yna anghofiwch am ddelwedd a ffasiwn, a meddyliwch am yr achos
Reit hen bryd i'r Gymdeithas ymateb!
Dwi ddim yn gweld fy hun fel un o inner circle y Gymdeithas er fy mod ar y Senedd. Dwi ddim chwaith yn fyfyriwr - dwi dal yn ysgol - a dwi heb fynd yn involved er mwyn ffitio mewn a 'bod yn cwl', i ddweud y gwir dwi wedi colli llawer o ffrindiau a gwneud llawer o elynion yn yr ysgol ers i mi fod yn weithredol gydar Gymdeithas. Serch hynny ma Meinir yn llygad eu lle ma nw rai dar Gymdeithas syn weithgar am 3 mlynedd ac yna yn mynd i'r BBC a thats it.
Ti'n iawn Meinir - yr achos sydd bwysicaf! Fe ymunesi a'r Gymdeithas run mis ag ymunais a Chymuned a blwyddyn a hanner yn ddiweddarch ma rhagluniaeth Duw wedi dod a fi'n weithgar gyda'r Gymdeithas nid Cymuned, er fy mod i yn ceisio mynd i bob rali Cymuned a fedra i. Rhywsut wi'n gweld y medru helpu'r achos yn fwy direct gyda'r Gymdeithas, dwi'n timlo mor gryf dros yr iaith fel mod i di pwsho fy hun mewn ffordd mewn i inner circle y Gymdeithas i newid pethe - er lles yr iaith. Sai'n gweld fi'n medru neud hynny a cal fy hun (17 mlwydd oed) ar bwyllgor gwaith Cymuned.
Mission fi ar hyn o bryd yw trefnu rali ar y cyd efo Cymuned yn 'steddfod. Falch clywed fod pethen symud ar ochr Cymuned - heb gael lot o ymateb gan fy nghyd Gymdeithaswyr eto!
Mar be mar Gymdeithas yn mynd ar ol fymryn yn fwy eang na Cymuned wi'n meddwl. Yn bersonol fy 'mriff' i yw mynd ar ol cwmniau i ddarparu gwefannau Cymraeg. Dwi di llwyddo i gael Heddlu Dyfed Powys i gal un Cymrag a fy mission nesaf i yw hasslo HSBC am un Cymrag (y banc sydd gynhesa tuag at y Gymraeg).
Reti na ddigon am nawr. Ma be ma Meinir yn dweud am y Gymdeithas yn sort of gwir, falle fod en annodd i selogion y Gymdeithas i'w amgyffred ond rhaid i ni chwalu'r myth!