems" sydd yn ffrindiau 'da fi.

Dwi'n Sais a Gwyddel yn ogystal a bod yn Gymro - mater o dras ydy'r tri. Mater o Drigo ydy'r un olaf hefyd.

Diffyg dychymyg - Prif diffyg Cenedlaetholwyr


ah, ymateb nodweddiadol o ysgubol y gwleidydd diog, felly...! yn y bôn, ti'n deud dy fod ti'n gwybod pwy 'dy pwy yn well nag y maent eu hunain, ac mae gennyt ti'r wyneb i ddeud bod cenedlaetholwyr yn dioddef o ddiffyg dychymyg! yn wahanol i chdi, dydw i ddim yn deud wrth neb be' 'dy ei ch/genedl, gan mod i'n barod i dderbyn diffiniad personol yr unigolyn. a deud y gwir, dw i'n meddwl mai diffiniad personol yr unigolyn ydy'r unig ffordd call i farnu cenedlaetholrwydd.

dw i'n siwr dy fod ti'n nabod welsh pakistani muslems - hynny yw, pobl sy'n ystyried eu hunain yn muslim, yn pakistani ac yn welsh. ond mae'n dal yn hurt i awgrymu bod 'mrawd i yn sais, gan fod o'n ystyried ei gymreictod yn eithriadol o bwysig iddo fo, a does ganddo mo'r ronyn lleia o deimlad ei fod yn sais. mae dy agwedd di yn atgoffa fi o'r bwlis yn yr ysgol y fues i'n ddigon anffodus i'w mynychu, a oedd yn hoff o roi cweir i mi am fynnu mod i'n gymro tra mod i'n mynychu ysgol yn lloegr (a oedd yn ei wneud o'n glir iddynt bod rhaid i mi fod yn sais - wedi'r cyfan, sut ar wyneb y ddaear fedr rhwyun sy'n byw yn lloegr ddim isio bod yn sais?!).

dw i'n meddwl y ddylet ti dderbyn y ffaith dy fod ti wedi awgrymu diffiniad hurt (nid bod gen gwleidyddion y ffasiwn sgiliau a derbyn bod yn rong, wrth gwrs!), a setlo am yr unig peth y fedri di hawlio sef bod pawb sy'n byw yng Nghymru yn *ddinesydd* Cymru.

Rhodri Morgan a ddywedodd:Diffyg parch tuag at unigolion - prif diffyg y Blaid Lafur!


o.n. ac o leia mae gen cenedlaetholwyr y dychymyg i sylweddoli y gall pethe'n bod yn wahanol ac yn well, a does dim rhaid i ni glymu at fod yn brydeinwyr gan fod 'rhaid i hynny fod yn iawn, mae wedi bod fel'na ers canrifoedd'...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Meinir » Llun 23 Meh 2003 2:29 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
wnes i weld y gwahaniaeth yma pan oedd Cymuned a'r Gymdeithas yn cyflwyno tystiolaeth i'r Cynulliad. Roedd criw Cymuned yn hen (30+ hen i fi), gwisgo siwtiau, ac yn rhoi tystiolaeth ar lafar. Tra roedd Criw y Gymdeithas yn ifanc (llai na 30), yn gwisgo yn casual ac yn rhoi tystiolaeth ar ffurf powerpoint, ac yn defnyddio llawer o dechnoleg newydd.

I fi chi'n gweld, ac mae hyn siwr o fod yn wahanol i bawb arall, dwi'n meddwl mae hen stejars (y rhan fwyaf yn ex cym) sy'n rhedeg Cymuned, tra mai pobl ifanc sy'n rhedeg y Gymdeithas. Huw Lews Cadeirydd 23, Fi yn Is Gadeirydd 23, Manon Is Gadeirydd arall 21 ayb. Ellith Rhys ddweud ei hyn fod dros 3/4 aelodau senedd y Gymdeithas yn llai na 30. I mi mae cymuned yn fwy parchus, fydda i byth yn barchus sai'n credu. Dwi ddim yn gweld yr hen bobl parchus ma yn gwneud lot o weithreu uniongyrchol yn bersonol. Ond falle fod angen mudiad lobio proffesiynol (fel mae Cynog wedi son ers canrifoedd) ac efallai mae hwn yw rol gorau Cymuned.


Dydi oedran ddim yn bwysig mewn gwirionedd, ond maint eu hymroddiad.

Ella bod ymgyrchwyr CYI yn fwy cwl yn eich ti-shyrts, a chwara teg - mae hi i fyny i bob unigolyn sut mae o/ hi isio gwisgo, ac ella eich bod chi'n sbot on efo'ch technoleg fodern lawr tua'r Cynulliad 'na.

Mae hyn i gyd yn swnio'n hunanganolog iawn i fi. Yr hyn ydach chi'n ei ddeud sy'n bwysig, nid sut ydach chi'n ei ddeud o (er, dwi'n cydnabod bod pi-ar a ballu'n mynd yn bell weithiau...). Ac yn bwysicaf oll, efallai, be' 'di'r ymateb, a sut dach chi'n gweithio ac adeiladu ar hynny wedyn.

Ynglyn a'r hyn ddywedodd Hedd ynglyn a'r ffaith nad ydi o'n rhagweld parchusion Cymuned yn gweithredu'n uniongyrchol, sut mae esbonio felly fod cefn gwlad (a threfi) Cymru'n fwy o blastr o bosteri melynion a slogannau Dal dy Dir, na'r ambell i "Ddeffrwch" nawr ac yn y man? Na, dydi gweithredwyr uniongyrchol Cymuned ddim yn gwneud hynny ynghanol dydd mewn raliau.

Os ydych chi'n gweld achos y Gymraeg fel cystadleuaeth rhwng y ddau fudiad (dwi ddim, jesd nad oedd CYI erioed yn taro 12 i mi), yna anghofiwch am ddelwedd a ffasiwn, a meddyliwch am yr achos.
Meinir
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Maw 10 Meh 2003 2:48 pm

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 23 Meh 2003 5:18 pm

Mae'n rhaid i mi gytuno efo Mererid. Ac yn ogystal hoffwn ychwanegu fod Cymuned yn trefnu dosbarthiadau Cymraeg i ddysgwyr (yn Llyn o leiaf, ond efallai'n ymhellach) ac felly'n helpu'r Gymraeg yn uniongyrchol ac yn y gymuned. Dydw i ddim yn gweld CIYG yn gwneud dim, ac i fod yn hollol onast dydach chi ddim wedi gwneud/cyflawni fawr o ddim am beth nesaf i ddegawd. Mae Cymuned, o fewn 3 mlynedd, wedi dod a'r Gymraeg yn ôl i frig yr agenda wleidyddol yng Nghymru ac yn araf yn dechrau cyflawni pethau (fel y dosbarthiadau nos a trafod gyda'r gwerthwyr tai ynglyn a 'waiting period' i bobl leol prynu tai).

Gwir, mae'r Gymdeithas yn codi fwy o angerdd a theimladau yn rhywun na Chymuned, ond, ac nid yw dweud hyn yn rhoi pleser i mi (dydw i ddim yn aelod o'r un mudiad) mae fflam CYIG wedi bod yn diffodd ers peth amser. Dim ots os mai mudiad ieuengach yw CYIG, dim ots fod eu cyflwyniadau i'r cynulliad yn fwy flash o gwbl - dydi hynny'n cyfri am ddim.

Wrth gwrs, hoffwn i weld Cymuned a CYIG yn cydweithio mwy. Ond o beth dw i'n weld, mae Cymuned yn raddol gwthio CYIG i'r ochr ac mae dylanwad, ac apêl, CYIG, yn anffodus, yn dirywio o hyd.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Aran » Llun 23 Meh 2003 7:29 pm

pwy 'dy'r 'mererid' 'ma, de?... :winc:

dw i'n falch bod Hogyn o Rachub yn gweld gwerth i waith Cymuned, ond dw i'n poeni braidd i weld neges sydd (i mi, o leia) yn cyfleu'r awgrym bod Cymuned a Chymdeithas yn brwydro yn erbyn ei gilydd am 'market share' yn lle gweithio tuag at amcanion cysylltiedig ac yn gwynebu gelynion tebyg iawn iawn.

dyw hi ddim yn deg bob tro i asesu beth mae rhywun yn *gweld* yn unig - dw i'n siwr bod 'na llawer iawn o waith yn mynd ymlaen gan y Cymdeithas, ac mae'r orymdaith trwy Gymru yn enghraifft o gynllunio sydd yn golygu gwaith caled y tu ol i'r llenni. efallai bod pethe Cymuned wedi bod yn fwy gweledol yn y Gogledd ers sbel, ond serch hynny mae 'na llawer o waith gwella sydd ei angen ar Gymuned (y caiff ei wneud, dw i'n sicr).

rhaid ddeud, dw i'n licio'r syniad bod fy aelodaeth o Gymuned yn golygu mod i'n barchus - neb 'di deud hynny o'r blaen. ond mae'r busnes gwisgo 'ma'n hurt - wnaeth Cymuned benderfynu bod rhaid chwarae ar dir y gelynion er mwyn gwneud eu pwyntiau, wnaeth y Cymdeithas benderfynu bod rhaid ymddangos yn ar wahân. does modd wybod pwy oedd yn iawn, ond yr un oedd y penderfyniad - gwisgo fel rhan o strategaeth. (os oedd CyI yn gwisgo'n anffurfiol gan bod nhw ddim wedi ystyried y sefyllfa o gwbl, dw i'n ymddiheurio, a dw i'n siomedig).

Hogyn, mae'n hen bryd i chdi ymaelodi a'r ddau! Mae wir angen pobl sydd yn gweld be 'dy'r sefyllfa, a sydd yn barod i gyfrannu at yr ymdrech. Beth am ddod draw i'r Noson Fawr yng Nghaernarfon ym mis Medi?
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 23 Meh 2003 9:35 pm

Ella bod ymgyrchwyr CYI yn fwy cwl yn eich ti-shyrts, a chwara teg - mae hi i fyny i bob unigolyn sut mae o/ hi isio gwisgo, ac ella eich bod chi'n sbot on efo'ch technoleg fodern lawr tua'r Cynulliad 'na.


Fi ddim yn siwr iawn be ti'n trio gweud yn anffodus. Mae'n swnio i fi fel rant sy'n trio fod yn gas? On i'n trio dweud yn union yr un pwynt rwyt ti wedi rhoi uchod sef, beth ddiawl yw'r ots beth mae person yn gwisgo, a dyna pam , fydden i'n meddwl er nad oedden i yna, nad oedd aelodau'r gymdeithas yn gwisgo siwtiau, fel y byse dyn yn disgwyl! Cwl? wel diolch, dos neb erioed wedi dweud hyna o'r blaen i fi yn bendant, a fi'n siwr fydde Huw yn falch iawn fod rhywyn yn meddwl ei fod yn cwl.

...Be ddiawl 'di'r ots? Mae hyn i gyd yn cyd-fynd a'r dyfyniad 'na sy'n fy argyhoeddi fwyfwy bob tro dwi'n ei glywed o mai grwp elitaidd, clici, ydi'r Gymdeithas: "Cymdeithas o bobl ydi CYI". (mae 'na unigolion o fewn y mudiad yn rhy fyfiol a hunanganolog i wneud lles i'r iaith go iawn)


Pa ddyfyniad wyt ti'n son am? Ie Cymdeithas o bobl yw Cymdeithas. Elitaidd a chlici? I raddau fel pob grwp mudiad arall, yn aml mae llawer haws gwneud pob dim eich hunan yn hytrach na sianelu eich egni i dynnu mwy o bobl i fewn. Unigolion hunanganolog? Fi ddim yn siwr iawn o pwy ti'n siarad am fan hyn, efallai fyddai'n haws os fydde ti yn fodlon rhoi enwau er mwyn i mi gytuno neu anghytuno. Yr unig beth dwi yn gwybod yw na fyddai person 'HUNANGANOLOG' yn gwneud unrhywbeth dros unrhywun arall!

Dydi hi ddiawl o ots gen i os ewch chi i'r Cynulliad yn gwisgo sach amdanoch, siawns mai'r hyn ydach chi'n ei ddeud sy'n bwysig, nid sut ydach chi'n ei ddeud o (er, dwi'n cydnabod bod pi-ar a ballu'n mynd yn bell weithiau...). Ac yn bwysicaf oll, efallai, be' 'di'r ymateb, a sut dach chi'n gweithio ac adeiladu ar hynny wedyn. Nid be dach chi'n ei wisgo ffoffwcsecs!


Mae beth i chi'n dweud yn holl bwysig, ac mae argyhoeddu pobl fod y peth yr ydych yn ei ddeud yn gywir hefyd yn bwysig! Fi'n cytuno 100% gyda'r rhan olaf o'r paragraff yma!

Ynglyn a'r hyn ddywedodd Hedd ynglyn a'r ffaith nad ydi o'n rhagweld parchusion Cymuned yn gweithredu'n uniongyrchol, sut mae esbonio felly fod cefn gwlad (a threfi) Cymru'n fwy o blastr o bosteri melynion a slogannau Dal dy Dir, na'r ambell i "Ddeffrwch" nawr ac yn y man? Na, dydi gweithredwyr uniongyrchol Cymuned ddim yn gwneud hynny ynghanol dydd mewn raliau er mwyn cael pennawd yn y papurau newydd (er dwi'n cyfaddef ei bod hi'n gyffrous gweld hynny'n digwydd).


Dydy codi poster, gyda pob parch, ddim yn withred uniongyrchol o aberth mawr, nac yn un difrifol iawn, ond fi'n meddwl ei fod yn beth gret fod gymaint o bosteri a slogannau wedi ei peintio yn y gogledd, a fi'n cytuno fod angen i'r Gymdeithas godi mwy o bosteri. Os mae'r awgrym ydy fod gweithredwyr ar ran y Gymdeithas yn gweithredu'n uniongyrchol er mwyn cael llun yn y papur, dwi ddim yn siwr really os mae'n haeddu ymateb hyd yn oed. Fi ddim yn adnabod unrhyw un sy'n meddwl fel hyn, dyna'r unig beth allai i ei ddweud.

Os ydych chi'n gweld achos y Gymraeg fel cystadleuaeth rhwng y ddau fudiad (dwi ddim, jesd nad oedd CYI erioed yn taro 12 i mi), yna anghofiwch am ddelwedd a ffasiwn, a meddyliwch am yr achos, ac - ydw - dwi am feiddio'i ddeud o - DEFFRWCH!


Dydw i yn bendant ddim yn ei weld fel cystadleuaeth! Cydweithio yw'r unig ffordd ymlaen. Ond o beth i fi'n ei weld nod yr edefyn yma ydy trafod y gwahaniaethau sy'n bodoli rhwng y ddau fudiad, ac nid ceisio sarhau!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 24 gwestai