Tudalen 1 o 1

Deddf Ymreolaeth Catalunya 2006

PostioPostiwyd: Llun 19 Meh 2006 10:44 am
gan Y Fampir Hip Hop
Mae'n debyg bydd Cataluyna yn cael Deddf Ymreolaeth newydd sydd yn rhoi lot fwy o pwer i'r Llywodraeth Catalaneg, mwy o ymreolaeth hyd yn oed nag yn Wlad y Basg. Dimond aros i Madrid rhoi caniatad i'r deddf sydd ishe arno nhw nawr.

Roedd tua 74% o bobl di pleidleisio am fwy o ymreolaeth, ond dimond tua 50% o bobl bwrodd pleidleis.

Erthygl y BBC (methu ffindo un Gymraeg, fi'n flin)

Mae Sbaen yn fwy debyg i'r DU na ma lot o pobol yn cretu, hyd yn oed fi cyn cwpl o mlynedd yn ol. Mae ardaloedd fel Catalunya, Galica, Gwlad y Basg, a Navarre wedi bod yn ardaloedd wahanol i gweddill Sbaen ers oesoedd, ond achos Franco dimond tua pum ar ucen mlynedd gethon nhw i sefydlu fel Cymunedau Ymreolaethol swyddogol.
Mae Sbaen a'r DU yn myn yr r'un ffordd mae'n debyg - llai o rheolaeth canolog.

Er bo fi'n falch iawn i'r Catalanwyr, mae'n drysi fi tymed bach i gwel canlyiadau hollol llwyddianus fel hyn (on am y turn-out isel) yn wledydd arall tebyg i ni. Felly, pam na ni yng Nghymru yn gael trafferth gael mwyafrif bach i bleidleisio am ein ymreolaeth?

Re: Deddf Ymreolaeth Catalunya 2006

PostioPostiwyd: Maw 20 Meh 2006 11:11 am
gan sanddef
Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:

Mae Sbaen yn fwy debyg i'r DU na ma lot o pobol yn cretu,


Y gwahaniaeth mawr ydy hyn: Ym Mhrydain does neb yn gwadu bod Cymru a'r Alban yn genhedloedd. Ar bob map o Brydain (hyd yn oed mapiau'r UE) gellir gweld ffiniau Cymru a'r Alban. Ond yn Sbaen mae'r Unoliaethwyr (yn enwedig y Partido Popular) yn gwadu bod Catalonia etc yn genhedloedd. Iddyn nhw mae "cenedl" yn gyfystyr a "gwladwriaeth", felly Sbaen sydd yr unig genedl go iawn iddyn nhw. Dyna pam mae'r ddedf newydd wedi bod mor ddadleuol- am ei bod yn disgrifio Catalonia am y tro cyntaf fel "cenedl".

Roeddwn i wedi treulio cryn amser yn Sbaen cyn imi sylweddoli fod pob tro imi ddweud wrth Sbaenwyr taw cenedl ydy Cymru, roeddent yn credu 'mod i'n mynegi barn, nid ffaith!

Re: Deddf Ymreolaeth Catalunya 2006

PostioPostiwyd: Maw 20 Meh 2006 11:39 am
gan Barbarella
Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:Erthygl y BBC (methu ffindo un Gymraeg, fi'n flin)


<a href="http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_5090000/newsid_5096100/5096192.stm">Dyma'r stori yn Gymraeg</a>