Llythyr arlywydd Iran

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Maw 23 Mai 2006 6:38 pm

Owain Llwyd a ddywedodd:Yn ôl amcangyfrifon diweddar, mae rhyw 70 miliwn o bobl yn byw yn Iran - sef rhyw 10 miliwn yn fwy nag sy'n byw yn y DU. Gwlad fach?


Ti'n berffaith gywir - nai neud yn siwr o fy ffigyra' tro nesa.

Owain Llwyd a ddywedodd:Yn ystod y 27 mlynedd diwetha, mae'r wlad wedi cael dau brif arweinydd. Mae'na lawer o bethau gelli di eu beirniadu am drefn fewnol Iran, ond ansefydlog?


Efallai mai dau Ayatollah sydd wedi bod yn ben-ddelw swyddogol ar y wladwriaeth, ond y gwirionedd ydi fod Iran yn wladwriaeth gyfansoddiadol theocrataidd sydd a system fyw o lywodraethu. Tydi hi ddim yn system dwi'n ei chymeradwyo, ond mae hi'n hollol wahanol i fonoliths megis Gogledd Korea neu'r hen Iraq. Ers y cychwyn, mae'r cyfansoddiad Iranaidd wedi trio cyfuno elfen ffwndamentalaidd ac elfen ddemocrataidd, a wedi methu. Ar y funud, mae'r ffwndamentaliaid yn gryf, ond mae hyn dilyn cyfnod o ryddid cymharol yn ystod blynyddoedd Khatami fel Arlywydd. Dwi'n sdicio at fy nehongliad.

Owain Llwyd a ddywedodd: Go brin. Os wyt ti'n poeni am arfau niwclear yn nwylo ffwndamentalwyr Islamaidd, pam dydi Pacistan ddim yn cael mwy o sylw gen ti? Os ydi'r Unol Daleithiau yn bomio Iran, faint o ffydd sydd gen ti bydd Musharaff yn dal ei afael ar rym?


Mi fyddai'n dda gen i tasa modd diarfogi Pacistan. Yn wahanol i Iran, toes 'na ddim ffordd amlwg o wneud hyn.

Owain Llwyd a ddywedodd:Wedi'i hynysu oddi wrth weddill y byd? Naci. Wedi'i hynysu oddi wrth yr Unol Daleithiau achos bod yr Unol Daleithiau wedi gwrthod â chynnal unrhyw fath o gysylltiad diplomataidd parhaol efo'r wlad ers 1979. Yn ôl fy nealltwriaeth inna, mae gan Iran gysylltiadau economaidd a diplomataidd efo Tsieina, Rwsia, India, yr UE, y DU, er enghraifft. Mae hi'n ddarpar aelod llawn o'r Shanghai Cooperation Organization.


Tydi cysylltiadau diplomataidd nac economaidd ddim yn golygu fod ganddi unrhyw leverage gwleidyddol yn y byd. Ymylol ydi hi i gynlluniau Rwsia a Tseina, ac oherwydd ei bod hi'n rhy radical, toes ganddi ddim rhyw lawer o ffrindiau yn y byd Arabaidd. Eto, dwi'n sdicio at fy nehogliad i.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Nanog » Maw 23 Mai 2006 7:44 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:



Ar y funud, mae'r ffwndamentaliaid yn gryf,


Beth wyt yn ei olygu wrth hyn? Ffwndamentaliaith?





Tydi cysylltiadau diplomataidd nac economaidd ddim yn golygu fod ganddi unrhyw leverage gwleidyddol yn y byd. Ymylol ydi hi i gynlluniau Rwsia a Tseina, ac oherwydd ei bod hi'n rhy radical, toes ganddi ddim rhyw lawer o ffrindiau yn y byd Arabaidd. Eto, dwi'n sdicio at fy nehogliad i.


A yw'r rheswm na fod ganddi lawer o ffrindiau yn y byd Arabaidd am taw Shia yw hi o rhan crefydd a Persiaidd yw'r bobl yn hytrach nag Arabaidd?
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Nanog » Mer 24 Mai 2006 9:03 pm

Term gorellewinol yw ffwndamentaliaith. Mae ei ddefnydd cyson yn fy afgoffa i o Lafur yn galw Plaid yn 'the nationalists' gan awgrymu pethau negyddol wrth wneud. Ond nic yw system democrataidd yn olau i gyd. Mae'n golygu rhoi'r bomb yn nwylo poblogaeth sydd a chyfran uchel ohonni yn derbyn ei gwybodaeth ar y byd o bapurau fel y Sun. Ydy'r Iraniaid yn galw'r UD yn 'the democaratists' neu rywbeth tebyg?
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Dan Dean » Mer 21 Meh 2006 4:07 am

Simon Brooks a ddywedodd:Wrth gwrs, penderfyniad dinasyddion Israel fydd y penderfyniad i ymosod ar Iran ai peidio yn y pen draw.

Fatha penderfyniad dinasyddion Prydain, fel Seimon Brooks, drwy eu llywodraeth etholedig oeddd y penderfyniad i ymosod ar Irac neu peidio.
Neu fatha penderfyniad dinasyddion America trwy eu llywodraeth etholedig oedd ymosod ar Grenada yn 1983.
Neu fatha penderfyniad dinasyddion America trwy eu llywodraeth etholedig oedd chwalu Vietnam a'r ardal efo blynyddoedd diddiwedd o ddinistriaeth llwyr.
Neu fatha penderfyniad dinasyddion Israel trwy eu llywodraeth etholedig oedd ymosodiad ar draeth yn Gaza, yn lladd teulu cyfan diniwed.
Ac yn y blaen.

Mewn geiriau eraill, tydi pledleisio i rhywun wyt ti eisiau weld yn rheoli y wlad diawl o ddim byd i'w wneud efo eu penderfyniad YN Y PEN DRAW o be mae nhw am gyflawni er mwyn eu hunain.

--------

Ar y funud, yn ol y son, mae Ahmadinejad yn cael mwy o gefnogaeth gan wledydd fel China a Rwsia a mwy, oherwydd agwedd yr UDA at Iran. Mae rhaid i Iran gymeryd mantais o hyn, oherwydd mai yr mwyaf o gefnogaeth maent yn gael yn erbyn bygythiadau'r UDA, y gwell. A dwin son am mesura diplomataidd, nid mirwrol.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Dan Dean » Maw 29 Awst 2006 10:10 pm

Hehe, da di hwn:
Newyddion BBC - "Iran TV debate challenge to Bush"

The White House called his suggestion a "diversion" from global concerns over Iran's nuclear programme.

Mae hyn mor anghywir. Be am i George ofyn iddo am y mater? Mi fuasai gwyneb Mr Diversion yn cochi wedyn, bysa? "Damia, mae fy mhlania i o drio anwybyddu'r prif broblem yn y mater wedi mynd i'r chwal wrth i George ofyn amdano yn fyw ar y teledu". Chwerthinllyd!
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Dan Dean » Maw 29 Awst 2006 10:38 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Ond mae hyn yn hollol gamarweiniol. Os y cafodd sylwadau Ahmadinejad eu cam-gyfieithu, pam fod Al Jazeera wedi eu cyhoeddi? Onid gwasaneth newyddion Arabaidd ydi Al Jazeera? Onid oes disgwyl iddyn nhw fedru dehongli be' ddeudodd o yn gywir?

Dwin cofio rhywbeth felma yn cael ei ddweud. Mae'n bwysig pwyntio allan bod Al-Jazeera wedi eu fanio o Iran ers Ebrill 2005, felly mae'n siwr roeddynt efo gymynt o syniad a'r cyfryngau'r gorllewin o be gafodd ei ddweud go iawn. A nid yw'n unig dro mae ei eiriau wedi eu cam-gyfieithu
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Sioni Size » Iau 08 Chw 2007 2:59 am

Simon Brooks a ddywedodd:Rwy'n cefnogi ymosodiad milwrol un ai gan Israel neu America er mwyn dinistrio safleoedd niwclear Iran os yw camau diplomataidd yn methu. Unwaith y gwnaeth arweinyddiaeth Iran benderfynu gwadu'r Holocost, daeth hyn yn gyfiawn.


A dyma enghraifft berffaith uchod o sut mae propaganda yn gweithio.
Am ryw reswm, mae nifer fawr o bobol yn ystyried yr hyn mae newyddion Lloegr a UDA yn draethu fel efengyl, er y celwydd a'r slant amlwg maent yn ei roi yn feunyddiol, tra'n diystyrru unryw beth mae ffynonellau eraill yn ei ddweud.

Dyma be ddwedodd Ahmadinejad, arlywydd democratig Iran.
The Iranian press agency IRNA renders Ahmadinejad on 2005-12-14 as follows: "'If the Europeans are telling the truth in their claim that they have killed six million Jews in the Holocaust during the World War II - which seems they are right in their claim because they insist on it and arrest and imprison those who oppose it, why the Palestinian nation should pay for the crime. Why have they come to the very heart of the Islamic world and are committing crimes against the dear Palestine using their bombs, rockets, missiles and sanctions.' [...] 'If you have committed the crimes so give a piece of your land somewhere in Europe or America and Canada or Alaska to them to set up their own state there.' [...] Ahmadinejad said some have created a myth on holocaust and hold it even higher than the very belief in religion and prophets [...] The president further said, 'If your civilization consists of aggression, displacing the oppressed nations, suppressing justice-seeking voices and spreading injustice and poverty for the majority of people on the earth, then we say it out loud that we despise your hollow civilization.'"

Nath o ddim gwadu'r holocaust o gwbwl. Condemnio defnyddio'r Holocaust fel esgus i ormesu'r palestiniaid oedd o. Ond dyna fo, cawn alw am fomio Iran yn smiddyrins oherwydd fod Fox a CNN yn deud fod o'n wallgofddyn. A Barn wrth gwrs.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Nôl

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron