Tudalen 1 o 17

Gwasg Denmarc ac Islam

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 10:12 pm
gan Geraint Edwards
http://euobserver.com/9/20799

Erthygl ar wefan EUObserver, yn son am gartwn a argraffwyd mewn papur newydd Danaidd yn ddiweddar yn codi hwyl am ben ffwndamentaliaeth Islamaidd.

Ond dyma ddyfyniad diddorol o'r erthygl:

Hamas, which won the Palestinian elections last week, has urged Islamic countries to take "deterrent steps against idiotic Danish behaviour".

"We call on Muslim nations to boycott all Danish products because the Danish people supported the hateful racism under the pretext of freedom of expression," the group said in a statement.


Rywsut neu gilydd, dwi'm yn gweld y fath boicot yn gweithio o gwbl. Wedi'r cyfan, beth yw allforion mwyaf Denmarc? Carlsberg a danish bacon...a faint o Foslemiaid sy'n prynu'r pethau hyn eisoes?

PostioPostiwyd: Maw 31 Ion 2006 1:07 am
gan Blewyn
Diddorol - r'on i heb feddwl am hynna o gwbl. Tybed os ydy'r Daniaid yn gwneud pwynt ar ran Ewrop, profi'r dyfroedd fel petae. Da ni wedi gweld protestiadau yn erbyn y cartwns yma yn barod.

Re: Gwasg Denmarc ac Islam

PostioPostiwyd: Maw 31 Ion 2006 1:11 am
gan huwwaters
Geraint Edwards a ddywedodd:Rywsut neu gilydd, dwi'm yn gweld y fath boicot yn gweithio o gwbl. Wedi'r cyfan, beth yw allforion mwyaf Denmarc? Carlsberg a danish bacon...a faint o Foslemiaid sy'n prynu'r pethau hyn eisoes?


Danish biscuits...

PostioPostiwyd: Maw 31 Ion 2006 11:07 am
gan Garnet Bowen
Dwi'n meddwl fod y modd y mae'r Daniaid wedi plygu i brotestiadau Islamaidd yn warthus. Pam fod pobl mor barod i aberthu rhyddid barn? Dwi'n falch ein bod ni'n byw mewn gwlad (a chyfandir) sy'n gwarchod ein hawl i wneud hwyl ar ben unrhyw ffigwr gwleidyddol.

PostioPostiwyd: Maw 31 Ion 2006 11:14 am
gan Mr Gasyth
Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod y modd y mae'r Daniaid wedi plygu i brotestiadau Islamaidd yn warthus. Pam fod pobl mor barod i aberthu rhyddid barn? Dwi'n falch ein bod ni'n byw mewn gwlad (a chyfandir) sy'n gwarchod ein hawl i wneud hwyl ar ben unrhyw ffigwr gwleidyddol.


pam, be ma nhw wedi neud? yn ol be ddarllenais i ddoe, ma nhw'n gwrthod ildio a hyd yn oed wedi ail-gyhoeddi y cartwn.

PostioPostiwyd: Maw 31 Ion 2006 11:55 am
gan Garnet Bowen

PostioPostiwyd: Maw 31 Ion 2006 12:30 pm
gan Dylan
http://religion.info/english/articles/article_222.shtml

un o'r cartwnau

twll tin Hamas ddweda i. 'Dw i 'di cael llond bol.

PostioPostiwyd: Maw 31 Ion 2006 12:35 pm
gan Dylan
haha, mae nhw wir o ddifri hefyd:

Delwedd

fel o'n i'n dweud: llond bol

PostioPostiwyd: Maw 31 Ion 2006 12:40 pm
gan Iesu Nicky Grist
Flag chep.

PostioPostiwyd: Maw 31 Ion 2006 12:48 pm
gan Dylan
Aye braidd. Mynd i'r holl drafferth o'i lliwio gyda creyons jyst er mwyn ei llosgi wedyn

'dw i wedi bod yn meddwl lot am hyn yn ddiweddar a 'dw i'n meddwl bod gen i'r ateb: niwcio Jeriwsalem. 'Does neb yn ei chael hi wedyn, y diawliaid.