Tudalen 15 o 16

PostioPostiwyd: Mer 25 Meh 2003 7:19 pm
gan Hedd Gwynfor
Cofia weitho fi pryd mar cynllwynio yn digwydd, ma fe mynd i effeithio fi fwy na ti erbyn hyn.


Cynllwynio?

PostioPostiwyd: Mer 25 Meh 2003 8:07 pm
gan Rhys Llwyd
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Cynllwynio?


Cat Daf a ddywedodd:Efallai y dylai rhai ohonom ni gwrdd am baned yn yr wythnosau nesaf i gael rhoi ein syniadau ar bapur.


Nid cynllwynio Ffred Ffransis 1970s style! :winc:

Wfft i`r `cynllwynio`

PostioPostiwyd: Iau 26 Meh 2003 9:47 am
gan Catrin Dafydd
Sai`n credu mai cynllwynio yw`r gair o gwbl Rhys a gweud y gwir. Ma hynny`n neud iddo fe swnio`n `seedy` iawn. Jyst trafodeth on i`n meddwl, dros baned ar sut i wneud ein syniadau ni`n glir.

Ta beth, jolch yn fowr iawn iawn Cardi am y NI. Ma fe`n ddidorol iawn! Edrych ymlan yn fowr at Cnapan nawr fyd! Iei! Gyda llaw,os unrhyw un yn gwbod pam fod Radio Cymru dal yn cyflogi Jonsi? :?:

PostioPostiwyd: Iau 26 Meh 2003 12:27 pm
gan Rhys Llwyd
Sai`n credu mai cynllwynio yw`r gair o gwbl Rhys a gweud y gwir. Ma hynny`n neud iddo fe swnio`n `seedy` iawn.


Wrth gwrs bod en swnio'n 'seedy', maes-e yw hwn nid san steffan dyliechi gymryd popeth ma pawb yn weud da pinched o halen :winc:

Gyda llaw,os unrhyw un yn gwbod pam fod Radio Cymru dal yn cyflogi Jonsi?


Oes. Ma fe a looods o wrandawyr. Tu allan i'r byd academaidd.uwch-ddilwylliant Cymreig ma rhanfwyaf o aelodau maes-e yn aelodau ohono mae Jonsi yn hiwj!

Ma hen fenwod gogledd Cymru i gyd yn lyfo a fe ac yn anffodus nid safon sy'n carior dydd ond yn hytrach ratings - tris iawn very sad.

Jyst paid gwrando na be fin neud!

tria radioamgen.com yn lle

PostioPostiwyd: Iau 26 Meh 2003 12:50 pm
gan Meinir
Rhamantiaeth. Moderniaeth. Ol-foderniaeth. Strwythuraeth. Ol-strwythuraeth. Jonsïaeth...

... Dal i droi mae'r cylch o hyd...

Ddim lot i wneud efo'r pwnc dwi'n gwybod, ond tybed ydi hyn yn dangos 'deialog', chwedl Osian Rhys, rhwng hardlainyrs y ddau fudiad? Hyd yn oed os na allem drefnu ralïau ar y cyd yn Sdeddfod, gallwn gyd wamalu am Jonsi ar faes-e... wel, mae o'n well na dim, siwr gen i.

Ar nodyn mwy testunol, diolch i Catrin Dafydd am y gwadd am baned. Ddoi draw pnawn ma.

Dwi'n eitha' licio'r term 'cynllwynio' - gwneud i bethau swnio'n fwy bywiog. A pha obaith sgen y sefydliad yn erbyn criw o gynllwynwyr...? Digwyddiad doniol ddoe, o'n i'n cerdded ar hyd y stryd yn trafod syniadau am brotestiadau ayyb (yn erbyn y coleg felly), ac yn son am bosibiliad o gael noson ar y teils (ydach chi'n gyfarwydd a'r term yn y cyd-destun yma?), a phwy ddaeth wyneb yn wyneb a ni - gan ymddangos o nunlle - ond Derec yn man siarad am y tywydd ayyb! Reit ffyni ar y pryd...!

PostioPostiwyd: Llun 28 Gor 2003 2:25 pm
gan Cardi Bach
Wel, ma rali wedi ei drefnnu ar gyfer Gwener y steddfod rhwn y Gymdeithas a Chymuned.

Jess a ddywedodd:Pwwwwwwwy sy'n hapus?

PostioPostiwyd: Llun 28 Gor 2003 3:11 pm
gan Hedd Gwynfor

PostioPostiwyd: Llun 28 Gor 2003 6:39 pm
gan Rhys Llwyd
Wel detho ni na yn diwedd Hedd!

diolch byth....

Trienu na fyddai big names y ddau heb feddwl am y syniad eu hunain!

PostioPostiwyd: Maw 29 Gor 2003 12:00 am
gan Osian Rhys
glywes i hyn ar y radio pnawn ma - odd gwilym owen yn neud e allan bod cymuned a cyig yn elynion pennaf a bod hyn yn rhywbeth hollol nyts bod y ddau fudiad yn cynnal protest ar y cyd :P

dwi'n falch iawn o glywed beth bynnag. gobeithio gellir cael lot i ddod..

PostioPostiwyd: Maw 29 Gor 2003 8:53 am
gan Hedd Gwynfor
Gwilym Owen yn byw mewn byd ffantasi! :lol:

Wastad yn trio creu rhyw stori mawr allan o ddatganiad i'r wasg digon cyffredin!

Druan ag e!