Hedd Gwynfor a ddywedodd:Wrth gwrs fod bai anferthol ar yr hunanfomwyr eu hunan, ond trwy feio eraill yn unig, a pheidio edrych ar y cefndir, bydd y problemau a'r lladd yn parhau!
Oes, mae angen edrych ar y cefndir, ond mae hefyd angen parchu'r ffaith fod yr hunan-fomwyr yma yn unigolion, a fod ganddyn nhw'r gallu i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Drwy roi gormod o bwyslais ar y cefndir, mae 'na berygl ein bod ni'n di-brisio gallu'r Iraciaid i reoli eu bywydau bob dydd. Dim ond meddylfryd ymerodraethol, hiliol, sy'n medru dehongli pob gweithred sy'n cael ei chyflawni gan Iraciaid fel canlyniad o weithred flaenorol, "uwch" y gorllewin.
(Nid mod i'n awgrymu dy fod ti'n gwneud hyn, Hedd. Cyfeirio at dueddiad cyffredinol ydw i.)