Israel a Phalesteina'n dal ati

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Israel a Phalesteina'n dal ati

Postiogan sanddef » Iau 29 Meh 2006 2:08 pm

Israel a Phalesteina'n dal ati

Dw'i'm yn siwr pa wenoglun i'w ddefnyddio, naill ai :crio: neu :rolio:
A oes unrhyw siawns o'r ddwy genedl 'ma yn sortio rhywfath o heddwch allan?
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Dili Minllyn » Iau 29 Meh 2006 4:16 pm

Roedd pethau i'w gweld yn ddigon gobeithiol pan soniwyd am y cynllun a luniodd rhai o'r carcharorion o Balesteiniaid i greu gwladwriaeth ar sail Llain Gasa, Llan y Gorllewin a Jerwsalem, ond ers i'r Palesteiniaid herwgipio dau a'r Israel ymateb efo'r tanciau, mae pethau'n edrych yn eitha tywll.

Mae'r Telegraph hyd yn oed yn meddwl bod Israel wedi mynd yn rhy bell y tro hwn. Yn sicr, dyw hedfan awyrennau uwchsonig yn isel dros dai pobl ddim yn debyg o dawelu pethau.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dewi Lodge » Gwe 30 Meh 2006 12:00 am

Roeddwn i'n meddwl fod pethau'n edrych yn weddol ganologol yn dilyn cyfarfod Mahmoud Abbas ag Ehud Olmert. Lluniau yn y papurau ar ddecharu'r wythnos o'r ddau'n ysgwyd llaw a gwenu. Gobaith o'r diwedd.

Ond!!! Wythnos yn ddiweddarach - gweithred hurt elfennau penboeth y Palesteiniaid yn herwgipio un milwr Israelaidd ag (i fod yn gwbl onest) gorymateb llwyr Israel drwy gosbi poblogaeth gyfan Gasa wrth fomio pontydd a gorsafoedd trydan.

Roedd Hamas ar fin ryw led-gydabod hawl Israel i fodoli (cam mawr ymlaen yn y broses heddwch) a wedyn hyn!!

Ma'n neud i ddyn wir feddwl nad oes cyfaddawdu am fod, byth! :(
Rhithffurf defnyddiwr
Dewi Lodge
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 293
Ymunwyd: Mer 28 Medi 2005 11:52 am
Lleoliad: Pwllheli

Postiogan Dili Minllyn » Gwe 14 Gor 2006 9:42 am

Dyw bomio gwledydd sofran eraill byth yn syniad da, chwaith.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan HBK25 » Gwe 14 Gor 2006 9:51 am

Mae'r holl beth yn dryslyd a di-obaith erbyn hyn. Dwi'n gweld bai ar y ddau ochr, ond dwi ddim yn gweld sians am heddwch yn y dyfodol agos. Mae'n rhyfedd, ddo, achos yn y bon, yr un pobl ydyn nhw yn genetig, jyst bod eu crefydd nhw wedi newid rhywbryd mewn hanes.

Rhywbeth swi ddim yn hoffi yw bias y BBC tuag at y Palestiniaid, ddo. "Militants" ydi Hamas, ie? How very PC. Mae'n nhw'n ceisio gwneud i ni feddwl mai Israel sydd ar fai am bopeth, ond fel arfer ymateb ydyn nhw i rywbeth mae'r "militants" :rolio: wedi gwneud.

Pam allen nhw ddim jyst torri Israel yn ei hanner a rhannu'r blydi lle?
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan ceribethlem » Gwe 14 Gor 2006 10:03 am

HBK25 a ddywedodd: Pam allen nhw ddim jyst torri Israel yn ei hanner a rhannu'r blydi lle?
Drion nhw hwnna, mae rhan o'r broblem sy'n bofdoli nawr.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan dave drych » Gwe 14 Gor 2006 10:14 am

Dwi'n meddwl bod Israel yn ymddwyn yn reit anghyfrifol yn yr helynt yma. Ia dwi'n dallt bod asgell o Hamas wedi cipio un soldiwr (sydd yn rong), ond mae ymateb Israel wedi bod drost ben llestri. Sut ddiawl mae chwalu'r Gasa yn myndi achub Cpl Shalit? A hefyd mae bomio gwlad democrataidd arall, Libanus, ynlle defnyddio dialogue yn dangos cyn lleied mae Israel yn parchu ei cymdogion.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan HBK25 » Gwe 14 Gor 2006 10:24 am

dave drych a ddywedodd:Dwi'n meddwl bod Israel yn ymddwyn yn reit anghyfrifol yn yr helynt yma. Ia dwi'n dallt bod asgell o Hamas wedi cipio un soldiwr (sydd yn rong), ond mae ymateb Israel wedi bod drost ben llestri. Sut ddiawl mae chwalu'r Gasa yn myndi achub Cpl Shalit? A hefyd mae bomio gwlad democrataidd arall, Libanus, ynlle defnyddio dialogue yn dangos cyn lleied mae Israel yn parchu ei cymdogion.


Mae Israel yn old school. Mae ganddyn nhw complex fod pobl yn eu herlyn nhw trwy'r adeg. Yn eu meddylfryd nhw, mae'n siwr ei bod hi'n iawn i gael gwared o gymaint o'r ochr arall ag sy'n bosib. Ar y llaw arall, mae'r Palestiniaid yn ddigon parod i chwythu pobl diniwed i fyny.

Mae ateb i'r sefyllfa yn rhywle, ond fydd na byth heddwch oherwydd fod Mwslemiaid a'r Iddewon yn y rhan yna p'r byd wedi casau eu gilydd ers achau. Mae'n rhy hwyr a dwi ddim ond yn gallu gweld trais a marwolaeth yn nyfodol Israel.
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan Dili Minllyn » Gwe 14 Gor 2006 10:36 am

HBK25 a ddywedodd:Pam allen nhw ddim jyst torri Israel yn ei hanner a rhannu'r blydi lle?

Dyma fy nghynnig i: Israel yn encilio i'w ffiniau ar ddechrau 1967, gan adael i'r trefedigaethwyr tu allan i'r ffiniau yna i ddewis rhwng mudo i Israel neu fyw o dan lywodraeth Arabaidd; sefydlu hawl Israel i amddiffyn eu ffiniau cyfreithlon; creu Gwladwriaeth Palesteina ar Lan y Gorllewin a Llain Gasa; rhoi Jerwsalem dan weinyddiaeth y Cenhedloedd Unedig neu'r Undeb Ewropeaidd, gyda milwyr o sawl gwlad yn cymryd eu tro i'w plismona, gan sicrhau mynediad rhydd i'r mannau sanctaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan sanddef » Gwe 14 Gor 2006 10:43 am

Weithiau dw'i'n credu na fydd heddwch yno tan i'r Israeliaid gael gwared o'r Palesteiniaid yn gyfan gwbl, a dw'i'n amau byddan nhw'n sicr o wneud hynny os daw'r cyfle. Byddai'r Palesteiniaid hefyd yn licio neud rhywbeth tebyg, ond does ganddyn nhw'r firepower.

Mae bomio Libanus yn gam yn ol i'r hen ddyddiau, felly dw'i'n rhagweld diwedd bodolaeth Awdurdod Palesteina, a hynny cyn etholiadau nesa'r UDA.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron