Gwasg Denmarc ac Islam

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Ari Brenin Cymru » Mer 01 Chw 2006 2:39 pm

Mae Ffrainc wedi ymuno yn y ffrae nawr gan ail-gyhoeddi'r cartwn mewn papur newydd. Dywedodd nhw...

Papur Newydd a ddywedodd:France Soir said it had published the cartoons to show that "religious dogma" had no place in a secular society.


Ai ydi hyn yn wir, ta ydi Ffrainc yn ceisio cynddeiriogi'r Mwslemiad yn fwy?

Stori Yma
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

Postiogan Mici » Mer 01 Chw 2006 5:28 pm

Mae Norwy wedi ail gyhoeddi'r cartwn hefyd.

Darllen erthygl fod llawer o Ddenmarc mewn ofn mai nhw ydi'r nesaf ar rhestr terfysgwyr oherwydd bod ganddynt 500 o filwyr yn Irac.
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway

Postiogan Dewi- Wir Frenin Cymru » Mer 01 Chw 2006 10:19 pm

newydd ddarllen yr edefyn a nawr yn gweld report arno ar y newyddion, dwim yn coelio eu bod wedi cymryd y peth mor seriws, ffac mi sa'r gwledydd ma a'u trigolion yn gallu defnyddio'r amser protestio ma i ffeindio swyddi neu ysgrifennu llenyddiaeth tuag at y Steddfod. dwim yn trio cymryd y piss o'r gwlad na'r crefydd, ond lighten yp and have a bud.
Dewi- Wir Frenin Cymru
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Llun 21 Tach 2005 1:55 pm

Postiogan Chwadan » Iau 02 Chw 2006 8:10 am

Dewi- Wir Frenin Cymru a ddywedodd:lighten yp and have a bud.

Ti'n trio bod yn eironic...? :D

Golygydd France Soir wedi cael y sac bore ma am gyhoeddi cartwnau.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan docito » Iau 02 Chw 2006 11:32 am

Os rhywun yn gwbod ble alle ni weld y llunie?
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan docito » Iau 02 Chw 2006 3:13 pm

I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Macsen » Iau 02 Chw 2006 5:54 pm

Ffyliaid ar y ddau ochor, y papurau newydd am fod yn fwriadol amharchus a'r mwslemiaid am adewithio mor ffyrnig i'r peth.
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Blewyn » Iau 02 Chw 2006 8:12 pm

Wel mae'n rhaid i'r moslemiaid ddysgu beth yw 'free speech' a rhyddid y wasg rhywbryd, neith les mawr iddyn nhw. Waeth i'r broses ddechrau rwan ddim.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Macsen » Iau 02 Chw 2006 8:26 pm

Blewyn a ddywedodd:Wel mae'n rhaid i'r moslemiaid ddysgu beth yw 'free speech' a rhyddid y wasg rhywbryd, neith les mawr iddyn nhw. Waeth i'r broses ddechrau rwan ddim.


Nid 'free speech' sydd wedi digio'r mwslemiaid - mae digon o hynny'n mynd ymlaen o ddydd i ddydd heb iddyn nhw gwyno. Beth sydd wedi ei digio nhw yw bod y papurau newydd yma wedi mynd allan o'i ffordd i'w tramgwyddo nhw. Mae'r Mwslemiaid wedi mynd dros ben llestri, do, ond mae'r staff papurau newydd aeth ati i greu stwr yn y lle cyntaf naill ai yn ffyliaid neu, os nad oedden nhw'n gwybod y byddai'r darluniau yn creu stwr, yn dwp iawn.

Dylai ti gael 'free speech'? Dylsat. Dylai newyddiadurwyr proffesiynol ddefnyddio'r 'free speech' hwnnw i ymosod ar bobl a'u digio ar bwrpas? Nopers.
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Blewyn » Iau 02 Chw 2006 9:02 pm

Mae'na sensoriaeth gwirfoddol wedi cropian i fewn i fywyd cyhoeddus y gorllewin lle mae Islam yn y cwestiwn, yn enwedig ar ol 9-11 a llofruddiaeth Theo van Gogh, achos fod pobl ofn ymateb y Moslemiaid. Os na sefith bobl dros ryddid, sut ddysgith y bobl yn y gwledydd nad oes ganddynt draddodiad o free speech beth ydy o ? Profocio dadl wnaeth y papur yn Denmark, a mae hwnnw'n beth da.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai