docito a ddywedodd:huwwaters a ddywedodd:
Mae o'n hollol blentynaidd, fel cwyno am rywun yn gwneud gwynebau arnoch.
Ma na lot o bobl ar y Maes yn gwrthddweud eu huanain. Pan fo Anne Robinson ar y weakest link yn defnyddio ei rhyddid barn i ymosod ar y Cymry ma'r holl faes yn mynd yn wallgo'. Eto'i gyd ma pawb yn hollol benderfynnol o sicrhau ein hawl i sarhau carfan arall yn ddifrifol.
Does na ddim amheuaeth bod y lluniau yn hynod o sarhaus i'r Mwslemiaid ac o bosib yn syniad annoeth wrth ystyried y sefyllfa wleidyddol bresennol. Ond fel ma nifer yn dweud ma'n rhaid i ni gadw'r hawl i rhyddid barn. Fel y dywed VoltaireI may not agree with what you say, but I'll defend to the death your right to say it
Dwi erioed wedi cwyno am sylwadau Anne Robinson, gad iddi neud y sylwadau yma, neith o droi mwy a mwy o'r Cymry o blaid annibynniaeth neu unrhyw fath o senedd.
Mae'r ffordd mae'n cael ei adrodd yn y wasg yn barnu'r Mwslemiaid ar y cyfan ac yn cymharu hyn a gwrthwynebu rhyddid y wasg ac yn taflu eu pwysau o gwmpas. Ond be fyddai ymateb Catholigion pe bai'r wasg yn cyhoeddi lluniau dychanol o'r Pab? Ymateb Bwdists i lun dychanol o'r Dalhi Lama ayyb?
Buasai Buddists ddim yn ymateb gyda bygythiadau marwolaeth nac amgylchynnu adeiladau gydag arfau.