Dan Dean a ddywedodd:Diddorol, achos dwin meddwl mae dweud bod rhaid i derfysgwr fod efo rheswm gwleidyddol dros derfysgu yn amharu ar be mae'r gair "terfysgwr" yn feddwl yn lythrennol. Ac yndw, mi fuaswn yn fodlon galw'r sniper yn derfysgwr hefyd, yr un ffordd mi fuasai hefyd yn derfysgwr os wnaeth o hyn achos ei fod o'n erbyn polisiau'r Ty Gwyn.
Y broblem efo cymryd y gair "terfysgaeth" yn llythrennol ydi nad ydi'r ystyr hwnnw yn cael ei ddefnyddio bellach - fatha'r defnydd gwreiddiol o'r gair "gay". Ydi, ma sniper sy'n saethu pobl ar hap yn derfysgwr mewn un ystyr, ond tydan ni ddim yn defnyddio'r ansoddair "terfysgol" achos yr arwyddocâd gwleidyddol sydd ynghlwm â'r gair bellach. Ma rhoi arwyddocâd terfysgol i'r sniper yn awgrymu fod yna fwriad gwleidyddol lle nad oes un mewn gwirionedd. Ma fel cyflwyno ffrind gan ddeud "he's feeling very gay tonight" - gan roi camargraff (bwriadol?). Ond ma gennan ni eiriau eraill i ddisgrifio canlyniadau erchyll gweithredoedd treisgar angwleidyddol, felly oherwydd y camargraff fasa'n codi yn sgil defnyddio'r gair "terfysg" yn y fath achosion, welai ddim rheswm dros ddychwelyd at y defnydd gwreiddiol o'r gair.
Gan dderbyn fod y canlyniadau yn uffernol dim ots pwy sy'n gweithredu mewn ffordd dreisgar, onid y gwahaniaeth sylfaenol rhwng terfysgwyr yn yr ystyr confensiynol-wleidyddol a'r ystyr mwy rhyddfrydol (h.y. llywodraethau terfysgol) ydi fod grwpiau terfysgol-gonfensiynol yn anelu i newid y status quo (yn nhermau'r llywodraeth sydd mewn grym ac, yn achos Hizbollah, y gyfundrefn ehangach) tra fod llywodraethau "terfysgol" yn anelu at gadw petha fel y maent (nid yn unig yn nhermau cadw grym ond hefyd yn nhermau cadw, er enghraifft, y system Westffalaidd neu ffinoedd gwledydd)?
Sori, wedi crwydro