Israel a Phalesteina'n dal ati

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dan Dean » Sul 27 Awst 2006 2:19 pm

Dan Dean a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Nid trafod rhinweddau neu ffaeleddau Israel vs Hizbollah ydw i. Ond mae hi'n bwysig herio'r syniad nad oes mymrun o wahaniaeth rhwng terfysgaeth a rhyfel. Y syniad sy'n deud fod America yn derfysgwyr, a bod Hamas yn fyddin. A'r syniad yma o atebolrwydd democrataidd - o orfod wynebu canlyniadau defnyddio trais - sydd wrth wraidd y gwahaniaeth rhwng y ddau beth.

Garnet, mae byddin yn gallu terfysgu. Mae rhan fwya o derfysgaeth yn hanes y byd ma wedi digwydd mewn rhyfel. Brwydr gyfa yw rhyfel. Ffordd o gwffio brwydr yw terfysgaeth. Ti'n mesur ymosodiad terfysgol wrth weld canlyniad yr ymosodiad, dim cefndir pwy sydd yn ei wneud o. Dwi meddwl dy fod angen edrych a cywiro dy ddiffiniad personol o derfysgaeth.

Er engraifft:
The men of B Company were in a dangerous state of mind. They had lost five men in a firefight the day before. The morning of Feb. 8, 1968, brought unwelcome orders to resume their sweep of the countryside, a green patchwork of rice paddies along Vietnam's central coast.

They met no resistance as they entered a nondescript settlement in Quang Nam province. So Jamie Henry, a 20-year-old medic, set his rifle down in a hut, unfastened his bandoliers and lighted a cigarette.

Just then, the voice of a lieutenant crackled across the radio. He reported that he had rounded up 19 civilians, and wanted to know what to do with them. Henry later recalled the company commander's response:

"Kill anything that moves."

Henry stepped outside the hut and saw a small crowd of women and children. Then the shooting began.

Moments later, the 19 villagers lay dead or dying.

"Kill anything that moves" yw terfysgaeth ar ei waethaf. Mi ddigwyddodd hyn mewn rhyfel, a byddin oedd yn gyfrifol.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Garnet Bowen » Sul 27 Awst 2006 3:31 pm

Dan Dean a ddywedodd:Felly ti'n dweud nad yw Hezbollah yn atebol i NEB achos nid ydynt wedi enill yr etholiad? Wel dydi hyn yn sicr ddim yn wir. Maent hefyd yn chwarae rhan mawr ym mywyd cymdeithasol Libanus drwy redeg ysgolion, ysbytai, llysoedd a.y.y.b. A mi roeddynt yn sicr yn atebol i drigolion Libanus pan cafwyd ei greu - i gwffio byddin terfysgol Israel yn 1982 yng ngwlad eu hunain.


Dwi ddim yn meddwl dy fod ti'n deallt y cysyniad o atebolrwydd. Tydi 'run o'r petha ti'n eu rhestru uchod yn gwneud Hizbollah yn atebol am eu gweithredoedd terfysgol.

Dan Dean a ddywedodd:
Garnet, mae byddin yn gallu terfysgu. Mae rhan fwya o derfysgaeth yn hanes y byd ma wedi digwydd mewn rhyfel. Brwydr gyfa yw rhyfel. Ffordd o gwffio brwydr yw terfysgaeth. Ti'n mesur ymosodiad terfysgol wrth weld canlyniad yr ymosodiad, dim cefndir pwy sydd yn ei wneud o. Dwi meddwl dy fod angen edrych a cywiro dy ddiffiniad personol o derfysgaeth.


Ti i weld yn credu fod terfysgaeth fel term sy'n disgrifio unrhyw weithred dreisgar sydd a gwraidd wleidyddol iddi. Ond nid dyma ydi terfysgaeth. Trais gwleidyddol wedi ei ddefnyddio mewn ffordd benodol ydi terfysgaeth.

Wrth gwrs, mae gwahanol ffyrdd o ddehongli terfysgaeth. Dwi'n cydnabod fod rhaid defnyddio trais gwleidyddol weithiau, er mwyn rhwystro dioddefaint neu anghyfianwder. Ond i mi, mae'n rhaid i'r trais hwnw fod yn atebol.

Os ydi gwladwriaeth yn defnyddio trais, yna mae hi'n hanfodol fod y wlad hono yn gweithredu gyda chyd-syniad ei dinasyddion - tydi unben yn gyrru trigolion ei wlad i farw ddim yn atebol yn yr un ffordd ac y mae arlywydd etholedig yn atebol.

Mae'n bosib fod rhaid i grwpiau anetholedig droi at drais yn achlysurol. Ond er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid mai trais ydi'r unig ddewis sydd ar gael iddyn nhw. Ac mae'n rhaid iddyn nhw fod yn barod i ateb am eu gweithredoedd.

Engrhaifft o hyn ydi'r ANC. Doedd ganddyn nhw ddim mo'r cyfle i sefyll mewn etholiadau, na ymladd ymgyrch gyfansoddiadol dros eu hawliau, felly roedd yn rhaid defnyddio rhywfaint o drais. Ac ar ol cwymp apartheid, roedd aelodau'r ANC yn atebol i'r Truth and Reconcilliation comission, yr un fath a phawb arall.

Wrth gwrs, mae 'na elfen arall o derfysgaeth sydd yn gyffredin i'r ddwy ochr yn y frwydr yma, sef cymedroldeb. Er mwyn cyfiawnhau y defnydd o drais, mae'n rhaid iddo gael ei ddefnyddio yn y modd mwyaf cymhedrol posib. Mae defnyddio trais mewn modd anghyfrifol, sy'n debygol o niweidio pobl ddiniwed, yn nodwedd o derfysgaeth. Ac mae Israel yn bendant yn euog o ddefnyddio trais mewn modd sydd ddim yn gymhedrol. Ond un nodwedd o derfysgaeth ydi hyn. Tydi'r nodwedd yma ar ei phen ei hun ddim yn gwneud rhywun yn derfysgwr. Troseddwyr rhyfel, efallai, ond nid terfysgwyr.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Owain Llwyd » Sul 27 Awst 2006 9:56 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Os ydi gwladwriaeth yn defnyddio trais, yna mae hi'n hanfodol fod y wlad hono yn gweithredu gyda chyd-syniad ei dinasyddion - tydi unben yn gyrru trigolion ei wlad i farw ddim yn atebol yn yr un ffordd ac y mae arlywydd etholedig yn atebol.


Bww, mae'r hen Tony Blair 'na yn warnik afiach. Dw i ddim yn ei licio fo dim mwy. Rhywun arall fydd yn cael fy mhleidlais inna y tro nesa.

Efo pob parch, dw i'n meddwl bod chdi'n cymysgu 'trefn atebolrwydd' efo 'cystadleuaeth poblogrwydd'.

Ar y llaw arall, taset ti'n dweud bod angen i wladwriaeth sydd am fynd i ryfel weithredu gyda chydsyniad mwyafrif clir o boblogaeth y wlad sy'n mynd i gael ei bomio, dw i'n meddwl gallswn i gytuno efo hynna.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Dan Dean » Llun 28 Awst 2006 12:59 am

Garnet Bowen a ddywedodd:
Dan Dean a ddywedodd:Felly ti'n dweud nad yw Hezbollah yn atebol i NEB achos nid ydynt wedi enill yr etholiad? Wel dydi hyn yn sicr ddim yn wir. Maent hefyd yn chwarae rhan mawr ym mywyd cymdeithasol Libanus drwy redeg ysgolion, ysbytai, llysoedd a.y.y.b. A mi roeddynt yn sicr yn atebol i drigolion Libanus pan cafwyd ei greu - i gwffio byddin terfysgol Israel yn 1982 yng ngwlad eu hunain.


Dwi ddim yn meddwl dy fod ti'n deallt y cysyniad o atebolrwydd. Tydi 'run o'r petha ti'n eu rhestru uchod yn gwneud Hizbollah yn atebol am eu gweithredoedd terfysgol.


PA WEIHTHREDOEDD TERFYSGOL? Dwin pwyntio allan yn hawdd bod na llawer mwy na "terfysgaeth" i Hezbollah a dyna yw dy ateb di?? Fel dwi di dweud yn barod, os na bwriad Hezbollah o'r dechrau un yw terfysgu yn erbyn Iddewon yna maent yn gwneud job shit ohoni.

Garnet Bowen a ddywedodd:Ti i weld yn credu fod terfysgaeth fel term sy'n disgrifio unrhyw weithred dreisgar sydd a gwraidd wleidyddol iddi. Ond nid dyma ydi terfysgaeth. Trais gwleidyddol wedi ei ddefnyddio mewn ffordd benodol ydi terfysgaeth.


Nadw. Dwi heb son am wleidyddiaeth o gwbwl. Tria eto. Ac os wyt yn meddwl nad yw'r engraifft clir o derfysgaeth dwi wedi rhoi DDIM yn derfysgaeth yna ti yn fong. Class A mong. George Bush apologist mong. Ti i weld hefyd yn credu bod democratiaeth yn effaith ar ymosodiad sydd yn amlwg yn derfysgaeth o bob un diffiniad. Anghywir o bob cyfri, hen goes.

Garnet Bowen a ddywedodd:Os ydi gwladwriaeth yn defnyddio trais, yna mae hi'n hanfodol fod y wlad hono yn gweithredu gyda chyd-syniad ei dinasyddion - tydi unben yn gyrru trigolion ei wlad i farw ddim yn atebol yn yr un ffordd ac y mae arlywydd etholedig yn atebol.

Cyn ymosod ar Libanus yn ddi-drugaredd, ni wnaeth byddin Isael gofyn i drigolion Isael eu barn am y syniad o ddinistrio Libanus. Os wyt yn meddwl bod trigolion Israel yn rheoli byddin Israel yna mi wyt yn HOLLOL anghywir. Nid yw byddin Israel yn ddemocrataidd, a dwi ddim yn meddwl, er engraifft, wnaeth byddin Israel ymosod ar Libanus yn 1982 drwy bleidlais democrataidd.

Mae'n bosib fod rhaid i grwpiau anetholedig droi at drais yn achlysurol. Ond er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid mai trais ydi'r unig ddewis sydd ar gael iddyn nhw. Ac mae'n rhaid iddyn nhw fod yn barod i ateb am eu gweithredoedd.

Mae hyn yn union disgrifiad o sut aeth Hezbollah cael eu greu yn y lle cynta.

Garnet Bowen a ddywedodd:Mae defnyddio trais mewn modd anghyfrifol, sy'n debygol o niweidio pobl ddiniwed, yn nodwedd o derfysgaeth.

Hollol gywir. A ni elli di ddadla yn erbyn y faith na dyma be mae Israel wedi ei wneud yn erbyn Libanus ers Gorffenaf 12fed. Ac y carpet bombing o bentrefi Affganistan. Ond mae gennyf deimlad gwirion yn fy nghorff nad wyt ti yn fodlon galw pethau felma yn ymosodiad derfysgol oherwydd "democratiaeth".

Garnet Bowen a ddywedodd:Wrth gwrs, mae gwahanol ffyrdd o ddehongli terfysgaeth. Dwi'n cydnabod fod rhaid defnyddio trais gwleidyddol weithiau, er mwyn rhwystro dioddefaint neu anghyfianwder. Ond i mi, mae'n rhaid i'r trais hwnw fod yn atebol.

Os ydi gwladwriaeth yn defnyddio trais, yna mae hi'n hanfodol fod y wlad hono yn gweithredu gyda chyd-syniad ei dinasyddion

Yn amlwg, mi roedd trigolion Iwerddon yn hoff o'r syniad o'r IRA yn cwffio'r Brits yn y 1910au hwyr.

Yn amlwg, roedd trigolion Libanus yn hoff o'r syniad bod Hezbollah yn cwffio byddin Israel yn 1982...

"Gwladwriaeth" neu beidio.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Dan Dean » Llun 28 Awst 2006 2:53 pm

Mi driai ymateb sobrach tro ma.
Garnet Bowen a ddywedodd:Mae defnyddio trais mewn modd anghyfrifol, sy'n debygol o niweidio pobl ddiniwed, yn nodwedd o derfysgaeth. Ac mae Israel yn bendant yn euog o ddefnyddio trais mewn modd sydd ddim yn gymhedrol. Ond un nodwedd o derfysgaeth ydi hyn. Tydi'r nodwedd yma ar ei phen ei hun ddim yn gwneud rhywun yn derfysgwr. Troseddwyr rhyfel, efallai, ond nid terfysgwyr.

Nodwedd o derfysgaeth? Terfysgaeth ydio, dim ots pwy sy'n wneud o. Dim ots os yw'n wleidyddol neu beidio. Dim ots os yw'r traflegryn yn ddemocrataidd. Dim ots os yw'r pwy bynnag sydd yn ei wneud o yn arbenigwr o'r fath beth. Mi roedd rhan fwyaf o'r ymosodiad ar Libanus yn derfysgaeth yn erbyn trigolion Libanus. Trosedd rhyfel yw terfysgaeth, oherwydd mae rhan fwya o droseddau rhyfel yn ymosodiad ar pobol diniwed mewn ffordd derfysgol. Mae troseddwyr rhyfel hefyd yn derfysgwyr.

Garnet Bowen a ddywedodd:Os ydi gwladwriaeth yn defnyddio trais, yna mae hi'n hanfodol fod y wlad hono yn gweithredu gyda chyd-syniad ei dinasyddion

Ond nid oes gan y dinasyddion syniad sut mae'r trais yna yn mynd i'w gael ei defnyddio. Wyt ti'n honni roedd dinasyddion Israel yn gofyn i'r fyddin i ddinistrio Libanus yn y modd sydd wedi digwydd? Aeth Blair weithredu yn erbyn Irac gyda cyd-syniad dinasyddion Prydain? Naddo.

Fel dwi wedi ddeud yn barod, os yw Hamas yn hunan fomio eto gan lladd nifer o bobol diniwed, nid yw'r ffaith eu bod nhw wedi cael eu ethol yn ddemocrataidd yn gwneud mymryn o wahaniaeth, felly ni ddylir democratiaeth ddim yn dod fewn i'r peth wrth son am derfysgaeth. A fallai bod rhan fwyaf o Balestiniaid yn cefnogi ymosodiad o'r fath. Yw hynnu yn gwneud gwahaniaeth am natur yr ymosodiad? Nadi.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Garnet Bowen » Llun 28 Awst 2006 7:17 pm

Dan Dean a ddywedodd:Nodwedd o derfysgaeth? Terfysgaeth ydio, dim ots pwy sy'n wneud o. Dim ots os yw'n wleidyddol neu beidio. Dim ots os yw'r traflegryn yn ddemocrataidd. Dim ots os yw'r pwy bynnag sydd yn ei wneud o yn arbenigwr o'r fath beth. Mi roedd rhan fwyaf o'r ymosodiad ar Libanus yn derfysgaeth yn erbyn trigolion Libanus. Trosedd rhyfel yw terfysgaeth, oherwydd mae rhan fwya o droseddau rhyfel yn ymosodiad ar pobol diniwed mewn ffordd derfysgol. Mae troseddwyr rhyfel hefyd yn derfysgwyr.


Ti'n penderfynnu ail-ddiffinio termau yn ol dy fympwy dy hun. A 'dio ddim y tro cyntaf. Mae dadlau fod troseddau rhyfel a terfysgaeth yr un peth llawn mor hurt a dadlau fod taflegryn depleted uranium yn arf niwcliar. Fedri di ddim penderfynnu yn sydyn fod gair neu derm yn golygu yr hyn 'sa chdi'n licio iddo fo olygu. Mae o 'run mor hurt a fi'n deud fod eliffant a hufen ia yr un peth.

Fel dwi 'di deud eisioes, mae terfysgaeth yn rhannu'r un nodweddion a rhai trosedau rhyfel. Ond dio'm yn golygu fod y ddau derm yn golygu'r un fath.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dan Dean » Llun 28 Awst 2006 8:53 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Ti'n penderfynnu ail-ddiffinio termau yn ol dy fympwy dy hun. A 'dio ddim y tro cyntaf. Mae dadlau fod troseddau rhyfel a terfysgaeth yr un peth llawn mor hurt a dadlau fod taflegryn depleted uranium yn arf niwcliar. Fedri di ddim penderfynnu yn sydyn fod gair neu derm yn golygu yr hyn 'sa chdi'n licio iddo fo olygu. Mae o 'run mor hurt a fi'n deud fod eliffant a hufen ia yr un peth.

[OCHENAID ANFERTH]

Sbia ar yr engraifft dwi di rhoi. Yn amlwg mae'n dangos trosedd rhyfel lle mae gweithred derfysgol yn erbyn pobol diniwed wedi digwydd. Kill anything that moves - 100% terfysgaeth. A dwi ddim yn honni bod y ddau yr un peth. Mae na ffyrdd eraill i droseddu rhyfel hefyd.

Garnet Bowen a ddywedodd:Trais gwleidyddol wedi ei ddefnyddio mewn ffordd benodol ydi terfysgaeth.

Be os dwi yn bomio rhywle efo llwyth o bobol am laff? Dwi sicr yn derfysgwr wedyn, ond nid oes rheswm gwleidyddol i mi wneud o. Felly nid oes rhaid i'r trais fod yn wleidyddol.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 29 Awst 2006 10:21 am

Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Garnet Bowen » Maw 29 Awst 2006 5:35 pm

Dan Dean a ddywedodd: Kill anything that moves - 100% terfysgaeth.


Dan Dean a ddywedodd:Be os dwi yn bomio rhywle efo llwyth o bobol am laff? Dwi sicr yn derfysgwr wedyn, ond nid oes rheswm gwleidyddol i mi wneud o.


Dwi'n anghytuno efo'r ddau ddyfyniad uchod. Mae 'na lot o ddadlau ynglyn a beth yn union ydi terfysgaeth. Ond i mi, mae'n rhaid bod 'na elfen wleidyddol i'r trais. Fel arall, ti mewn peryg o alw pawb o Jack the Ripper i'r Washington Sniper yn derfysgwr.

Dwi'n credu'n gryf fod yn rhaid ymladd i warchod ystyr geiriau, yn enwedig mewn cyd-destun gwleidyddol. Drwy ddeud fod gair yn gallu golygu unrhywbeth, mae o'n mynd i olygu dim byd yn y pen draw.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dan Dean » Maw 29 Awst 2006 8:05 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi'n credu'n gryf fod yn rhaid ymladd i warchod ystyr geiriau, yn enwedig mewn cyd-destun gwleidyddol. Drwy ddeud fod gair yn gallu golygu unrhywbeth, mae o'n mynd i olygu dim byd yn y pen draw.

Diddorol, achos dwin meddwl mae dweud bod rhaid i derfysgwr fod efo rheswm gwleidyddol dros derfysgu yn amharu ar be mae'r gair "terfysgwr" yn feddwl yn lythrennol. Ac yndw, mi fuaswn yn fodlon galw'r sniper yn derfysgwr hefyd, yr un ffordd mi fuasai hefyd yn derfysgwr os wnaeth o hyn achos ei fod o'n erbyn polisiau'r Ty Gwyn.

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Adroddiad Amnest Ryngwladol - "Israel/Lebanon - Deliberate destruction or 'collateral damage'? Israeli attacks on civilian infrastructure"

"Collateral damage" fy nhin.

"Where to attack? Once it is inside Lebanon, everything is legitimate - not just southern Lebanon, not just the line of Hezbollah posts." - Major-General Udi Adam

"we will turn Lebanon's clock back 20 years." - Lieutenant-General Dan Halutz
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron