Cath Ddu a ddywedodd:Rhyfeddol, ti'n cyfiawnhau trais ac yn trafod (gyda dirmyg llwyr) y posibilrwydd fod rhai o'r heddlu a laddwyd yn Iraq angen yr arian.
Mi fyswn i'n gobeithio, taswn i isio mynegi dirmyg llwyr, byswn i'n gallu gwneud gwell job arni na dim sydd wedi sgwennu gen i uchod.
Cath Ddu a ddywedodd:Dy actualite di Owain bach gan nad wyt yn derbyn dim sy'n groes i dy Guardianesque world view fe ymddengys.
C'mon. Seumas Milne-esque, neu Dan Plesch-esque, neu Naomi Klein-esque. Digon teg. Ond Rusbridger, a Toynbee, a Kettle, a Garton Ash? Gimme a break. Os wyt ti'n meddwl bod y Guardian bach yn cynrychioli un bydolwg, ella dylset ti drio ei ddarllen o ychydig yn fwy gofalus yn y dyfodol. (Darllen y colofnau barn a'r llythrau bydda i fel rheol. Fawr o amser i wneud dim arall.)