Macsen a ddywedodd:Ers pryd mai gwaith papur newydd yw pryfocio ei darllenwyr?
Mi fyswn i'n dadlau fod "pryfocio" darllenwyr yn un o brif swyddogaethau gwasg rydd.
Macsen a ddywedodd: Ti'n dal i siarad am 'free speech' - nid cwyno am yr hawl i hynny mae'r Mwslemiaid, ond cwyno oherwydd bod papur newydd yn mynd ati i'w digio nhw.
Toes 'na ddim gwerth mewn deud dy fod yn cefnogi rhyddid barn, cyn belled a'i fod yn syrthio o fewn ffiniau moesol. Mi ddylsa fod gennym ni'r hawl i fynegi barn sydd yn tramgwyddo moesoldeb person arall, hyd yn oed os ydi hynny yn eu digio nhw. Dwi'n meddwl fod y pwynt a godwyd ynglyn ac Anne Robinson ac ati yn un da iawn - dwi wastad wedi dadlau fod y Cymry yn gwneud rhywbeth hyll drwy alw'r heddlu i gwyno am sylwadau o'r fath.
Pan mae rhyddid barn yn cael ei ddefnyddio i herio dy werthoedd di - pwy bynnag wyt ti - yr ymateb cywir ydi hogi dy safbwynt, a defnyddio'r un rhyddid i ddadlau yn ol. Safbwynt methedig ydi'r un sy'n gorfod mynd at yr heddlu, yn hytrach na dadlau yn ol.
Macsen a ddywedodd:Mae'r holl gartwnau na'n ystradebau sal beth bynnag, dychan gwael dros ben sydd ddim yn ychwanegu dim byd i'r drafodaeth am ddiwylliant Islam.
Felly mae gennym ryddid i ddychanu, cyn belled a'i fod yn "ddychan da"? Ti'n cam-ddeallt beth ydi rhyddid barn - y rhyddid i ddeud pethau sy'n hyll, yn ddiog, yn anghwrtais, yn gabledd, ac yn "ddychan gwael". Y rhyddid, yn fras, i ddeud unrhywbeth.
A dwi'n meddwl fod yr ymateb o du'r byd Islamaidd
yn ychwanegu at y drafodaeth o Islam. Pa fath o syniadaeth sydd mor wantan fel ei fod yn gorfod troi at
sanctions economaidd fel ymateb i gyfres o gartwns?
Macsen a ddywedodd:Craidd hyn i gyd yw bod y bobl sy'n cefnogi'r cartwnau yma yn casau Islam gymaint a mae Islam yn casau Daniaid ar hyn o bryd.
Lol botas maip. Dwi'n anffyddiwr, ac yn credu mewn seciwlariaeth. Toes gen i fawr o ddim i'w ddeud wrth Gristnogaeth, Hindwiaeth, Islam, y Moonies, Sion Corn na'r Tylwyth Teg. Mi ydw i, fodd bynnag, yn parchu hawl unrhyw un i gredu mewn unrhyw syniad, pa bynnag mor dwp ydi o. Ond be sy'n fy nghorddi fi ydi pan mae un person yn ceisio tramgwyddo ar hawl person arall i arddel syniadau sy'n groes i'w rhai nhw. A dyma sy'n digwydd yn fan hyn - mae rhai Mwslemiaid yn ceisio tanseilio ein hawl ni i fynegi ein barn.