O ba lyfrau mae'r syniad o ymosod ar Iran yn dod? Mae'n dod o wersyll y traddodiad hwnnw o fewn cenedlaetholdeb Cymreig sy'n cymell gweithredu milwrol er mwyn gwrthwynebu bygythiadau o genocide.
Dyna pam y cefnogais ymyrraeth NATO yng Nghosofo, a pham y byddwn wedi bod wrth fy modd pe bai NATO wedi ymyrryd yn Bosnia. Dyna pam y carwn weld ymyrraeth filwrol yn y Sudan heddiw.
Mae'n amhosib caniatau i wladwriaeth sydd wedi galw am gyflawni genocide yn erbyn cenedl arall i gael arfau niwclear.
Wrth gwrs, penderfyniad dinasyddion Israel trwy eu llywodraeth etholedig fydd y penderfyniad i ymosod ar Iran ai peidio yn y pen draw. Ond os penderfyna Israel wneud hynny, byddaf i yn ei chefnogi.