Llythyr arlywydd Iran

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Simon Brooks » Iau 18 Mai 2006 11:24 pm

O ba lyfrau mae'r syniad o ymosod ar Iran yn dod? Mae'n dod o wersyll y traddodiad hwnnw o fewn cenedlaetholdeb Cymreig sy'n cymell gweithredu milwrol er mwyn gwrthwynebu bygythiadau o genocide.

Dyna pam y cefnogais ymyrraeth NATO yng Nghosofo, a pham y byddwn wedi bod wrth fy modd pe bai NATO wedi ymyrryd yn Bosnia. Dyna pam y carwn weld ymyrraeth filwrol yn y Sudan heddiw.

Mae'n amhosib caniatau i wladwriaeth sydd wedi galw am gyflawni genocide yn erbyn cenedl arall i gael arfau niwclear.

Wrth gwrs, penderfyniad dinasyddion Israel trwy eu llywodraeth etholedig fydd y penderfyniad i ymosod ar Iran ai peidio yn y pen draw. Ond os penderfyna Israel wneud hynny, byddaf i yn ei chefnogi.
Simon Brooks
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 89
Ymunwyd: Gwe 17 Medi 2004 12:31 am

Postiogan Owain Llwyd » Gwe 19 Mai 2006 9:56 am

Simon Brooks a ddywedodd:Mae'n amhosib caniatau i wladwriaeth sydd wedi galw am gyflawni genocide yn erbyn cenedl arall i gael arfau niwclear.


Ella byset ti'n barod i ddangos, felly, lle mae pennaeth gwladwriaeth Iran (a rheolwr ei lluoedd arfog), sef yr Ayatollah Khamenei, wedi galw am gyflawni hil-laddiad yn erbyn Israel efo'r arfau niwclear damcaniaethol dydi o ddim i'w weld yn eu cefnogi ar y funud.

Ac efallai, o ddilyn rhesymeg fewnol ddi-fai dy ddadl, byset ti'n licio cefnogi bomio Israel hefyd, gan fod Dirprwy Brif Weinidog y wlad yna, o fewn y diwrnodau diwethaf, wedi bygwth dileu Iran o'r map.

Cyn i Dili golli limpin a dechrau hel e-byst blin ata i, dylswn i bwysleisio 'mod i ddim yn cefnogi bomio Israel, ond mi fysai'n ddiddorol gweld ydi Simon yn cytuno bod yr hyn sy'n addas i'r ŵydd yn addas i'r clacwydd, fel petai - sef bod chwythu bygythiadau gan aelod is o sefydliad gwleidyddol gwlad yn ddigon i gyfiawnhau bomio'r wlad yna.

O'm rhan fy hun, dw i'n meddwl bysai Israel wedi bomio Iran fisoedd yn
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Dili Minllyn » Gwe 19 Mai 2006 3:20 pm

Simon Brooks a ddywedodd:O ba lyfrau mae'r syniad o ymosod ar Iran yn dod? Mae'n dod o wersyll y traddodiad hwnnw o fewn cenedlaetholdeb Cymreig sy'n cymell gweithredu milwrol er mwyn gwrthwynebu bygythiadau o genocide...Dyna pam y carwn weld ymyrraeth filwrol yn y Sudan heddiw.

Mae dy neges di'n dangos yn glir y twll rwyt ti wedi ei balu i ti dy hunan, gan ymgynghreirio efo'r rhagrithwyr (yn drymlwythog ag arfau niwclear eu hunain) sy'n brygawthian am egin rhaglen niwlcear Iran, ond sy'n tin-droi'n ddi-baid yn wyneb hil-laddiad amlwg y mae Affricanwyr croenddu Swdan yn ei ddioddef. Diddorol bod Iran yn allforio tua deg gwaith cymaint o olew â Swdan. Tybed a oes a wnelo hynny rywfaint â diddordeb mawr y Gorllewin y naill wlad a'n difaterwch ynghylch y llall?

Efallai 'fod ti heb sylwi eto mai gorchudd digon tenau dros fuddiannau economaidd digon amrwd yw holl sôn y neo-geidwadwyr am ddod â threfn a democratiaeth i'r byd, a rhesymau digon hunanol o filwrol ac economaidd sydd ganddyn nhw dros bleidio Israel. Fel dwedais i o'r blaen, efo'r fath ffrindiau, brin fod angen gwrthwynebwyr ar y Wladwriaeth Iddewig.

Owain Llwyd a ddywedodd:Ac efallai, o ddilyn rhesymeg fewnol ddi-fai dy ddadl, byset ti'n licio cefnogi bomio Israel hefyd, gan fod Dirprwy Brif Weinidog y wlad yna, o fewn y diwrnodau diwethaf, wedi bygwth dileu Iran o'r map. Cyn i Dili golli limpin a dechrau hel e-byst blin ata i, dylswn i bwysleisio 'mod i ddim yn cefnogi bomio Israel...

Cadwaf fy limpin a fy e-byst blin am y tro. Rhyfeddu rwyf i at ba mor bell mae Shimon Peres wedi teithio ers ennill Gwobr Nobel am Heddwch yn 1994. :?
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Nanog » Sul 21 Mai 2006 12:16 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:
Efallai 'fod ti heb sylwi eto mai gorchudd digon tenau dros fuddiannau economaidd digon amrwd yw holl sôn y neo-geidwadwyr am ddod â threfn a democratiaeth i'r byd, a rhesymau digon hunanol o filwrol ac economaidd sydd ganddyn nhw dros bleidio Israel. Fel dwedais i o'r blaen, efo'r fath ffrindiau, brin fod angen gwrthwynebwyr ar y Wladwriaeth Iddewig.




A yw'r uchod yn wir Dili? Mae Amr Ismail (golygydd Leadaship.com) yn mynnu taw eisiau ymosod ar Iran ar ran Israel mae'r Americanwyr am fod Iran yn :
1. Gefonogol i'r Palesitiniaid. (Cofier taw lleiafrifoedd Shiite yw'r ddau);
2. Gefnogol i HizbAllah yn Lebanon (Shiites eto)
3. Gefnogol i hawl Syria i reoli ucheldir Golan sydd yn awr dan reolaeth Israel;
4. Gefnogol i Hamas ym Mhalesteina.

Mae rhesymau uchod yn ddigon i'r Americanwyr ymosod ar Iran ar ran Israel yn ol Isamil. A oes gan y lobi Idewig yn yr UD gymaint a hynny o ddylanwad dros bwer mwya'r byd?
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Dili Minllyn » Sul 21 Mai 2006 2:40 pm

Nanog a ddywedodd:A yw'r uchod yn wir Dili? Mae Amr Ismail (golygydd Leadaship.com) yn mynnu taw eisiau ymosod ar Iran ar ran Israel mae'r Americanwyr am fod Iran yn :
1. Gefonogol i'r Palesitiniaid. (Cofier taw lleiafrifoedd Shiite yw'r ddau);
2. Gefnogol i HizbAllah yn Lebanon (Shiites eto)
3. Gefnogol i hawl Syria i reoli ucheldir Golan sydd yn awr dan reolaeth Israel;
4. Gefnogol i Hamas ym Mhalesteina.
Mae rhesymau uchod yn ddigon i'r Americanwyr ymosod ar Iran ar ran Israel yn ol Isamil. A oes gan y lobi Idewig yn yr UD gymaint a hynny o ddylanwad dros bwer mwya'r byd?

Fel y dwedai Marx: beth bynnag yw'r rhethreg, rhesymau economaidd sy'n gefn i'r rhan fwyaf i wleidyddiaeth. Mudiadau i amddiffyn buddiannau economaidd yw mudiadau gwleidyddol fel arfer, er nad yw aelodau'r mudiad bob tro'n ymwybodol o hynny, gan 'bod nhw'n pentyrru pob math o syniadau eraill (fel rhesymau apocolyptaidd o Gristnogol rhai Americanwyr asgell-dde dros adfer yr Iddewon i dir Israel) ar ben yr economeg.

O ran Lobi Iddewig UDA, pwy bynnag yw'r rheini, dwi ddim yn arbenigwr arnyn nhw. Efallai y bydd sylwadau gan rai eraill.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Garnet Bowen » Llun 22 Mai 2006 8:19 am

Owain Llwyd a ddywedodd:Ella byset ti'n barod i ddangos, felly, lle mae pennaeth gwladwriaeth Iran (a rheolwr ei lluoedd arfog), sef yr Ayatollah Khamenei, wedi galw am gyflawni hil-laddiad yn erbyn Israel efo'r arfau niwclear damcaniaethol dydi o ddim i'w weld yn eu cefnogi ar y funud.


CNN, Rhagfyr 2000 a ddywedodd:
Iran leader urges destruction of 'cancerous' Israel

December 15, 2000
Web posted at: 6:33 AM EST (1133 GMT)

TEHRAN, Iran (Reuters) -- Iran's supreme leader Ayatollah Ali Khamenei called on Friday for the destruction of Israel, describing it as a "cancerous tumor" in the Middle East.

"Iran's stance has always been clear on this ugly phenomenon (Israel). We have repeatedly said that this cancerous tumor of a state should be removed from the region" Khamenei told thousands of Muslim worshippers in Tehran.

"The Palestinian issue is not an internal Israeli matter. It involves the interests of the whole Islamic world, including Iran. All should strive to return that piece of land to Islamic hands."



Owain Llwyd a ddywedodd:Ac efallai, o ddilyn rhesymeg fewnol ddi-fai dy ddadl, byset ti'n licio cefnogi bomio Israel hefyd, gan fod Dirprwy Brif Weinidog y wlad yna, o fewn y diwrnodau diwethaf, wedi bygwth dileu Iran o'r map.


Yn anffodus, tydi dy linc di i'r Jerusalem Post ddim yn gweithio. Ond tasa chdi wedi darllen sylwadau Shimon Peres, dyma be ddeudodd o

Shimon Peres a ddywedodd:"They want to wipe out Israel ... Now when it comes to destruction, Iran too can be destroyed [but] I don't suggest to say an eye for an eye"


Mae 'na wahaniaeth enfawr rhwng "can" a "should".

Mae 'na hefyd wahaniaeth enfawr rhwng Iran ac Israel. Mae llywodraeth Israel yn fodlon gweithredu yn groes i gyfraith ryngwladol os ydy nhw'n credu fod angen gwneud hynny i amddiffyn eu hunain. Mae Iran yn wladwriaeth Islamaidd ffwndamentalaidd. Fel mae'r dyfyniad uchod gan Khamenei yn ei ddangos, mae casineb tuag at Israel yn ran hanfodol o feddylfryd gwleidyddol Iran a'i llywodraeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Owain Llwyd » Llun 22 Mai 2006 9:39 am

Garnet Bowen a ddywedodd:Mae 'na hefyd wahaniaeth enfawr rhwng Iran ac Israel. Mae llywodraeth Israel yn fodlon gweithredu yn groes i gyfraith ryngwladol os ydy nhw'n credu fod angen gwneud hynny i amddiffyn eu hunain. Mae Iran yn wladwriaeth Islamaidd ffwndamentalaidd. Fel mae'r dyfyniad uchod gan Khamenei yn ei ddangos, mae casineb tuag at Israel yn ran hanfodol o feddylfryd gwleidyddol Iran a'i llywodraeth.


Diolch am dynnu sylw at y pwt ynghylch Khamenei (er bod y cwestiwn ynghylch ei awydd i ddinistrio Israel efo arfau niwclear i'w weld yn dra agored o hyd). Dan ni'n gytûn felly bod prif arweinydd Iran yn ymagweddu yn dra gelyniaethus at Israel.

Ond dydi hynny ddim yn golygu bysai fo'n barod i weld dinistrio ei wlad ei hun, a'i safle grymus iawn ynddi, er mwyn gweld diwedd ar Israel - hyd yn oed os wyt ti'n meddwl bysai fo'n gallu peri'r ffasiwn ddinistr yn y lle cynta, a dydw i ddim.

Dw'n gweld gwahaniaeth go sylfaenol rhwng rhethreg ymosodol a bod yn fygythiad uniongyrchol go iawn. Fel nodais i uchod, tasai Israel yn poeni o ddifri am Iran, bysen nhw wedi bomio'r lle eisoes, a fysen nhw ddim yn piso o gwmpas yn telegraffio bwriadau posib i'r byd a'r betws. Yr unig bobl sy'n telegraffio bwriad i ymosod ydi'r rhain sydd efo'r ffasiwn gryfder fel bod nhw'n gwybod nad ydi'r sawl sy'n amddiffyn yn medru gwneud dim amdano fo, waeth faint o amser maen nhw'n ei gael i baratoi ymlaen llaw, neu bobl ddi-glem (ac, am wn i, dyna un peth fedri di ddim o'i alw ar sefydliad milwrol Israel).
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Garnet Bowen » Llun 22 Mai 2006 10:09 am

Owain Llwyd a ddywedodd:Ond dydi hynny ddim yn golygu bysai fo'n barod i weld dinistrio ei wlad ei hun, a'i safle grymus iawn ynddi, er mwyn gweld diwedd ar Israel - hyd yn oed os wyt ti'n meddwl bysai fo'n gallu peri'r ffasiwn ddinistr yn y lle cynta, a dydw i ddim.


Tydw i inna ddim chwaith. A da o beth ydi hynny. A dyna pam mod i'n awgrymu mai syniad da fyddai i Israel fomio atomfa Iran, cyn i'r sefyllfa hon newid. Gwell dinistrio un atomfa niwcliar yn Iran na un dinas yn Israel.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dili Minllyn » Llun 22 Mai 2006 11:00 am

Garnet Bowen a ddywedodd:Gwell dinistrio un atomfa niwcliar yn Iran na un dinas yn Israel.

Beth am i ni fynd ar daith hanesyddol ddychymygol yn ôl i ddyddiau tywyll yr hen Ryfel Oer rhwng America a'r Undeb Sofietaidd, a ninnau ar Airstrip One rhywle yn y canol? Beth pe bai rhyw Rwsiad pryderus yn tybio, "Gwell bomio safle'r Llynges Frenhinol ger Glasgow na bod un taflegryn yn taro un o ddinasoedd y Famwlad"?
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Garnet Bowen » Llun 22 Mai 2006 12:17 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Gwell dinistrio un atomfa niwcliar yn Iran na un dinas yn Israel.

Beth am i ni fynd ar daith hanesyddol ddychymygol yn ôl i ddyddiau tywyll yr hen Ryfel Oer rhwng America a'r Undeb Sofietaidd, a ninnau ar Airstrip One rhywle yn y canol? Beth pe bai rhyw Rwsiad pryderus yn tybio, "Gwell bomio safle'r Llynges Frenhinol ger Glasgow na bod un taflegryn yn taro un o ddinasoedd y Famwlad"?


Fe fydda 'na ryfel anferth wedi cychwyn, a fyddai wedi arwain at farwolaethau miliynnau o bobl. Wyt ti'n wirioneddol awgrymu y byddai'r un fath yn digwydd tasa Israel yn gollwng bom ar atomfa niwcliar Iran? Y rheswm dwi'n awgrymu hyn fel yr ateb gorau ydi mai dyma'r ffordd o ddatrys problem niwclear Iran gyda'r nifer lleiaf o farwolaethau.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron