Garnet Bowen a ddywedodd:Edrych ar y bomiau yn Llundain, a gofyn - Pa grwp oedd yn gyfrifol? Beth ydi eu hamcan? Mae'r un peth yn wir am lawer o'r ymosodiadau yn Irac - Be mae nhw'n geisio ei gyflawni drwy ymosod ar eu cyd-Iraciaid? Pa fudiad sydd tu ol i'r ymosodiadau?
Cwestiynau mawr. Sgen i ddim atebion, wrth gwrs, ond dw i'n meddwl mai camgymeriad ydi synio am yr ymosodiadau bomio yn Irac fel tasai un corff unol yn gyfrifol amdanyn nhw. Mae rhai, fatha'r ymosodiadau mortar ar y Green Zone neu'r IEDs wedi'u hanelu at golofnau Americanaidd, i'w gweld yn fwy penodol o wleidyddol eu hamcan na'r bomiau car (?) anferth oedd wedi lladd cynifer o bererinion mewn rhyw wyl grefyddol fawr ychydig yn ôl, er enghraifft.
Garnet Bowen a ddywedodd:Y ffaith ydi fod 'na gyfle i bobl Irac - am y tro cyntaf mewn 40 mlynedd a mwy - i fynegi eu barn heb ddefnyddio trais. Efallai nad oes ganddyn nhw system ddemocrataidd lawn eto, ond mae ganddyn nhw fwy o ryddid nac y mae nhw wedi ei gael ers dwy genhedlaeth. Dyna sy'n gwneud gweithredoedd y dynion yma yn amhosib i'w cyfiawnhau.
Dw i'n meddwl mai barn sbectol binc ydi hon braidd, ond mi wyt ti'n gwybod hynna eisoes. O'm rhan fy hun, dw i'n eitha siwr, tasa milwyr neu
paramilitaries newydd gicio lawr drws fy nhy a llusgo fy mab i ffwrdd i ddyn a wyr lle, mai'r peth ola fysai'n mynd drwy fy mhen fyddai "wel, dw i'n gwybod pwy sydd ddim yn cael fy mhleidlais inna y tro nesa".
Os oes disgwyl i'r bobl lynu wrth ryw system fatha sgynnon ni yma, mae isio ymrwymiad pendant i werthoedd penodol oddi uchod - petha sylfaenol fatha dim artaith, dim diflaniadau, dim carcharu am gyfnod amhenodol heb sefyll prawf (ahem, Mr Blunkett), dim dienyddio yn y fan-a'r-lle gan luoedd y llywodraeth, dim arestio am feirniadu'r llywodraeth, ac yn y blaen. Dydi hynny ddim yn digwydd ar y funud.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.