Israel a Phalesteina'n dal ati

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Nanog » Maw 22 Awst 2006 8:23 pm

Braf gweld fod o leia un gwlad yn ddigon dewr i sefyll lan yn erbyn y bwlis rhyngwladol:


"Israel withdraws Venezuela envoy

Mr Chavez was welcomed warmly in Iran last week
Israel is withdrawing its ambassador to Venezuela as a row grows between the two countries over the war in Lebanon.
At the weekend President Hugo Chavez recalled his envoy to Israel and described the Jewish state's campaign in Lebanon as a "new genocide".

On Monday Israel said it would be flying its ambassador back for "consultations".

The BBC correspondent in Caracas says the row marks an all-time low in relations between the two governments.

Mr Chavez has railed against Israel in interviews and statements in recent days, describing its offensive in Lebanon as "genocide".

"Israel has gone mad," he said in a weekly broadcast on Sunday.

"It's attacking, doing the same thing to the Palestinian and Lebanese people that they have criticized - and with reason - the Holocaust. But this is a new Holocaust."

Venezuela's leading Jewish organisation has criticised government representatives and the government-backed media for making anti-Semitic statements.

'Wild slurs'

Mr Chavez was also highly critical of Israel last week during a two-day visit to Iran, a key sponsor of Lebanon's Hezbollah militia.


Mr Chavez has won some admiration in the Arab world
The Israeli foreign ministry said it was bringing the ambassador back temporarily "as an act of protest against the one-sided policy of the president of Venezuela and in light of his wild slurs against the state of Israel".
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Dili Minllyn » Maw 22 Awst 2006 8:52 pm

Sioni Size a ddywedodd:Ymosodiad Israel ar Lebanon oedd achos rocedu gogledd Israel gan Hizbullah, nid ffordd arall rownd.

Dyw hynny ddim yn hollol wir. Mae'n wir bod llawer mwy o rocedi wedi dod drosodd ers i Israel ddechrau bomio, ond mae rocedi o Libanus a Syria yn glanio ar ogledd Israel ers degawdau. Mae tref Qiryat Shemona wedi ennill y llysenw lleol Qiryat Katyusha gan iddi gael ei tharo gymaint o weithiau.

Owain Llwyd a ddywedodd:Mae'n gwestiwn priodol, yn wir. Dw i wedi clywed bod bomio ffermwyr Cwrdaidd yng ngogledd Libanus a chymunedau Maronitaidd yng ngorllewin y wlad bob tro yn effeithiol yn erbyn Hisbola.

Digon gwir, a dwi ddim yn gwadu hurtrwydd gwaedlyd yr ymgyrch diweddar. Gofyn dwi sut mae gwlad yn ymdrin yn gymesur efo'r fath fudiad â Hisbola.

Owain Llwyd a ddywedodd:Os dydi hynna ddim yn gweithio, mi elli di drio siarad efo'r ochr arall.

Mae hwnna, fel arfer, yn syniad da, ac mae wedi gweithio, i raddau amrywiol, yng Ngogledd Iwerddon a De'r Affrig. Tybed fasai Hisbola (a Hamas) yn fodlon trafod gyda gwladwriaeth nad ydyn nhw'n ei chydnabod, a beth fasai man cychwyn y fath drafodaethau?
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dewi Lodge » Mer 23 Awst 2006 7:58 am

Dili Minllyn a ddywedodd:Gofyn dwi sut mae gwlad yn ymdrin yn gymesur efo'r fath fudiad â Hisbola?


I nadu Hizbollah rhag danio rocedi ar ogledd Israel rhaid i'r Israeliaid ddod i gytundeb a Syria yn yr un modd a wnaethon a'r Aifft a'r Iorddonen yn y gorffennol. Ydi'r Israeliaid wedi cael trafferth efo'r Aifft a'r Iorddonen ers ei cytundebau heddwch? Naddo. Felly cytundeb heddwch efo Syria fasa'n golygu rhoi Ucheldir y Golan yn ol i Syria. Fasa hyna yn ei dro yn golygu ni fasa Syria yn medru cefnogi ag arfogi Hizbollah yn Libanus heb wynebu dirmyg gweddil y byd. Ag heb gefnogaeth Syria, fasa'n annoddach i Iran gefnogi ag arfogi Hizbollah.

I nadu Hamas rhag danio rocedi ar dde Israel rhaid i'r Israeliaid ddod i gytundeb a'r Palesteiniaid. Tynnu'n ol at ffiniau 1967 er mwyn sefydlu gwladwriaeth ymarferol yng Ngasa ar Llain Gorllewinol.

Yn sail i'r cytundebau hyn fasa cytundeb gan wladwriaethu Arabaidd y Dwyrain Canol i gyd yn cydnabod hawl Israel i fodoli ag yn cadarnhau ei ffiniau (rhai 1967).

Fasa cytundeb Israel ag elfennau cymedrol Syria, Libanus a Phalesteina yn golygu llai a llai o gefnogaeth gan bobl gyffredin y gwledydd yna i'r elfennau eithafol yn ei mysg.

Mi fasa hyn oll yn boenus iawn i Israel yn tymor byr oherwydd gorfod diosg y "settlements" ar y Llain Gorllewinol ond credaf y basa'n golygu heddwch parhaol yn y tymor hir.
Rhithffurf defnyddiwr
Dewi Lodge
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 293
Ymunwyd: Mer 28 Medi 2005 11:52 am
Lleoliad: Pwllheli

Postiogan Dili Minllyn » Mer 23 Awst 2006 10:44 am

Gobeithio dy fod ti'n iawn, Dewi. Dw innau wedi dadlau o'r blaen ar y Maes dros encilio gan Israel i ffiniau 1948 a rhoi diwedd ar gefnogaeth llywodraeth y wlad i drefedigaethau tu allan i'r ffiniau hynny. (Fe ddylai fod yn bosibl, wth gwrs, i Iddewon fyw yng Ngwladwriaeth Palisteina, yn union fel mae Arabiaid yn byw yn Israel nawr, ond heb nawdd y llywodraeth).

Ond y cwestiwn mawr yw a fyddai hynny'n ddigon i danseilio mudiadau sydd am ddileu Israel fel gwladwriaeth Iddewig yn gyfan gwbl?
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Owain Llwyd » Mer 23 Awst 2006 11:55 am

Dili Minllyn a ddywedodd:Ond y cwestiwn mawr yw a fyddai hynny'n ddigon i danseilio mudiadau sydd am ddileu Israel fel gwladwriaeth Iddewig yn gyfan gwbl?


Mi fysai fo'n lle cychwyn eitha da.

Fel cam nesa reit adeiladol, gallai Israeliaid drio rhoi'r gorau i synio am eu cymdogion agos fel chwilod du (Rafael Eitan) neu fwystfilod yn cerdded ar ddwy goes (Menachem Begin) neu geiliogod rhedyn i'w sathru (Yitzhak Shamir) neu grocodeiliaid (Ehud Barak) neu ganser (Moshe Ya'alon). Tra bod gen ti bobl fatha'r Rabbi Yaacov Perrin yn datgan yn gyhoeddus fod miliwn o Arabiaid yn werth llai nag un ewin Iddewig, mi fydd gen ti broblemau.

Cam arall eitha cynhyrchiol fyddai peidio â rhoi rheswm i dy gymdogion dy gasáu di. Mae dyn yn rhywle yn Libanus ar y funud sydd newydd golli ei fam, ei wraig a'i bum plentyn mewn un ymosodiad gan Israel. A dyn arall sydd newydd weld ei wraig wedi'i chwythu yn ddarnau gan awyren Israelaidd tra oeddan nhw ar y ffordd i'r ysbyty iddi gael esgor ar eu plentyn cyntaf - a fynta wedyn yn dod ar draws y ffetws yn gorwedd yn llwch y lôn wrth weddillion ei wraig. Wyt ti'n meddwl bod ffwc o ots gen y ddau yna, a'r degau o filoedd sydd mewn sefyllfa debyg, am ddyfodol Israel, ac wyt ti'n meddwl bysai ffwc o ots gen tithau am lewyrch a dyfodol y wlad drws nesa tasai hi wedi gwneud rhywbeth tebyg i dy deulu dithau?

Rant drosodd. Dw i jyst wedi cael llond blincin bol o glywed Israeliaid (a'u cefnogwyr) yn mynd ymlaen fel tasai eu dyfodol nhw yn trympio dyfodol pawb arall yn y rhan yna o'r byd.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Dan Dean » Mer 23 Awst 2006 4:12 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:
Sioni Size a ddywedodd:Ymosodiad Israel ar Lebanon oedd achos rocedu gogledd Israel gan Hizbullah, nid ffordd arall rownd.

Dyw hynny ddim yn hollol wir. Mae'n wir bod llawer mwy o rocedi wedi dod drosodd ers i Israel ddechrau bomio, ond mae rocedi o Libanus a Syria yn glanio ar ogledd Israel ers degawdau. Mae tref Qiryat Shemona wedi ennill y llysenw lleol Qiryat Katyusha gan iddi gael ei tharo gymaint o weithiau.



Ers degawdau? Cofia yn ystod y degawdau yma roedd Israel wedi cipio de Libanus. Mae ymosodiad rocedi yn dueddol o ddigwydd i wlad os di'r gwlad hwnnw yn ymyrryd ar y gwlad drws nesa.

Hefyd, nid yw dy linc yn dangos unrhyw dystiolaeth o ymosodiad o'r fath ers i Israel adael de Libanus yn 2000, a dwi heb weld tystiolaeth o hyn ar ol ymchwiliad pellach chwaith. Dydi hwn ddim yn rhoi llawer o dystiolaeth hyd noed!
Mae'n debyg bod y dre wedi cael ei enwi ar ol y brwydr debyg i un heddiw a ddigwyddodd 10 mlynedd yn ol ("Operation Grapes of Wrath"), lle roedd rhan fwya o'r 600+ o rocedi Hizbollah wedi taro'r dre. Gyda llaw, ni chafodd neb ei ladd achos roedd Hizbollah wedi rhoi rhybydd o flaen llaw ar y radio.

Felly yndi, mae trefi Israel wedi chael hi gan rocedi Hizbollah oblaen, ond roedd na ormod o amser ers i hyn ddigwydd i'w ddefnyddio fel esgus i'r ymosodiad diweddar gan Israel.

Dili Minllyn a ddywedodd:
Owain Llwyd a ddywedodd:Os dydi hynna ddim yn gweithio, mi elli di drio siarad efo'r ochr arall.

Mae hwnna, fel arfer, yn syniad da, ac mae wedi gweithio, i raddau amrywiol, yng Ngogledd Iwerddon a De'r Affrig. Tybed fasai Hisbola (a Hamas) yn fodlon trafod gyda gwladwriaeth nad ydyn nhw'n ei chydnabod, a beth fasai man cychwyn y fath drafodaethau?


Ond mae nhw YN fodlon trafod. Ar ol cipio'r milwyr dywedodd Hizbollah yn syth na trafod oeddynt eisiau gwneud, dim rhyfela, gan ddefnyddio'r milwyr fel rhywbeth i gyfnewid efo'r carcharorion yn Israel.
Oedd yn risg anferth, ond roedd o wedi gweithio tro dwytha (Ionawr 2004).
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Dili Minllyn » Iau 24 Awst 2006 8:03 pm

Owain Llwyd a ddywedodd:Wyt ti'n meddwl bod ffwc o ots gen y ddau yna, a'r degau o filoedd sydd mewn sefyllfa debyg, am ddyfodol Israel, ac wyt ti'n meddwl bysai ffwc o ots gen tithau am lewyrch a dyfodol y wlad drws nesa tasai hi wedi gwneud rhywbeth tebyg i dy deulu dithau?

Digon teg, a dwi ddim yn gwadu dioddefaint pobl Libanus yn y misoedd diweddar.

Dan Dean a ddywedodd:Dwi heb weld tystiolaeth o hyn ar ol ymchwiliad pellach chwaith.

Ond mae'r ddolen yma'n rhoi digon o wybodaeth ddiddorol am y cymorth ymarferol a'r offer milwrol y mae Iran a Syria wedi bod yn eu rhoi i Hisbola, gan danseilio'r argraff mae rhai'n hoffi ei rhoi bod Hisbola'n rhyw fath o fudiad amddiffyn Libanus sy'n tanio "rocedi cartre" digon diniwed.

Dan Dean a ddywedodd:Ond mae nhw YN fodlon trafod. Ar ol cipio'r milwyr dywedodd Hizbollah yn syth na trafod oeddynt eisiau gwneud...

Fel y gelli di ddychmygu, faswn i ddim yn meddwl bod Israel yn yn rhyw awyddus iawn i drafod yn y fath sefyllfa, rhag ofn bod hynny'n arwain at ragor o herwgipio.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Owain Llwyd » Iau 24 Awst 2006 9:30 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:
Owain Llwyd a ddywedodd:Wyt ti'n meddwl bod ffwc o ots gen y ddau yna, a'r degau o filoedd sydd mewn sefyllfa debyg, am ddyfodol Israel, ac wyt ti'n meddwl bysai ffwc o ots gen tithau am lewyrch a dyfodol y wlad drws nesa tasai hi wedi gwneud rhywbeth tebyg i dy deulu dithau?


Digon teg, a dwi ddim yn gwadu dioddefaint pobl Libanus yn y misoedd diweddar.


Wel, mae hynna'n rhywbeth, am wn i. Eto dw i'n amau nad ydi Olmert a Halutz a'u tebyg ddim yn gwadu dioddefaint pobl Libanus yn ddiweddar - jyst bod nhw ddim yn ei weld o'n aruthrol o bwysig chwaith.

Dili Minllyn a ddywedodd:Ond mae'r ddolen yma'n rhoi digon o wybodaeth ddiddorol am y cymorth ymarferol a'r offer milwrol y mae Iran a Syria wedi bod yn eu rhoi i Hisbola, gan danseilio'r argraff mae rhai'n hoffi ei rhoi bod Hisbola'n rhyw fath o fudiad amddiffyn Libanus sy'n tanio "rocedi cartre" digon diniwed.


Mae dy resymeg di yma yn eitha diddorol.

(i) Mae llu milwrol yn hawlio ei fod yn amddiffyn Gwlad A;
(ii) Ond mae'r llu milwrol yn derbyn cymorth ac offer milwrol gan Wledydd B ac C;
(iii) Felly dydi'r llu milwrol ddim, mewn gwirionedd, yn amddiffyn Gwlad A.

Dw i'n eitha siwr byset ti'n gweld gwendidau'r ddadl yma tasai rhywun yn ei chymhwyso at yr IDF a'i sugar daddies yn yr Unol Daleithiau a Phrydain.

O ran y rocedi mae Hisbola wedi bod yn eu saethu, dw i ddim yn ymwybodol o neb sydd wedi awgrymu eu bod yn ddiniwed (er nad ydan nhw'n dechrau dod yn agos at fod mor erchyll o ddinistriol â'r arfau sydd ar gael i Israel). Y 'rocedi cartref' ydi'r rhai sydd wedi bod yn cael eu saethu allan o Gaza, ac ymateb neb llai na'r hyfryd Shimon Peres i'r rheina oedd "Qassams shmassams".

Dili Minllyn a ddywedodd:
Dan Dean a ddywedodd:Ond mae nhw YN fodlon trafod. Ar ol cipio'r milwyr dywedodd Hizbollah yn syth na trafod oeddynt eisiau gwneud...


Fel y gelli di ddychmygu, faswn i ddim yn meddwl bod Israel yn yn rhyw awyddus iawn i drafod yn y fath sefyllfa, rhag ofn bod hynny'n arwain at ragor o herwgipio.


Tra bod dinistrio'r wlad drws nesa yn mynd i arwain at ben draw heddychlon a boddhaol i bawb? Wela i.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Dan Dean » Gwe 25 Awst 2006 12:24 am

Dili Minllyn a ddywedodd:
Dan Dean a ddywedodd:Dwi heb weld tystiolaeth o hyn ar ol ymchwiliad pellach chwaith.

Ond mae'r ddolen yma'n rhoi digon o wybodaeth ddiddorol am y cymorth ymarferol a'r offer milwrol y mae Iran a Syria wedi bod yn eu rhoi i Hisbola, gan danseilio'r argraff mae rhai'n hoffi ei rhoi bod Hisbola'n rhyw fath o fudiad amddiffyn Libanus sy'n tanio "rocedi cartre" digon diniwed.

Trio profi y pwynt na nid oedd Hezbollah wedi taro roced ar dref Israel ers 2000 oeddwn i. Ti'n rhoi "ond" i'r pwynt yna, a wedyn yn mynd off y pwynt yn llwyr i helpu'r "ond". A dydi neb erioed wedi honni mai "rocedi cartre" mae Hezbollah yn ddefnyddio, nac erioed wedi galw nhw'n "ddiniwed". Pawb yn gwybod o lle mae nhw'n cael yr arfau. Ond dydi hynnu ddim yn gwrthbrofi'r ffaith na pwynt Hezbollah yn y lle cynta oedd amddiffyn Libanus.

Mi allaf hefyd rhoi hen ddigon o wybodaeth i ti na cymorth a offer milwrol yr UDA mae Israel yn gael hefyd. Wyt ti, felly, am ddod i'r casgliad bod y ffaith yma yn "tanseilio'r argraff mae rhai'n hoffi ei rhoi bod byddin Israel yn rhyw fath o fudiad amddiffyn Israel"?

Dili Minllyn a ddywedodd:
Dan Dean a ddywedodd:Ond mae nhw YN fodlon trafod. Ar ol cipio'r milwyr dywedodd Hizbollah yn syth na trafod oeddynt eisiau gwneud...

Fel y gelli di ddychmygu, faswn i ddim yn meddwl bod Israel yn yn rhyw awyddus iawn i drafod yn y fath sefyllfa, rhag ofn bod hynny'n arwain at ragor o herwgipio.

Felly pam wnaethon nhw dderbyn y fath beth yn 2004, aeth ddim dilyn i ragor o herwgipio? A be sy'n anhygoel ydi bod Olmert yn cysidro yr opsiwn yna rwan, sef yr union yr un opsiwn aeth Hezbollah gynnig cyn i Israel ymosod. Sydd yn meddwl fuasai

1) dros 1100 o bobol dal yn fyw, dros chwarter ohonynt yn blant diniwed
2) Hezbollah ddim cymynt o arwyr yn y byd Arabaidd
3) ni fyddai pobol yn cael ei lladd yn ddyddiol o hyn ymlaen gan un o'r arfau mwyaf ffiaidd yn y byd

Ond dwin meddwl na'r trydydd pwynt oedd un o'r rhesymau pam oedd yr ymosodiad mor ormodol. Dwin meddwl oedd Israel eisiau chwalu Libanus. Ellai ddim dweud yn sicr pam, ond dwin siwr mewn amser cawn atebion. Dwin meddwl hyn achos dim Hezbollah yn unig oedd y targed yn yr ymosodiad, a ddylir hyn fod yn hollol amlwg i bawb.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Tegwared ap Seion » Gwe 25 Awst 2006 7:33 am

Dan Dean a ddywedodd:
Dili Minllyn a ddywedodd:
Dan Dean a ddywedodd:Ond mae nhw YN fodlon trafod. Ar ol cipio'r milwyr dywedodd Hizbollah yn syth na trafod oeddynt eisiau gwneud...

Fel y gelli di ddychmygu, faswn i ddim yn meddwl bod Israel yn yn rhyw awyddus iawn i drafod yn y fath sefyllfa, rhag ofn bod hynny'n arwain at ragor o herwgipio.

Felly pam wnaethon nhw dderbyn y fath beth yn 2004, aeth ddim dilyn i ragor o herwgipio?


Wel, mi wnaeth o arwain at fwy o herwgipiadau do?! Mi welodd Hizbollah fod y peth 'di gweithio yn 2004 so ma nw'n trio eto.
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 8 gwestai