Gwasg Denmarc ac Islam

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dili Minllyn » Iau 02 Chw 2006 9:16 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod y modd y mae'r Daniaid wedi plygu i brotestiadau Islamaidd yn warthus. Pam fod pobl mor barod i aberthu rhyddid barn? Dwi'n falch ein bod ni'n byw mewn gwlad (a chyfandir) sy'n gwarchod ein hawl i wneud hwyl ar ben unrhyw ffigwr gwleidyddol.

Cytuno i'r carn. Mae rhyddid barn yn hollbwysig, hyd yn oed y rhyddid i fod yn sarhaus, pwynt wnes i o'r blaen yn y seiat am David Irving. Fel y dywedodd y diweddar Enoch Powell wrth y rhai oedd am ei ddistewi, dadlau'n rhesymol yw'r ffordd orau i wrthsefyll dadleuon (neu gartwnau) afresymol.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan huwwaters » Iau 02 Chw 2006 10:47 pm

Ma hwn yn hollol wirion.

Oni bai am y rhyddid o sarhad fel hyn, ni fydd ffasiwn beth a Private Eye.

Llun da fan hyn.

Mae o'n hollol blentynaidd, fel cwyno am rywun yn gwneud gwynebau arnoch.

A'r ffaith ei fod yn erbyn Islam, sarhau neu llunio y Proffwyd Mohammed, NEWS FLASH, toes na'r un wlad yn Ewrop yn Muslim state, na chwaith canran uchel o fwslemiaid yma.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Dili Minllyn » Iau 02 Chw 2006 10:54 pm

huwwaters a ddywedodd:NEWS FLASH, toes na'r un wlad yn Ewrop yn Muslim state, na chwaith canran uchel o fwslemiaid yma.

Hollol amherthnasol. Rydyn ni'n s
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan huwwaters » Iau 02 Chw 2006 11:04 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:NEWS FLASH, toes na'r un wlad yn Ewrop yn Muslim state, na chwaith canran uchel o fwslemiaid yma.

Hollol amherthnasol. Rydyn ni'n s
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan docito » Gwe 03 Chw 2006 9:36 am

huwwaters a ddywedodd:
Mae o'n hollol blentynaidd, fel cwyno am rywun yn gwneud gwynebau arnoch.

.


Ma na lot o bobl ar y Maes yn gwrthddweud eu huanain. Pan fo Anne Robinson ar y weakest link yn defnyddio eu rhyddid barn i ymosod ar y Cymry ma'r holl faes yn mynd yn wallgo'. Eto'i gyd ma pawb yn hollol benderfynnol o sicrhau ein hawl i sarhau carfan arall yn ddifrifol.

Does na ddim amheuaeth bod y lluniau yn hynod o sarhaus i'r Mwslemiaid ac o bosib yn syniad annoeth wrth ystyried y sefyllfa wleidyddol bresennol. Ond fel ma nifer yn dweud ma'n rhaid i ni gadw'r hawl i rhyddid barn. Fel y dywed Voltaire
I may not agree with what you say, but I'll defend to the death your right to say it
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Dylan » Gwe 03 Chw 2006 10:16 am

haha

Delwedd

dyna'r un gorau o bell ffordd
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Gwe 03 Chw 2006 1:34 pm

Blewyn a ddywedodd:Mae'na sensoriaeth gwirfoddol wedi cropian i fewn i fywyd cyhoeddus y gorllewin lle mae Islam yn y cwestiwn, yn enwedig ar ol 9-11 a llofruddiaeth Theo van Gogh, achos fod pobl ofn ymateb y Moslemiaid. Os na sefith bobl dros ryddid, sut ddysgith y bobl yn y gwledydd nad oes ganddynt draddodiad o free speech beth ydy o ? Profocio dadl wnaeth y papur yn Denmark, a mae hwnnw'n beth da.


Ers pryd mai gwaith papur newydd yw pryfocio ei darllenwyr? Ti'n dal i siarad am 'free speech' - nid cwyno am yr hawl i hynny mae'r Mwslemiaid, ond cwyno oherwydd bod papur newydd yn mynd ati i'w digio nhw. Os yw rywbeth yn digio Mwslemiaid dylsai papurau newydd ddim ei wneud o, yn yr un ffordd na fysen nhw'n gwneud cartwn o Iesu yn cnychu Mair oherwydd byddai hynny'n digio Cristnogion, neu gwneud cartwn o Gymro yn cnychu dafad oherwydd byddai hynny'n digio'r Cymru. Mae'r holl gartwnau na'n ystradebau sal beth bynnag, dychan gwael dros ben sydd ddim yn ychwanegu dim byd i'r drafodaeth am ddiwylliant Islam.

Craidd hyn i gyd yw bod y bobl sy'n cefnogi'r cartwnau yma yn casau Islam gymaint a mae Islam yn casau Daniaid ar hyn o bryd.
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 03 Chw 2006 2:46 pm

Macsen a ddywedodd:Ers pryd mai gwaith papur newydd yw pryfocio ei darllenwyr?


Mi fyswn i'n dadlau fod "pryfocio" darllenwyr yn un o brif swyddogaethau gwasg rydd.

Macsen a ddywedodd: Ti'n dal i siarad am 'free speech' - nid cwyno am yr hawl i hynny mae'r Mwslemiaid, ond cwyno oherwydd bod papur newydd yn mynd ati i'w digio nhw.


Toes 'na ddim gwerth mewn deud dy fod yn cefnogi rhyddid barn, cyn belled a'i fod yn syrthio o fewn ffiniau moesol. Mi ddylsa fod gennym ni'r hawl i fynegi barn sydd yn tramgwyddo moesoldeb person arall, hyd yn oed os ydi hynny yn eu digio nhw. Dwi'n meddwl fod y pwynt a godwyd ynglyn ac Anne Robinson ac ati yn un da iawn - dwi wastad wedi dadlau fod y Cymry yn gwneud rhywbeth hyll drwy alw'r heddlu i gwyno am sylwadau o'r fath.

Pan mae rhyddid barn yn cael ei ddefnyddio i herio dy werthoedd di - pwy bynnag wyt ti - yr ymateb cywir ydi hogi dy safbwynt, a defnyddio'r un rhyddid i ddadlau yn ol. Safbwynt methedig ydi'r un sy'n gorfod mynd at yr heddlu, yn hytrach na dadlau yn ol.

Macsen a ddywedodd:Mae'r holl gartwnau na'n ystradebau sal beth bynnag, dychan gwael dros ben sydd ddim yn ychwanegu dim byd i'r drafodaeth am ddiwylliant Islam.


Felly mae gennym ryddid i ddychanu, cyn belled a'i fod yn "ddychan da"? Ti'n cam-ddeallt beth ydi rhyddid barn - y rhyddid i ddeud pethau sy'n hyll, yn ddiog, yn anghwrtais, yn gabledd, ac yn "ddychan gwael". Y rhyddid, yn fras, i ddeud unrhywbeth.

A dwi'n meddwl fod yr ymateb o du'r byd Islamaidd yn ychwanegu at y drafodaeth o Islam. Pa fath o syniadaeth sydd mor wantan fel ei fod yn gorfod troi at sanctions economaidd fel ymateb i gyfres o gartwns?

Macsen a ddywedodd:Craidd hyn i gyd yw bod y bobl sy'n cefnogi'r cartwnau yma yn casau Islam gymaint a mae Islam yn casau Daniaid ar hyn o bryd.


Lol botas maip. Dwi'n anffyddiwr, ac yn credu mewn seciwlariaeth. Toes gen i fawr o ddim i'w ddeud wrth Gristnogaeth, Hindwiaeth, Islam, y Moonies, Sion Corn na'r Tylwyth Teg. Mi ydw i, fodd bynnag, yn parchu hawl unrhyw un i gredu mewn unrhyw syniad, pa bynnag mor dwp ydi o. Ond be sy'n fy nghorddi fi ydi pan mae un person yn ceisio tramgwyddo ar hawl person arall i arddel syniadau sy'n groes i'w rhai nhw. A dyma sy'n digwydd yn fan hyn - mae rhai Mwslemiaid yn ceisio tanseilio ein hawl ni i fynegi ein barn.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Re: Gwasg Denmarc ac Islam

Postiogan sanddef » Gwe 03 Chw 2006 3:33 pm

Geraint Edwards a ddywedodd:Rywsut neu gilydd, dwi'm yn gweld y fath boicot yn gweithio o gwbl. Wedi'r cyfan, beth yw allforion mwyaf Denmarc? Carlsberg a danish bacon...a faint o Foslemiaid sy'n prynu'r pethau hyn eisoes?


:lol: :lol: :lol:
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan S.W. » Gwe 03 Chw 2006 3:55 pm

Mae'r stori yma yn un rhyfedd ar y diawl.

Mae'r ffordd mae'n cael ei adrodd yn y wasg yn barnu'r Mwslemiaid ar y cyfan ac yn cymharu hyn a gwrthwynebu rhyddid y wasg ac yn taflu eu pwysau o gwmpas. Ond be fyddai ymateb Catholigion pe bai'r wasg yn cyhoeddi lluniau dychanol o'r Pab? Ymateb Bwdists i lun dychanol o'r Dalhi Lama ayyb?

Dwim hyd yn oed yn meddwl bod y lluniau ma'n ddoniol mewn gwirionedd.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron