Garnet Bowen a ddywedodd:Dili Minllyn a ddywedodd:Garnet Bowen a ddywedodd:Y rheswm dwi'n awgrymu hyn fel yr ateb gorau ydi mai dyma'r ffordd o ddatrys problem niwclear Iran gyda'r nifer lleiaf o farwolaethau.
A beth pe bai llu awyr Iran yn trïo "datrys problem niwclear" Israel yn yr un modd?
Fe fydda Israel yn taro yn ol, ac hynny yn ffyrnig. Mantais yr hyn dwi'n ei gynnig ydi fod Iran yn gwybod na fyddai ganddyn nhw obaith yn y byd o drechu Israel mewn rhyfel confensiynnol, felly tydi taro nol ddim yn debygol.
Ond mae Iran hefyd yn gwybod na fyddai ganddyn nhw obaith o fodoli eu hunain ar ol rhyfel niwcliar os ydynt yn gwneud y peth hollol ddwl a hollol
far fetched ti a Seimon Brooks yn boeni amdano, sef ymosodiad niwcliar ar un o drefi Israel am ddim rheswm.
Wir dduw, Seimon a Garnet. Dim ots faint mae nhw yn gasau Israel, mae'n anhebygol iawn iddynt ddefnyddio un. Meddyliwch amdano ffor ffyc secs, un ymosodiad o'r fath = dwsinau, os mwy, o arfau tebyg yn ymosod ar Iran. Mae Iran yn gwybod hyn yn iawn.
Dy lojic di ydi os nad yw atomfa Iran yn cael ei fomio, falla dyna ddiwadd ar un o ddinas Israel. Bolycs paranoid di-feddwl ydi hyn yn fy marn i. Falle bod na rhai yn Iran yn hoff o'r syniad o filoedd, os miliynau o Israeliaid yn marw mewn un ffrwydriad mawr, ond fuasai'r rhai yno ddim isio Iran achosi'r peth ddigwydd, achos dyna'r diwedd iddyn nhw wedyn.
Garnet Bowen a ddywedodd:"Iran's stance has always been clear on this ugly phenomenon (Israel). We have repeatedly said that this cancerous tumor of a state should be removed from the region" Khamenei told thousands of Muslim worshippers in Tehran.
"The Palestinian issue is not an internal Israeli matter. It involves the interests of the whole Islamic world, including Iran. All should strive to return that piece of land to Islamic hands."
Wrth weld bod Khamenei eisiau Israel yn ol i ddwylo Mwslemiaid, does dim llawer o dystiolaeth yn fana sa fo'n fodlon defnyddio arf niwcliar yn erbyn y lle.
Dwi newydd sylai da ni'n trafod gwlad yn ymosod ar wlad arall am ddim rheswm efo WMD, er nad oes dim tystiolaeth o gwbwl bod nhw yn hyd yn oed yn adeiladu un heb son am bod yn fodlon defnyddio un. Lle dwi di clywad hyn or blaen, sgwn i?
Ar ran Iran yn taro yn ol os yw ymosodiad sa ti'n hoffi ei weld yn digwydd, dwin meddwl sa fo
fwy ffyrnig na ti'n feddwl.Garnet Bowen a ddywedodd:Y rheswm dwi'n awgrymu hyn fel yr ateb gorau ydi mai dyma'r ffordd o ddatrys problem niwclear Iran gyda'r nifer lleiaf o farwolaethau.
Y ffordd orau o ddatrys "problem" niwcliar Iran gyda'r nifer lleiaf o farwolaethau yw sylwi pa mor anhebygol yw ymosodiad am ddim rheswm, stopio bod mor blydi paranoid am bethau felma a dangos pa mor ffycin hypocrytical yw America, Ffrainc, Prydain, Israel, Rwsia ac yn y blaen ydyn nhw am gega ar Iran i droi yn niwcliar.