terfysgwyr yn lladd yn Iraq

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

terfysgwyr yn lladd yn Iraq

Postiogan Dave Thomas » Sul 17 Gor 2005 7:06 pm

addaswyd
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 17 Gor 2005 7:21 pm

Gwbwl erchyll a ffiaidd! Yr un mor erchyll a ffiaidd a'r 100,000 sydd wedi marw trwy fomiau Prydain a'r UDA!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Dave Thomas » Sul 17 Gor 2005 7:25 pm

addaswyd
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Postiogan pogon_szczec » Sul 17 Gor 2005 7:54 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Gwbwl erchyll a ffiaidd! Yr un mor erchyll a ffiaidd a'r 100,000 sydd wedi marw trwy fomiau Prydain a'r UDA!


Dim gweithredau Prydain ac America sy'n gyfrifol am dyfiant terfysgaeth filwrol Islamaidd, ond yn hytrach propaganda ffals gwrthwynebwyr y gorllewin - celwyddgwn di-gwilydd fel Cardi a tithau yn eu plith.

http://www.iraqbodycount.net/
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 17 Gor 2005 9:55 pm

pogon_szczec a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Gwbwl erchyll a ffiaidd! Yr un mor erchyll a ffiaidd a'r 100,000 sydd wedi marw trwy fomiau Prydain a'r UDA!


Dim gweithredau Prydain ac America sy'n gyfrifol am dyfiant terfysgaeth filwrol Islamaidd, ond yn hytrach propaganda ffals gwrthwynebwyr y gorllewin - celwyddgwn di-gwilydd fel Cardi a tithau yn eu plith.

http://www.iraqbodycount.net/


Mae 100,000 yn ffigwr sy'n cael ei daflu o gwmpas! Yn amlwg mae yna anghytuno yn mynd i fod yn hyn o beth. Ydy 22,850 yn llai erchyll?!?

Gyda llaw, dwi'n amau bod y bomiau a ddisgynodd ar Irac wedi creu ychydig mwy o derfysgwyr Islamaidd, na fi a Cardi! :rolio:

RET79/Realydd/Dave Thomas a ddywedodd:Dwi ddim yn meddwl fod hwnna'n arsylwad teg, Hedd. Roedd y bomwyr yma wedi targedu plant yn fwriadol. Wyt ti'n honni fod byddinoedd Prydain ac America'n targedu plant yn fwriadol?


Does dim unrhyw dystiolaeth yn dangos i'r bomwyr dargedu plant yn benodol - milwyr oedd y targed (dim esgus, ffaith!) Wrth ollwng y bomiau ar Fallujah, roedd yn gwbwl amlwg y byddai pobl gyffredin yn marw! Ar ddiwedd y dydd, wyt ti'n meddwl fod rhieni'r rhai a laddwyd yn POENI pam cafodd eu plant eu lladd? Yr un yw'r golled, a'r un yw'r atgasedd tuag at y bomwyr!

www.iraqbodycount.net a ddywedodd:No Longer Unknowable: Falluja's April Civilian Toll is 600


Gwefan BBC a ddywedodd:The blasts in London killed a total of 55 people, including the bombers


Lladd yw lladd, ac mae lladd yn anfoesol!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Lowri Fflur » Sul 17 Gor 2005 10:00 pm

Dave Thomas a ddywedodd:Dwi ddim yn meddwl fod hwnna'n arsylwad teg, Hedd. Roedd y bomwyr yma wedi targedu plant yn fwriadol. Wyt ti'n honni fod byddinoedd Prydain ac America'n targedu plant yn fwriadol?


Doedd nw ddim wedi targedu plant yn fwriadol, doedd nhw jysd ddim yn poeni os oedden nhw yn lladd plant neu beidiio. Mae byddin yr UDA a Phrydain wedi gwneud union yr un fath, mae nhw wedi gwllwng bombs ar mosgspam ame pobl yn addoli yn y gorffenol.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dan Dean » Sul 17 Gor 2005 10:01 pm

Dave Thomas a ddywedodd:Dwi ddim yn meddwl fod hwnna'n arsylwad teg, Hedd. Roedd y bomwyr yma wedi targedu plant yn fwriadol. Wyt ti'n honni fod byddinoedd Prydain ac America'n targedu plant yn fwriadol?

Nid yw'r un ohonynt yn targedu plant yn fwriadol. Milwyr Americanaidd oedd y targed, a nid oedd y bomiwr ots ganddo bod plant yno hefyd, felly ymosododd beth bynnag, y twat iddo fo. Yr un peth na pan mae Americanwyr yn dweud ella bod na terrorists mewn ty, ac felly yn ymosod arno heb neud yn siwr eu bod yn dweud y gwir, ac yn lladd nifer o blant a phobol diniwed yn y proses. Mae hyn newydd ddigwydd yn Affganistan a mae wedi digwydd nifer o weithiau o blaen.

Pogon a ddywedodd:Dim gweithredau Prydain ac America sy'n gyfrifol am dyfiant terfysgaeth filwrol Islamaidd, ond yn hytrach propaganda ffals gwrthwynebwyr y gorllewin - celwyddgwn di-gwilydd fel Cardi a tithau yn eu plith.

Bla bla bla. Pogon, y dadleuwr penigamp wrthi eto yn rhoi Celwyddgi Cardi mewn i'r edefyn.
Ond mae terfysgaeth yn digwydd yn Irac fel canlyniad y rhyfel gan America & co(un o'r prif resymau pam oeddwn yn erbyn y syniad).
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan pogon_szczec » Sul 17 Gor 2005 11:08 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Mae 100,000 yn ffigwr sy'n cael ei daflu o gwmpas! Yn amlwg mae yna anghytuno yn mynd i fod yn hyn o beth. Ydy 22,850 yn llai erchyll?!?


Dyw 22,850 ddim yn llai erchyll.

Ond pam sgwennu 100,000 (4 X yn uwch) os nad yw yn wir?

Gyda llaw, dwi'n amau bod y bomiau a ddisgynodd ar Irac wedi creu ychydig mwy o derfysgwyr Islamaidd, na fi a Cardi! :rolio:


Ond nid yw llawer o derfysgwyr (fel y rhai a achosodd y ffrwydriadau yn Llundain) yn dod o Iraq.

Ymateb i bropaganda dim digwyddiadau maen nhw.

A maen nhw'n defnyddio'r un ystadegau ffals a ddefnyddir gan Cardi a tithau fel cyfiawnhad dros lladd eraill.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Cath Ddu » Sul 17 Gor 2005 11:25 pm

pogon_szczec a ddywedodd:Ymateb i bropaganda dim digwyddiadau maen nhw.

A maen nhw'n ddefnyddio'r un ystadegau ffals a ddefnyddir gen Cardi a tithau fel cyfiawnhad dros lladd eraill.


Cyfraniad gwirioneddol bwysig. A chyn i neb ymateb yn fyrbwyll jyst darllenwch y pwynt eto yng nghyd-destun defnydd Hedd o 'ystadegau'.

Dylid hefyd gywiro Lowri ac eraill ynghylch targedu plant. Yn ol llygaid dyst yr oedd y bron 100 o blant o amgylch y milwyr pan benderfynodd y terfysgwr yrru at y dorf a chwythu ei gar fyny - targedu bwriadol hollol.

Yn ystod WW2 fe fu i lu awyr Prydain ymdrechu i fomio pont rheilffordd rhwng Paris a Brest yn nhref Moraleaux yn Llydaw. Pam? Achos fod Brest ac arfordir Llydaw yn cynnwys prif borthladdoedd U -boats yr Almaen a thrwy y reilffordd hon y cyflenwyd tanwydd i'r cychod hyn.

Yn y modd erchyll mae rhyfel yn gweithio fe fethwyd a tharo'r targed, yn hytrach fe syrthiodd bomb ar ysgol gynradd gan ladd degau o blant. Er mor erchyll ni chredaf fod y sefyllfa foesol yr un fath. Nid bwriad lluoedd Prydain oedd lladd y plant fel mae'n amlwg mai nid bwriad lluoedd Prydain / UDA yn Iraq yw lladd plant. Penderfyniad bwriadol y terfysgwr serch hynny oedd lladd plant. Nid cangymeriad oedd yr hunan ffrwydriad ond gweithred hollol fwriadol gan un oedd yn gwybod y byddai, fel pris am ladd dau neu dri Americanwr yn lladd degau o blant.

Fe fyddech yn gallu gweld y gwahaniaeth pe byddech yn fodlon tynnu eich sbectol gwrth Americanaidd / Prydain am un funud.

O ran diddordeb, mae gan derfysgwyr eithafol Mwslemaidd 'drac record o ladd plant. Onid bwriadol oedd Beslan acbeth yn union yw'r esgus gyfeillion yn achos Darfur lle mae byddinoedd preifat ffwndamentalaidd yn lladd y rhai hynny nad ydynt yn fwslem yn eu miloedd (gan gynnwys plant)?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Dan Dean » Llun 18 Gor 2005 2:29 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Dylid hefyd gywiro Lowri ac eraill ynghylch targedu plant. Yn ol llygaid dyst yr oedd y bron 100 o blant o amgylch y milwyr pan benderfynodd y terfysgwr yrru at y dorf a chwythu ei gar fyny - targedu bwriadol hollol.


Nage. Os nag oedd y milwyr yno ni fuasai wedi digwydd. Felly nid plant oedd y targed bwriadol, ond y bomiwr oedd ddim ots ganddo be arall oedd o'n chwalu.

Cath Ddu a ddywedodd:Fe fyddech yn gallu gweld y gwahaniaeth pe byddech yn fodlon tynnu eich sbectol gwrth Americanaidd / Prydain am un funud.

:rolio:
Dio ddim byd i'w wneud efo hynnu. Diom ots pa wlad sa wedi mynd i ryfel fel hyn mi fuaswn yn ei erbyn.


Cath Ddu a ddywedodd:Nid cangymeriad oedd yr hunan ffrwydriad ond gweithred hollol fwriadol gan un oedd yn gwybod y byddai, fel pris am ladd dau neu dri Americanwr yn lladd degau o blant.


A dyma yw'r gwahaniaeth rhwng yr Americanwyr a'r terfysgwyr?

60 Minutes CBS, 5ed Rhagfyr 1996, yn son am sancsiynau yn Irac a ddywedodd:Lesley Stahl: We have heard that a half million children have died. I mean, that's more children than died in Hiroshima. And, you know, is the price worth it?

Secretary of State Madeleine Albright: I think this is a very hard choice, but the price--we think the price is worth it.



Neis.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron