huwwaters a ddywedodd:Tybed pam mae wedi dod i'r goleuni rwan, er cafodd y cartwnau eu cyhoeddi'n wreiddiolyn
Cymedrolwr: Chwadan
huwwaters a ddywedodd:Tybed pam mae wedi dod i'r goleuni rwan, er cafodd y cartwnau eu cyhoeddi'n wreiddiolyn
Sioni Size a ddywedodd:Mae na geilliau sbectaciwlar yn yr edefyn yma. Rhyddid barn aie? Beth am i un ohona chi yrru cartwn o iesu grist yn hamro plentyn o'r tu ol i'r sun, y mail a phob papur newydd arall yn Lloegr i edrych faint ohonyn nhw neith ei brintio?
Garnet Bowen a ddywedodd:Mi fyswn i'n dadlau fod "pryfocio" darllenwyr yn un o brif swyddogaethau gwasg rydd.
Garnet Bowen a ddywedodd:Toes 'na ddim gwerth mewn deud dy fod yn cefnogi rhyddid barn, cyn belled a'i fod yn syrthio o fewn ffiniau moesol. Mi ddylsa fod gennym ni'r hawl i fynegi barn sydd yn tramgwyddo moesoldeb person arall, hyd yn oed os ydi hynny yn eu digio nhw. Dwi'n meddwl fod y pwynt a godwyd ynglyn ac Anne Robinson ac ati yn un da iawn - dwi wastad wedi dadlau fod y Cymry yn gwneud rhywbeth hyll drwy alw'r heddlu i gwyno am sylwadau o'r fath.
Macsen a ddywedodd:Unwaith eto, tydw i ddim yn dadlau na ddylsai papurau newydd gael yr hawl i ddangos y cartwnau, dwi'n dadlau na ddylsen nhw fod wedi gwneud am ei fod o'n weithred hollol ffol oedd yn tramgwyddo cymaint o bobl mewn ffordd hynod blentynaidd ac ystradebol.
Macsen a ddywedodd:Unig effaith cyhoeddi'r cartwnau yma oedd difrodi ymhellach perthynas digon simsan rhwng gwledydd Ewrop a Mwslemiaid. Ffolineb oedd gwneud hynny ar egwyddor.
Garnet Bowen a ddywedodd:Digon teg, dyna dy farn di. Mi oedd gan olygydd y papur newydd Daneg farn wahanol. Dyna sydd mor braf am fyw mewn democratiaeth rhyddfrydol - mi gaiff pawb fynegi ei farn. Mae gen i bob parch at dy safbwynt di.
Garnet Bowen a ddywedodd:Wedi'r cyfan, dwyt ti ddim wrthi yn llosgi llysgenhadaeth Denmark, na'n mynny y dyliau'r cartwnwyr gael eu dienyddio.
Garnet Bowen a ddywedodd:Onid ydi'r cyhoeddi hwnw wedi arwain at drafoedaeth gyhoeddus hynod bwysig ynglyn a rhyddid barn, y gymdeithas aml-ddiwylliannol, a Islam?
Macsen a ddywedodd:Mae barn y golygydd yn anghywir. Doedd dim rheswm gwerth chweil dros gyhoeddi'r cartwnau, tu hwnt i gyffroi Mwslemiaid ac, wrth gwrs, gwerthiant y papur. Mae'r Mwslemiaid yn flin am fod y golygydd wedi ei trwmgwyddo nhw, nid oherwydd ei fod o'n mynegi ei farn. Yr unig rheswm mae hawliau megis rhyddid barn yn parhau i fodoli yw oherwydd bod disgwyl i bobl eu defnyddio mewn ffordd synhwyrol.
Macsen a ddywedodd:Tydw i ddim, chwaith, yn cydoddef gwneud rywbeth fyddai yn anochel yn arwain at ymateb o'r fath. Roedd y golygydd yn gwybod yn iawn bod lleiafrif hynod radicalaidd yn bodoli o fewn Islam. Rwyt ti yn ei amddiffyn am brocio cwch gwenyn gyda pastwn am fod ganddo'r hawl i wneud, rydw i'n dweud bod procio'r cwch gwenyn yn rywbeth twp iawn i'w wneud am ei fod yn anochel bod y dyn am gael ei bigo.
Garnet Bowen a ddywedodd:Tydw i ddim yn hollol siwr be ti'n awgrymu ddylsa ddigwydd. Ti'n deud fod y golygydd yn anghywir, a digon teg - mi yda chi'n ddau unigolyn sy'n arddel dwy farn wahanol. Ond wyt ti'n awgrymu y dylsa fod 'na gyfraith i wahardd hyn rhag digwydd? Tasa gen ti'r grym, fysa ti'n rhwystro pobl rhag cyhoeddi'r fath bethau yn y dyfodol?
Macsen a ddywedodd:Y nhw eu hunain, pob un ohonyn nhw, sydd yn gyfrifol am eu gweithredoedd, a neb arall. Drwy ddadlau fel arall, ti'n eu iselhau nhw i lefel y gwenyn - ti'n eu gwneud nhw yn lai o bobl na ni.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai