Owain Llwyd a ddywedodd:Yn ôl amcangyfrifon diweddar, mae rhyw 70 miliwn o bobl yn byw yn Iran - sef rhyw 10 miliwn yn fwy nag sy'n byw yn y DU. Gwlad fach?
Ti'n berffaith gywir - nai neud yn siwr o fy ffigyra' tro nesa.
Owain Llwyd a ddywedodd:Yn ystod y 27 mlynedd diwetha, mae'r wlad wedi cael dau brif arweinydd. Mae'na lawer o bethau gelli di eu beirniadu am drefn fewnol Iran, ond ansefydlog?
Efallai mai dau Ayatollah sydd wedi bod yn ben-ddelw swyddogol ar y wladwriaeth, ond y gwirionedd ydi fod Iran yn wladwriaeth gyfansoddiadol theocrataidd sydd a system fyw o lywodraethu. Tydi hi ddim yn system dwi'n ei chymeradwyo, ond mae hi'n hollol wahanol i fonoliths megis Gogledd Korea neu'r hen Iraq. Ers y cychwyn, mae'r cyfansoddiad Iranaidd wedi trio cyfuno elfen ffwndamentalaidd ac elfen ddemocrataidd, a wedi methu. Ar y funud, mae'r ffwndamentaliaid yn gryf, ond mae hyn dilyn cyfnod o ryddid cymharol yn ystod blynyddoedd Khatami fel Arlywydd. Dwi'n sdicio at fy nehongliad.
Owain Llwyd a ddywedodd: Go brin. Os wyt ti'n poeni am arfau niwclear yn nwylo ffwndamentalwyr Islamaidd, pam dydi Pacistan ddim yn cael mwy o sylw gen ti? Os ydi'r Unol Daleithiau yn bomio Iran, faint o ffydd sydd gen ti bydd Musharaff yn dal ei afael ar rym?
Mi fyddai'n dda gen i tasa modd diarfogi Pacistan. Yn wahanol i Iran, toes 'na ddim ffordd amlwg o wneud hyn.
Owain Llwyd a ddywedodd:Wedi'i hynysu oddi wrth weddill y byd? Naci. Wedi'i hynysu oddi wrth yr Unol Daleithiau achos bod yr Unol Daleithiau wedi gwrthod â chynnal unrhyw fath o gysylltiad diplomataidd parhaol efo'r wlad ers 1979. Yn ôl fy nealltwriaeth inna, mae gan Iran gysylltiadau economaidd a diplomataidd efo Tsieina, Rwsia, India, yr UE, y DU, er enghraifft. Mae hi'n ddarpar aelod llawn o'r Shanghai Cooperation Organization.
Tydi cysylltiadau diplomataidd nac economaidd ddim yn golygu fod ganddi unrhyw leverage gwleidyddol yn y byd. Ymylol ydi hi i gynlluniau Rwsia a Tseina, ac oherwydd ei bod hi'n rhy radical, toes ganddi ddim rhyw lawer o ffrindiau yn y byd Arabaidd. Eto, dwi'n sdicio at fy nehogliad i.