terfysgwyr yn lladd yn Iraq

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cardi Bach » Iau 21 Gor 2005 3:11 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Fy nadl i ydi fod trais gwleidyddol yn dderbynniol pan fo pob ffordd arall o weithredu yn amhosib. Yn Irac, mae 'na ffyrdd eraill o weithredu ar gael, felly toes dim posib cyfiawnhau trais. Wyt ti'n cytuno?

Odw a nagw.
Wy ddim yn cytuno a hyn: "fod trais gwleidyddol yn dderbynniol pan fo pob ffordd arall o weithredu yn amhosib".

Ond rwy yn cytuno a dy osodiad olaf: "toes dim posib cyfiawnhau trais",
a byswn i'n adio "byth" at hynny, er nad yw hynny'n bosib i ti am dy fod ti, fel wyt ti'n cyfadde, yn gweld achosion lle gellir cyfiawnhau trais. Ond does dim diben trafod hwn yma - mae yna edefyn arall ar gael i drafod 'oes posib cyfiawnhau trais'.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Garnet Bowen » Iau 21 Gor 2005 3:17 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Wy ddim yn cytuno a hyn: "fod trais gwleidyddol yn dderbynniol pan fo pob ffordd arall o weithredu yn amhosib".

Ond rwy yn cytuno a dy osodiad olaf: "toes dim posib cyfiawnhau trais",
a byswn i'n adio "byth" at hynny, er nad yw hynny'n bosib i ti am dy fod ti, fel wyt ti'n cyfadde, yn gweld achosion lle gellir cyfiawnhau trais. Ond does dim diben trafod hwn yma - mae yna edefyn arall ar gael i drafod 'oes posib cyfiawnhau trais'.


Digon teg. Dwi'n anghytuno yn llwyr a chdi, ond o leia mi wyt ti'n arddel safbwynt egwyddorol, cyson.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan GT » Iau 21 Gor 2005 3:25 pm

Cath Ddu a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Mae pwynt eithaf diddorol yma.

Mae'r Gath yn gwbl gywir bod awdurdod y Dail gan Collins ac ati o 1918(?) ymlaen - nid bod llywodraeth Prydain yn cydnabod yr awdurdod hwnnw - na hawl y Dail i fodoli wrth gwrs.


1919 oedd yr Etholiad

GT a ddywedodd:Ond, mae'n sicr mai'r hyn a greodd y gefnogaeth etholiadol Weriniaethol yn etholiadau 18(?) oedd digwyddiadau 1916, ac yn arbennig ymateb llywodraeth Prydain i'r digwyddiadau hynny.


Ddim o reidrwydd er fod yna gydymdeimlad gyda'r rhai a ddienyddiwyd. Ond y gwir reswm dros chwalfa y Blaid Genedlaethol, sef y chwalfa roddodd gyfle i SF, oedd methiant y Blaid Genedlaethol i wrthwynebu conscriptiwn.


Rhagfyr 14 1918 oedd dyddiad yr etholiad.

Roedd Redmond wedi gyrru'r Irish Volunteers i ymladd ar ochr Prydain cyn 1916, a cherddodd y Blaid Genedlaethol allan o'r Senedd (yn San Steffan) mewn protest yn erbyn conscription yn 1918. Doedd Sinn Fein, gyda llaw ddim wedi cymryd unrhyw ran yn nigwyddiadau 1916.

Mae'n debyg bod conscription 1918 wedi niweidio'r Cenedlaetholwyr - ond roedd y tirwedd gwleidyddol eisoes wedi newid.

Daw hyn a ni yn ol at y pwynt gwreiddiol - ceisio newid y tirwedd gwleidyddol trwy ddefnyddio trais oedd gwrthryfelwyr 1916 - felly terfysgwyr Mwslemaidd heddiw, felly America a Phrydain yn yr ymysodiad ar Irac.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Iau 21 Gor 2005 3:36 pm

GT a ddywedodd:Daw hyn a ni yn ol at y pwynt gwreiddiol - ceisio newid y tirwedd gwleidyddol trwy ddefnyddio trais oedd gwrthryfelwyr 1916 - felly terfysgwyr Mwslemaidd heddiw, felly America a Phrydain yn yr ymysodiad ar Irac.


Oes, mae 'na debygrwydd rhwn y dair carfan. Ond mae 'na lawer iawn mwy yn eu gwahaniaethu nhw na sydd yn eu clymu nhw at eu gilydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan GT » Iau 21 Gor 2005 3:45 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Daw hyn a ni yn ol at y pwynt gwreiddiol - ceisio newid y tirwedd gwleidyddol trwy ddefnyddio trais oedd gwrthryfelwyr 1916 - felly terfysgwyr Mwslemaidd heddiw, felly America a Phrydain yn yr ymysodiad ar Irac.


Oes, mae 'na debygrwydd rhwn y dair carfan. Ond mae 'na lawer iawn mwy yn eu gwahaniaethu nhw na sydd yn eu clymu nhw at eu gilydd.


Yn ddi amau Garnet - ond yn y tair sefyllfa ti'n cael trais yn cael ei ddefnyddio fel erfyn gwleidyddol.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Owain Llwyd » Iau 21 Gor 2005 6:12 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Mae'r dirmyg yn amlwg fan hyn a hynny gan un sy'n byw'n ddiogle yn y Gymru gyfforddus.


Dw i'n ei gweld hi'n eitha rich bod warmonger bach cadair freichiau yn cymryd arno fo ei hun bregethu ynghylch dirmyg at fywydau pobl mewn gwledydd pell.

Cath Ddu a ddywedodd:Felly be ti'n ddweud, fod y dynion hyn yn haeddu marwolaeth am fod yn fodlon gweithio i fwydo teulu?


Ddim o gwbl. Dw i'n ei gweld hi'n sefyllfa ofnadwy o drist bod rhywun mor ddespret fel fod o'n teimlo mai ymuno efo'r lluoedd 'diogelwch' (a'r dyfodol ansicr iawn sy'n gysylltiedig efo hynny ar y funud) ydi'r unig ddewis sydd gynno fo i fwydo'r teulu. Awgrymu ydw i ei bod yn bosibl iawn bysan nhw'n dewis cyflogaeth amgen tasai fo ar gael iddyn nhw. 'Pyn bach fatha cynifer o'r lluoedd Americanaidd, mewn gwirionedd.

Ond paid â gadael i'r actualité darfu ar dy bardduo dychmyglon, da was.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 21 Gor 2005 6:18 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Mae'r dirmyg yn amlwg fan hyn a hynny gan un sy'n byw'n ddiogle yn y Gymru gyfforddus...


:ofn:

Medde'r dyn sy'n cyfiawnhau rhyfeloedd yr UDA a'r DU - o tu ol i sgrin ei gyfrifiadur - ar bob cyfle posibl. Rhyfeloedd sy'n achosi marwolaethau di-ri gan gynnwys Cymry ifanc!

Wyt ti erioed wedi gwrthwynebu penderfyniad Prydain i fynd i ryfel? Neu wyt ti'n slafaidd yn cefnogi penderfyniadau llywodraeth Prydain, dim ots PA mor anghyfiawn?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Owain Llwyd » Iau 21 Gor 2005 6:52 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Edrych ar y bomiau yn Llundain, a gofyn - Pa grwp oedd yn gyfrifol? Beth ydi eu hamcan? Mae'r un peth yn wir am lawer o'r ymosodiadau yn Irac - Be mae nhw'n geisio ei gyflawni drwy ymosod ar eu cyd-Iraciaid? Pa fudiad sydd tu ol i'r ymosodiadau?


Cwestiynau mawr. Sgen i ddim atebion, wrth gwrs, ond dw i'n meddwl mai camgymeriad ydi synio am yr ymosodiadau bomio yn Irac fel tasai un corff unol yn gyfrifol amdanyn nhw. Mae rhai, fatha'r ymosodiadau mortar ar y Green Zone neu'r IEDs wedi'u hanelu at golofnau Americanaidd, i'w gweld yn fwy penodol o wleidyddol eu hamcan na'r bomiau car (?) anferth oedd wedi lladd cynifer o bererinion mewn rhyw wyl grefyddol fawr ychydig yn ôl, er enghraifft.

Garnet Bowen a ddywedodd:Y ffaith ydi fod 'na gyfle i bobl Irac - am y tro cyntaf mewn 40 mlynedd a mwy - i fynegi eu barn heb ddefnyddio trais. Efallai nad oes ganddyn nhw system ddemocrataidd lawn eto, ond mae ganddyn nhw fwy o ryddid nac y mae nhw wedi ei gael ers dwy genhedlaeth. Dyna sy'n gwneud gweithredoedd y dynion yma yn amhosib i'w cyfiawnhau.


Dw i'n meddwl mai barn sbectol binc ydi hon braidd, ond mi wyt ti'n gwybod hynna eisoes. O'm rhan fy hun, dw i'n eitha siwr, tasa milwyr neu paramilitaries newydd gicio lawr drws fy nhy a llusgo fy mab i ffwrdd i ddyn a wyr lle, mai'r peth ola fysai'n mynd drwy fy mhen fyddai "wel, dw i'n gwybod pwy sydd ddim yn cael fy mhleidlais inna y tro nesa".

Os oes disgwyl i'r bobl lynu wrth ryw system fatha sgynnon ni yma, mae isio ymrwymiad pendant i werthoedd penodol oddi uchod - petha sylfaenol fatha dim artaith, dim diflaniadau, dim carcharu am gyfnod amhenodol heb sefyll prawf (ahem, Mr Blunkett), dim dienyddio yn y fan-a'r-lle gan luoedd y llywodraeth, dim arestio am feirniadu'r llywodraeth, ac yn y blaen. Dydi hynny ddim yn digwydd ar y funud.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Dan Dean » Iau 21 Gor 2005 9:54 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Mae gweddill dy rant yn ddi-ddim ac felly ni thrafferthaf i ymateb.

O sod off. Yn gynta, nid oedd yn "rant". Yn ail, roedd y "rant" yma yn ateb dy negeseuon yn eitha call. Be sydd yn "ddi-ddim" yn fama felly? Ti'n iwsles, ddyn.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Owain Llwyd » Iau 21 Gor 2005 10:30 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Owain Llwyd a ddywedodd:Dw i ddim yn derbyn bod 'na gymaint o wahaniaeth â hynny rhwng yr atebolrwydd dylsai rhywun ei ddisgwyl gan y naill a'r llall. Dydi rhoi sêl bendith i ymosodiad ar wlad ddiamddiffyn (pace dy sylwadau am sgwarnogod a ballu) ddim yn llai o drosedd rhyfel na stido carcharor diniwed yn farw yn y ddalfa.


Dwi ddim yn mynd i drafod os ydi un yn llai o drosedd na'r llall. Deud ydw i fod y ddau beth yn wahanol, ac yn esgor ar ddwy drafodaeth wahanol. Trio cadw'r edefyn rhag mynd ar gyfeiliorn yn ormodol.


Os ca i fynd ar gyfeiliorn am sbelan eto, mae Ben Wallace, AS Torïaidd Lancaster a Wyre a chyn-swyddog efo'r Scots Guards, wedi dweud rhywbeth sydd ddim yn amherthnasol i hyn:

Ben Wallace, The Telegraph, 21/07/05 a ddywedodd:If we are charging some of these men with neglect of their duties then we must recognise that the chain of command does not stop with commanding officers but goes right to the door of No 10.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron