Gwasg Denmarc ac Islam

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sian eirian » Sad 04 Chw 2006 11:55 pm

huwwaters a ddywedodd:Tybed pam mae wedi dod i'r goleuni rwan, er cafodd y cartwnau eu cyhoeddi'n wreiddiolyn
sian eirian
Cerdyn Coch
Cerdyn Coch
 
Negeseuon: 118
Ymunwyd: Iau 26 Ion 2006 10:39 pm
Lleoliad: BANGOR

Postiogan HBK25 » Sul 05 Chw 2006 1:33 am

Who cares? Mae nhw jyst yn bunch o God botherers fel y Cristnogion. Fuck 'em. I gyd nmae crefydd yn gwneud yw lledaenu celwydd a thwpdra. Mae'r Mwslemiaid i gyd yr un mor dwp a'r Cristnogion.

Allah can kiss my ass. :x
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan huwwaters » Sul 05 Chw 2006 2:24 am

Dyle nhw cael eu cosbi am ymddwyn mor ymosodol am rybeth mor bitw.

Dwi'm yn awgrymu gwneud rhywbeth, ond yn hytrach gwneud dim. Gadael y lle iddi hi ei hun (Dwyrain Canol). Symudwch pawb o'r gorllewin allan o'r lle. Dim mwy o gymorth ariannol etc.

Byse neb yn ymwneud a'r lle onibai am yr olew.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Dylan » Sul 05 Chw 2006 2:03 pm

Sioni Size a ddywedodd:Mae na geilliau sbectaciwlar yn yr edefyn yma. Rhyddid barn aie? Beth am i un ohona chi yrru cartwn o iesu grist yn hamro plentyn o'r tu ol i'r sun, y mail a phob papur newydd arall yn Lloegr i edrych faint ohonyn nhw neith ei brintio?


am be ti'n mwydro? Fel mae Garnet yn nodi, penderfyniad y papur penodol fyddai hynny. Wyt ti'n meddwl na ddylen nhw gael gwneud?

"Rhydd i bawb ei farn a phob barn ei llafar, OND..."?

Ond be? 'Does dim ond. Barn rydd ydi barn rydd ydi barn rydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Sul 05 Chw 2006 2:51 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Mi fyswn i'n dadlau fod "pryfocio" darllenwyr yn un o brif swyddogaethau gwasg rydd.


Gwna hynny felly. Mi fyddwn i'n dadlau dy fod ti'n gwbwl anghywir.

Garnet Bowen a ddywedodd:Toes 'na ddim gwerth mewn deud dy fod yn cefnogi rhyddid barn, cyn belled a'i fod yn syrthio o fewn ffiniau moesol. Mi ddylsa fod gennym ni'r hawl i fynegi barn sydd yn tramgwyddo moesoldeb person arall, hyd yn oed os ydi hynny yn eu digio nhw. Dwi'n meddwl fod y pwynt a godwyd ynglyn ac Anne Robinson ac ati yn un da iawn - dwi wastad wedi dadlau fod y Cymry yn gwneud rhywbeth hyll drwy alw'r heddlu i gwyno am sylwadau o'r fath.

Unwaith eto, tydw i ddim yn dadlau na ddylsai papurau newydd gael yr hawl i ddangos y cartwnau, dwi'n dadlau na ddylsen nhw fod wedi gwneud am ei fod o'n weithred hollol ffol oedd yn tramgwyddo cymaint o bobl mewn ffordd hynod blentynaidd ac ystradebol. Roedd gen i'r hawl i ganu 'You Can Stick Your Fucking Chariot Up Your Arse' mewn tafarn llawn cefnogwyr saeson tra'n gwylio'r rygbi ddoe, ond mi fyddwn i wedi bod yn dwat gwbwl dwp i fod wedi gwneud hynny. Dylai pobl ddim ymarfer ei rhyddid barn ar egwyddor pam nad yw'n gywir gwneud hynny, mwy na ddylai heliwr ladd bob anifail mewn coedwig am nad oes cyfraith yn ei rwystro.

Unig effaith cyhoeddi'r cartwnau yma oedd difrodi ymhellach perthynas digon simsan rhwng gwledydd Ewrop a Mwslemiaid. Ffolineb oedd gwneud hynny ar egwyddor. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Garnet Bowen » Sul 05 Chw 2006 7:30 pm

Macsen a ddywedodd:Unwaith eto, tydw i ddim yn dadlau na ddylsai papurau newydd gael yr hawl i ddangos y cartwnau, dwi'n dadlau na ddylsen nhw fod wedi gwneud am ei fod o'n weithred hollol ffol oedd yn tramgwyddo cymaint o bobl mewn ffordd hynod blentynaidd ac ystradebol.


Digon teg, dyna dy farn di. Mi oedd gan olygydd y papur newydd Daneg farn wahanol. Dyna sydd mor braf am fyw mewn democratiaeth rhyddfrydol - mi gaiff pawb fynegi ei farn. Mae gen i bob parch at dy safbwynt di. Wedi'r cyfan, dwyt ti ddim wrthi yn llosgi llysgenhadaeth Denmark, na'n mynny y dyliau'r cartwnwyr gael eu dienyddio.

Macsen a ddywedodd:Unig effaith cyhoeddi'r cartwnau yma oedd difrodi ymhellach perthynas digon simsan rhwng gwledydd Ewrop a Mwslemiaid. Ffolineb oedd gwneud hynny ar egwyddor. :rolio:


Unig effaith? Onid ydi'r drafodaeth hon yn ran o "effaith" cyhoeddi'r cartwnau? Onid ydi'r cyhoeddi hwnw wedi arwain at drafoedaeth gyhoeddus hynod bwysig ynglyn a rhyddid barn, y gymdeithas aml-ddiwylliannol, a Islam?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Macsen » Sul 05 Chw 2006 8:32 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Digon teg, dyna dy farn di. Mi oedd gan olygydd y papur newydd Daneg farn wahanol. Dyna sydd mor braf am fyw mewn democratiaeth rhyddfrydol - mi gaiff pawb fynegi ei farn. Mae gen i bob parch at dy safbwynt di.

Mae barn y golygydd yn anghywir. Doedd dim rheswm gwerth chweil dros gyhoeddi'r cartwnau, tu hwnt i gyffroi Mwslemiaid ac, wrth gwrs, gwerthiant y papur. Mae'r Mwslemiaid yn flin am fod y golygydd wedi ei trwmgwyddo nhw, nid oherwydd ei fod o'n mynegi ei farn. Yr unig rheswm mae hawliau megis rhyddid barn yn parhau i fodoli yw oherwydd bod disgwyl i bobl eu defnyddio mewn ffordd synhwyrol.

Garnet Bowen a ddywedodd:Wedi'r cyfan, dwyt ti ddim wrthi yn llosgi llysgenhadaeth Denmark, na'n mynny y dyliau'r cartwnwyr gael eu dienyddio.

Tydw i ddim, chwaith, yn cydoddef gwneud rywbeth fyddai yn anochel yn arwain at ymateb o'r fath. Roedd y golygydd yn gwybod yn iawn bod lleiafrif hynod radicalaidd yn bodoli o fewn Islam. Rwyt ti yn ei amddiffyn am brocio cwch gwenyn gyda pastwn am fod ganddo'r hawl i wneud, rydw i'n dweud bod procio'r cwch gwenyn yn rywbeth twp iawn i'w wneud am ei fod yn anochel bod y dyn am gael ei bigo.

Garnet Bowen a ddywedodd:Onid ydi'r cyhoeddi hwnw wedi arwain at drafoedaeth gyhoeddus hynod bwysig ynglyn a rhyddid barn, y gymdeithas aml-ddiwylliannol, a Islam?

Roedd y drafodaeth hwnnw'n bodoli eisoes. Dyw hyn heb gyflawni dim ond cyfnewid y geiriau am drais, a gwneud cytundeb yn llawer iawn anoddach. Llongyfarchiadau.
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Garnet Bowen » Sul 05 Chw 2006 8:51 pm

Macsen a ddywedodd:Mae barn y golygydd yn anghywir. Doedd dim rheswm gwerth chweil dros gyhoeddi'r cartwnau, tu hwnt i gyffroi Mwslemiaid ac, wrth gwrs, gwerthiant y papur. Mae'r Mwslemiaid yn flin am fod y golygydd wedi ei trwmgwyddo nhw, nid oherwydd ei fod o'n mynegi ei farn. Yr unig rheswm mae hawliau megis rhyddid barn yn parhau i fodoli yw oherwydd bod disgwyl i bobl eu defnyddio mewn ffordd synhwyrol.


Tydw i ddim yn hollol siwr be ti'n awgrymu ddylsa ddigwydd. Ti'n deud fod y golygydd yn anghywir, a digon teg - mi yda chi'n ddau unigolyn sy'n arddel dwy farn wahanol. Ond wyt ti'n awgrymu y dylsa fod 'na gyfraith i wahardd hyn rhag digwydd? Tasa gen ti'r grym, fysa ti'n rhwystro pobl rhag cyhoeddi'r fath bethau yn y dyfodol?

Macsen a ddywedodd:Tydw i ddim, chwaith, yn cydoddef gwneud rywbeth fyddai yn anochel yn arwain at ymateb o'r fath. Roedd y golygydd yn gwybod yn iawn bod lleiafrif hynod radicalaidd yn bodoli o fewn Islam. Rwyt ti yn ei amddiffyn am brocio cwch gwenyn gyda pastwn am fod ganddo'r hawl i wneud, rydw i'n dweud bod procio'r cwch gwenyn yn rywbeth twp iawn i'w wneud am ei fod yn anochel bod y dyn am gael ei bigo.


Mae hon yn gymhariaeth sydd - yn fy marn i - yn sarhau y mwslemiaid. Nid dyn ydi gwenyn. Toes gan gwenyn ddim y gallu ymenyddol i wybod pam fod pigo rhywun yn anghywir. Toes 'na ddim disgwyl i wenyn wneud dim byd ond pigo.

Ond nid anifeiliaid ydi'r bobl sydd wedi llosgi'r llysgenadaethau. Pobol ydyn nhw, ac fel pobol mae ganddyn nhw y gallu i ddewis gwneud niwed neu beidio. Mae pob unigolyn yn gyfrifol am ei weithredoedd ei hun, ac mae hyn yn cynnwys y "lleiafrif radical" o fewn Islam. Y nhw eu hunain, pob un ohonyn nhw, sydd yn gyfrifol am eu gweithredoedd, a neb arall. Drwy ddadlau fel arall, ti'n eu iselhau nhw i lefel y gwenyn - ti'n eu gwneud nhw yn lai o bobl na ni.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Lowri Fflur » Sul 05 Chw 2006 10:00 pm

Mae crefydd yn rhywbeth pwysig iawn i lawer o bobl ac yn rhan o'u hunaniaeth. Dylid trin hunaniaeth pobl efo llawer o barch. Dwi ddim yn meddwl y dylid defnyddio y rhyddid i siarad fel arf i frifo eraill. Fel yn y cartwnau hyn mae'r term rhyddid i siarad yn sarhau a sbeitio crefyddau mewn ffordd amharchus a gwawdiol. Mae diffyg y rhyddid i siarad yn rhwystro llawer o syniadau da rhag cael ei lledeunu. Dwi'n cytuno efo'r Qur'an sydd dweud y dylid trafod mewn modd sydd yn dangos parch at bob crefydd, dyma'r unig ffordd ymlaen.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Sul 05 Chw 2006 10:21 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Tydw i ddim yn hollol siwr be ti'n awgrymu ddylsa ddigwydd. Ti'n deud fod y golygydd yn anghywir, a digon teg - mi yda chi'n ddau unigolyn sy'n arddel dwy farn wahanol. Ond wyt ti'n awgrymu y dylsa fod 'na gyfraith i wahardd hyn rhag digwydd? Tasa gen ti'r grym, fysa ti'n rhwystro pobl rhag cyhoeddi'r fath bethau yn y dyfodol?

Na, dylsai'r golygydd gael yr hawl i roi'r cartwnau yma yn ei bapur newydd. Ac yna dylai ei gyflogwr ymarfer ei hawl i'w ddiswyddo am fod yn gymaint o ffwl.

Macsen a ddywedodd:Y nhw eu hunain, pob un ohonyn nhw, sydd yn gyfrifol am eu gweithredoedd, a neb arall. Drwy ddadlau fel arall, ti'n eu iselhau nhw i lefel y gwenyn - ti'n eu gwneud nhw yn lai o bobl na ni.

Wrth gwrs mai nhw sy'n gyfrifol am ei gweithredoedd, nhw sy'n gyfrifol a ei barn, ac rydym ni'n gwybod oherwydd llu o ragesiamplau beth yn union yw'r barn hwnnw. Mae nhw wedi pigo yn y gorffenol, ac ffol fyddai meddwl na fydden nhw'n pigo y tro hyn. Os nad oedd y golygydd yn deall hyn roedd o'n ffol, os oedd o'n deall hyn roedd o'n faleisus. Tydw i ddim yn amddiffyn beth mae'r Mwslemiaid wedi gwneud, ond mae'n rhaid i'r rheini aeth ati i'w cynhyrfu gan wybod sut fydden nhw'n ymateb dderbyn cyfrifoldeb hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron